Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Hydref 2020.
Ar hyn o bryd, rydym ni'n dal wrthi'n ystyried sail fanwl y cais i ymyrryd. Mae diddordeb Llywodraeth Cymru yn yr achos yn ymwneud â sut y caiff testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith ei ddehongli gan y llysoedd, sy’n fater pwysig dros ben i Weinidogion, gan fod gan y ddwy iaith statws cyfartal i bob pwrpas.