Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 20 Hydref 2020.
Wel, a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian? Does dim digon o gyfeiriadau at waith un o'n prifeirdd ni yma yn y Senedd, felly diolch iddi hi am ein hatgoffa ni o gerdd Cynan. Mae, wrth gwrs, cwestiynau ynglŷn â newid y system gynllunio yn y maes hwn yn gwestiynau cymhleth iawn; hynny yw, ar y cyfan, pwrpas cyfraith gynllunio yw rheoli defnydd yn hytrach na pherchnogaeth, felly mae hynny'n un o'r sialensau y mae'n rhaid edrych arnyn nhw. Fy marn i yw bod edrych ar y system gynllunio heb ddiwygiadau ehangach ddim yn debygol o allu cyrraedd y nod y mae'r Aelod yn sôn amdano.
O ran cyllid, wrth gwrs, mae mwy o bwerau cyllid ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru nag sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio. Rwy'n credu bod rhyw 25,000, fwy neu lai, o ail gartrefi yn dod o fewn regime y dreth gyngor yma yng Nghymru, a dim ond rhyw 14,000 o'r rheini sydd yn cael y premiwm uchaf yn cael ei godi arnyn nhw. Felly, mae mwy o sgôp o fewn y rheoliadau sydd gennym ni i ddefnyddio'r pwerau yna i allu rheoli hynny nag sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Felly, o edrych ar y sialensau cyfreithiol penodol, mae amryw o gamau y mae'n rhaid eu cymryd cyn edrych ar blatfform ehangach o newid deddfwriaeth, buaswn i'n awgrymu.