Ail Gartrefi

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:43, 20 Hydref 2020

Mae mesurau eisoes ar waith yng Nghymru—mesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol—sy’n effeithio ar y defnydd o ail gartrefi. Byddai unrhyw gamau pellach yn golygu goblygiadau i gymunedau, y maes tai, twristiaeth, yr economi, Trysorlys Cymru a llywodraeth leol. Wrth edrych ar y materion yma, rhaid gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o ran a oes angen cael deddfwriaeth bellach ai peidio.