2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am agor canolfannau addysg awyr agored yn ystod pandemig COVID-19? OQ55739
Diolch, Russell. Rwy'n cydymdeimlo â'r her a wynebir gan ganolfannau addysg awyr agored oherwydd y pandemig. Mae ein canllawiau presennol yn cynghori yn erbyn teithiau ysgol preswyl domestig, ond mae'n caniatáu teithiau dydd amhreswyl domestig. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu'n barhaus a bydd y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf yn llywio'r wybodaeth ddiweddaraf.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar eich bod yn cydymdeimlo, fel y nodwyd gennych. Mae dwy ganolfan awyr agored, fel mae'n digwydd, wedi bod mewn cysylltiad â mi, canolfannau sydd wedi'u lleoli ym Mhowys yn fy etholaeth; rwy'n gwybod, Weinidog, y bydd gennych ganolfannau awyr agored tebyg yn eich etholaeth eich hun ym Mhowys hefyd. Maent yn awyddus i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau a fydd yn caniatáu iddynt ailagor ar yr un sail ag ysgolion, i'w hatal rhag mynd rhwng y cŵn a'r brain. Byddwn yn awgrymu bod canolfannau addysgol awyr agored yn cynnig manteision enfawr o ran datblygiad personol, addysg ac iechyd corfforol a meddyliol. Rwy'n ymwybodol fod Tim Farron AS yn ymgyrchu dros newid yng nghanllawiau cyfredol Llywodraeth y DU, sy'n atal ymweliadau addysgol dros nos mewn canolfannau addysgol awyr agored, ac rwy'n ymgyrchu'n gryf dros yr un peth yma yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, a fyddwch yn gallu trafod gyda'ch cyd-Aelodau a chymryd camau i ganiatáu iddynt ailagor, gyda chanllawiau priodol i ddilyn, ar ôl y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud a ddaw i ben ddechrau mis Tachwedd?
Russell, rydych yn gywir—gall addysg awyr agored roi manteision enfawr i blant a phobl ifanc, ac fel y dywedoch chi, mewn amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth sy'n datblygu. Ar hyn o bryd, gall teithiau dydd i ganolfannau preswyl o'r fath fynd rhagddynt, a chyn belled â bod ysgolion yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n asesu risg, nid oes rheswm pam y dylai'r holl weithgareddau hynny ddod i ben. Ond ar hyn o bryd, mae cyngor gwyddonol yn glir iawn nad yw teithiau preswyl yn briodol. Ond fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i chi, byddwn yn parhau i adolygu hynny, ac nid ydym eisiau cyfyngu ar y teithiau preswyl hynny am eiliad yn hwy na sydd angen, o ystyried y manteision rydych wedi'u hamlinellu i blant.
Weinidog, diolch i chi am y sicrwydd nad ydych eisiau cadw'r rhain ar gau ar gyfer ymweliadau preswyl am funud yn fwy nag sy'n angenrheidiol, ac y byddwn, pan fydd hi'n ddiogel, yn dychwelyd at gael ymweliadau preswyl. Fe fydd hi'n gwybod mai ymweld â chanolfannau addysg awyr agored, i lawer ohonom, oedd y tro cyntaf inni gael ein trochi mewn amgylchedd awyr agored, a dysgu, drwy sgiliau a hyder a hunan-barch, yr holl fanteision a ddaw o hynny. Felly, a gaf fi ofyn iddi, yn gyntaf, a fydd hi, ynghyd â chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, yn parhau i weithio gyda phobl fel y Sefydliad Dysgu yn yr Awyr Agored a Chynghrair Awyr Agored Cymru i roi'r cynlluniau hynny ar waith ar gyfer pan allwn ddychwelyd at ddysgu preswyl yn yr awyr agored? Ond yn ail, a wnaiff hi hefyd, gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r cynlluniau cefnogi swyddi presennol sydd ganddynt i ymestyn eu cyrhaeddiad i'r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored? Ar hyn o bryd, nid ydynt yn gallu gwneud cais am y cymorth hwnnw, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn goroesi'r cyfyngiadau presennol hyn, er mwyn ailadeiladu ar ôl yr argyfwng hwn.
Diolch, Huw. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi rhannu eich profiad—mai'r gallu i fynd ar daith breswyl oedd y cyfle cyntaf i dreulio amser estynedig yn yr amgylchedd naturiol. A gwn fod hwnnw'n rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan lawer o ysgolion mewn rhannau o Gymru lle mae mynediad at yr awyr agored yn fwy cyfyngedig o bosibl, gallu mynd â phlant allan i ardaloedd—megis etholaeth Russell George, ac yn wir i Frycheiniog a Sir Faesyfed—i roi'r profiad hwnnw iddynt a gobeithio, cariad a diddordeb gydol oes mewn treulio amser yn yr awyr agored.
Fel y dywedais, rydym yn parhau i adolygu'r mater hwn. Cyfarfu fy swyddogion â Iechyd Cyhoeddus Cymru mor ddiweddar â 14 Hydref, i drafod priodoldeb y cyngor presennol. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni argymhellir teithiau preswyl, ond cyn gynted ag y gallwn wneud hynny, byddwn yn amlwg eisiau newid hynny.
O ran trafodaethau am gymorth economaidd, gan gydnabod pwysigrwydd addysg awyr agored i blant yn ogystal â'r ffaith eu bod, mewn gwirionedd, yn gyflogwyr gwerthfawr yn eu hawl eu hunain mewn cymunedau gwledig, gall canolfannau o'r fath wneud cais am gefnogaeth gan y gronfa cadernid economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i darparu. Ond byddaf yn sicr yn cyflwyno'r sylwadau rydych wedi gofyn amdanynt y prynhawn yma, a byddaf yn ysgrifennu'n ôl at yr Aelod.