Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 20 Hydref 2020.
Ar hyn o bryd, does yna ddim mecanwaith cyfreithiol i atal tai rhag cael eu gwerthu am grocbris a'u defnyddio fel ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu yn amlinellu'r newidiadau sydd eu hangen i'r gyfraith ym maes cynllunio ac ym maes cyllid i ddod â'r sefyllfa o dan reolaeth. Efallai byddwch chi wedi clywed am sefydlu ymgyrch Hawl i Fyw Adra gan griw o bobl ifanc yn Llŷn sydd yn methu prynu tai yn eu bro oherwydd y sefyllfa annheg. Gan chwarae ar eiriau Cynan am Aberdaron, y neges gafodd ei rhannu dros y penwythnos oedd, 'Cynan, does dim gobaith i brynu bwthyn unig nac unrhyw dŷ ger tonnau gwyllt y môr', gan gyfeirio'n reit glyfar, dwi'n credu, at gerdd enwog y bardd. Ydych chi'n credu, ac yn cytuno, fod angen newidiadau brys i'r gyfraith i roi'r hawl i bobl ifanc gael byw yn eu cymuned? Os felly, pa gynlluniau ydych chi'n gweithio arnyn nhw a phryd gawn ni eu gweld nhw?