Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb ar y cyd a chytundeb yn y sylwadau hynny gan Helen Mary, ac rwy'n croesawu hynny. O ran ei chwestiynau, bydd, fe fydd y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gael, fel mewn rowndiau blaenorol, a oedd yn helpu cwmnïau bysiau a cherbydau, yn amodol, wrth gwrs, ar feini prawf cymhwysedd. Ond, mewn egwyddor, dyna yw ein disgwyliad ni: y gall ac y bydd cwmnïau bysiau yn derbyn cymorth drwy honno.
O ran y datgarboneiddio, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr sydd wedi cael grantiau bysiau trydan gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rydym yn sicr wedi helpu awdurdodau lleol gyda'r ceisiadau hynny, ac rydym wedi bod yn rhoi rhywfaint o gymorth, rwy'n credu, i Fws Caerdydd ar gyfer bysiau trydan. Credaf mai dyna un o'r meysydd lle'r ydym ni'n awyddus i wneud mwy, gan gydnabod mai un o'r heriau sydd gennym o fewn y Llywodraeth o ran cefnogi'r diwydiant bysiau yw iddi fod yn haws cael gafael, yn hanesyddol, ar gyllid cyfalaf gan yr Adran Drafnidiaeth nag ar gyllid refeniw. Felly, yn amlwg, o ran y ffordd y gallwn ni helpu i wella'r drafnidiaeth a gynigir drwy gyfalaf—helpu i brynu bysiau, yn hytrach na chyllid i redeg gwasanaethau—mae hynny'n haws.
Mae'r Aelod yn sôn am rai gwasanaethau yn fy etholaeth i fy hun—Llangennech a Thrimsaran. Mae hwn yn hanes cyfarwydd i'r Aelodau ledled y wlad: bod y gwaith o gynyddu gwasanaethau bysiau wedi bod yn broblem, yn amlwg, gyda gyrwyr bysiau yn dal i fod ar ffyrlo, gyda'r effaith y mae'r gofyniad o gadw pellter cymdeithasol yn ei chael ar hyfywedd gwasanaethau, a'r holl ystod o rwystrau ymarferol a roddwyd ar waith sydd gan awdurdodau lleol, o ran amser eu swyddogion nhw eu hunain, i wneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, mae hwnnw'n ddarlun cyfarwydd, yn amlwg. Pan oeddem ni mewn hanner mesurau dros yr haf, ni fu'n bosibl—nac, yn wir, yn hyfyw—oherwydd y cwymp mewn refeniw tocynnau, i ddychwelyd i wasanaethau llawn. Yn amlwg, fel y byddwn yn symud o'r gaeaf at y gwanwyn a'r haf, byddem yn gobeithio cynyddu'r gwasanaethau hynny, fel y bydd cymaint o wasanaethau â phosibl yn dychwelyd eto.
Fe ofynnodd am wahanol fodelau o berchnogaeth—cydberchnogaeth a di-elw. Yn sicr, un o'r pethau yr oeddem wedi gobeithio ei gyflwyno yn y Bil ac y bu'n rhaid inni ei ohirio oedd caniatáu i awdurdodau lleol redeg eu cwmnïau bysiau nhw eu hunain, sy'n rhywbeth yr oeddem yn frwd iawn yn ei gylch. Felly, fel y dywedais, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu parhau â hynny unwaith eto, oherwydd mae hwnnw, yn fy marn i, yn ddyhead cyffredin i ni.
Yn y cyfamser, rydym yn ystyried swyddogaeth bosibl Trafnidiaeth Cymru fel darparwr uniongyrchol. Nid oes unrhyw reswm pam, mewn egwyddor—. Mae gennym ni fodel, sef corff hyd braich, a allai redeg gwasanaethau yn uniongyrchol pe bai angen hynny, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth iddo mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar sail ranbarthol. Felly, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r cwestiynau a ofynnwyd gennych yna.