Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Hydref 2020.
Fel rydych chi'n sôn, mae hwnnw'n un mater o bwys sy'n codi o ddyfarniad y llys gweinyddol, sef yr un ynglŷn â chyfartaledd testun Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth yng Nghymru, ond y llall, efallai, sydd o fwy o ddiddordeb eang, sef hawl pob dinesydd yng Nghymru i gael mynediad rhwydd at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith iaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar y Gymraeg. Mae'r cyngor, wrth geisio herio sail 2(g) y dyfarniad, yn parhau i fethu'n lân â derbyn nad ydy cynyddu llefydd mewn addysg Gymraeg ar lefel sirol yn gwneud iawn am dynnu darpariaeth o un gymuned, gan olygu y byddai'r disgyblion hynny wedi cael eu colli am byth o addysg Gymraeg, a'r llys sydd yn dweud hynny. Dwi'n ategu eto ei bod hi'n gywilydd o beth i unrhyw awdurdod cyhoeddus fod yn herio'r dyfarniad ar y sail hon, a dwi'n eich gwahodd chi i gadarnhau'n ddiamwys na fyddwch chi, fel Llywodraeth, yn herio'r dyfarniad ar y sail yma.