Hawliau Tramwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y gŵyr, yn rhan o ffrwd waith y grŵp cynghori ar ddiwygio mynediad, y mae fy nghyd-Aelod wedi ei sefydlu, mae tri gweithgor arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid mewn cysylltiad â rheoli tir, ac mae'r grwpiau hynny yn archwilio goblygiadau cyfreithiol ac ariannol rhai o'r cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried a byddant yn parhau i wneud hynny. Y bwriad yw cael adroddiad gan y grŵp hwnnw, sy'n edrych ar y materion hyn yn eu cyfanrwydd, erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Ond mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer cyflwyno mwy o hyblygrwydd, os hoffech chi, i dirfeddianwyr mewn cysylltiad â'r cwestiwn o ddargyfeirio neu, yn wir, o ddileu rhai llwybrau tramwy, ac rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynigion tebyg ar gyfer diwygio yn rhan o'n ffrwd waith bresennol.