2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd fel parti yn ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i herio dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn y cyngor hwnnw? OQ55730
Ar hyn o bryd, rydym ni'n dal wrthi'n ystyried sail fanwl y cais i ymyrryd. Mae diddordeb Llywodraeth Cymru yn yr achos yn ymwneud â sut y caiff testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith ei ddehongli gan y llysoedd, sy’n fater pwysig dros ben i Weinidogion, gan fod gan y ddwy iaith statws cyfartal i bob pwrpas.
Fel rydych chi'n sôn, mae hwnnw'n un mater o bwys sy'n codi o ddyfarniad y llys gweinyddol, sef yr un ynglŷn â chyfartaledd testun Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth yng Nghymru, ond y llall, efallai, sydd o fwy o ddiddordeb eang, sef hawl pob dinesydd yng Nghymru i gael mynediad rhwydd at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith iaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Siôn Norton yng Nghilfynydd oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar y Gymraeg. Mae'r cyngor, wrth geisio herio sail 2(g) y dyfarniad, yn parhau i fethu'n lân â derbyn nad ydy cynyddu llefydd mewn addysg Gymraeg ar lefel sirol yn gwneud iawn am dynnu darpariaeth o un gymuned, gan olygu y byddai'r disgyblion hynny wedi cael eu colli am byth o addysg Gymraeg, a'r llys sydd yn dweud hynny. Dwi'n ategu eto ei bod hi'n gywilydd o beth i unrhyw awdurdod cyhoeddus fod yn herio'r dyfarniad ar y sail hon, a dwi'n eich gwahodd chi i gadarnhau'n ddiamwys na fyddwch chi, fel Llywodraeth, yn herio'r dyfarniad ar y sail yma.
O ran yr egwyddor y mae'r Aelod yn datgan yn y cwestiwn hwnnw—hynny yw, yr egwyddor o fynediad a chynyddu mynediad at addysg Gymraeg—mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i'r egwyddor honno, am resymau, rwy'n credu, y byddai'r Aelod yn derbyn ac yn cytuno â nhw. O safbwynt y maes polisi, gan ein bod ni ar hyn o bryd yn dal i edrych ar y dadansoddiad cyfreithiol, rwy'n mynd i osgoi manylu ar hynny yn y drafodaeth hon. Ond byddwn i'n hapus yn y dyfodol, pan fydd y drafodaeth honno wedi cyrraedd pen llanw, fel petai, yn fewnol, i ateb cwestiynau pellach, pan fydd y materion hynny wedi dod i gasgliad. Ond, mi wnaf i ddweud yn y cyfamser, yn rhinwedd fy swydd i fel swyddog y gyfraith yn y Llywodraeth, ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd y cyfle i wneud dadl dros sut i ddehongli y Gymraeg mewn Deddfau a deddfwriaeth, a hefyd i sicrhau bod yr egwyddor hafal honno yn cael ei phwysleisio.
Hefyd, efallai'n ehangach—heb fynd i faes polisi ond jest i roi ychydig mwy o fanylion, efallai—mae'r cwestiwn o ddehongli a ydy cymal statudol yn dangos rhestr gyflawn ai peidio o'r amgylchiadau a'r meini prawf y mae'n rhaid eu cymryd i mewn i ystyriaeth yn gwestiwn pwysig, gydag impact ehangach, efallai, na'r cymal penodol hwn. Ond, fel roeddwn i'n ei ddweud, maes o law, pan fydd y penderfyniadau yma wedi cael eu cymryd yn fewnol, a'r cyngor cyfreithiol wedi cael ei gloriannu, byddwn i'n hapus i ateb cwestiynau pellach ar y manylion hynny mewn cwestiynau pellach.