2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill yn Llywodraeth y DU ynghylch gwneud newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau tramwy yng Nghymru? OQ55732
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen i ddiwygio mynediad, fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 2019.
Byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, bod dau gerddwr wedi eu lladd ar lwybrau tramwy cyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl dod i gysylltiad â da byw. Ers mis Mawrth 2000, mae 98 o bobl wedi colli eu bywydau yn yr un modd, ac mae llawer o rai eraill wedi eu hanafu wrth ddefnyddio'r llwybrau tramwy hyn. Nawr, mae pedwar grŵp—y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r Gynghrair Cefn Gwlad—wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Gardiner, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Bioddiogelwch, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses bresennol ar gyfer dargyfeirio llwybrau tramwy cyhoeddus yn barhaol yn rhoi digon o hyblygrwydd i ganiatáu newidiadau dros dro i lwybrau. Mae'r Gweinidog yn cael ei annog mewn gwirionedd i ddiwygio Deddf Priffyrdd 1980. Yn ôl y canllawiau i awdurdodau lleol ar lwybrau tramwy cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf Priffyrdd yn dal i fod yn gymwys yma yng Nghymru. Felly, a fyddwch chi'n cysylltu â'r Arglwydd Gardiner, neu yn wir unrhyw swyddog cyfreithiol perthnasol arall yn Llywodraeth y DU, i weld a all Llywodraeth Cymru weithio i weithredu newidiadau i hwyluso'r broses ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr y mae angen iddyn nhw weithredu dargyfeiriadau dros dro yma yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y gŵyr, yn rhan o ffrwd waith y grŵp cynghori ar ddiwygio mynediad, y mae fy nghyd-Aelod wedi ei sefydlu, mae tri gweithgor arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid mewn cysylltiad â rheoli tir, ac mae'r grwpiau hynny yn archwilio goblygiadau cyfreithiol ac ariannol rhai o'r cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried a byddant yn parhau i wneud hynny. Y bwriad yw cael adroddiad gan y grŵp hwnnw, sy'n edrych ar y materion hyn yn eu cyfanrwydd, erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Ond mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer cyflwyno mwy o hyblygrwydd, os hoffech chi, i dirfeddianwyr mewn cysylltiad â'r cwestiwn o ddargyfeirio neu, yn wir, o ddileu rhai llwybrau tramwy, ac rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynigion tebyg ar gyfer diwygio yn rhan o'n ffrwd waith bresennol.