1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2020.
7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sector treftadaeth Cymru cyn yr etholiad seneddol nesaf? OQ55800
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu i liniaru effeithiau'r pandemig ar y sector treftadaeth trwy ddarparu pecynnau cymorth ariannol, canllawiau a chyngor. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau drwy weddill y tymor Senedd hwn, gan gynnwys pwyslais ar adferiad yn y tymor hwy.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n amlwg bod pandemig COVID wedi taro'r sector treftadaeth yn galed. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ill dau yn sefydliadau sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn refeniw oherwydd diffyg ymwelwyr, neu ddim ymwelwyr, ond mae hyn ar ben gostyngiadau sylweddol mewn cyllid cymorth grant cyn dechrau'r pandemig. Mae'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn rhannau hanfodol o dreftadaeth a diwylliant Cymru, ac mae angen eu cefnogi mewn modd digonol. Pa gynlluniau sydd gennych chi i roi sylfaen fwy cynaliadwy i'r ddau sefydliad, ynghyd â threfniadau cyllid hirdymor, i sicrhau y gallan nhw barhau i wasanaethu a bod o fudd i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru?
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n dod gyda'r amnesia dethol arferol gan y Blaid Geidwadol, oherwydd bod y rheswm dros y gostyngiadau mewn cymorth i'r sefydliadau hynny yng Nghymru yn ganlyniad degawd o gyni a orfodwyd ar bobl yng Nghymru gan ei phlaid hi, gyda gostyngiadau bob blwyddyn i'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru at yr holl ddibenion yr ydym ni'n eu darparu. Felly, y ffordd orau y gallwn ni sicrhau bod digon o gyllid, ar gyfer ein sefydliadau treftadaeth ac ar gyfer gweddill ein gwasanaethau cyhoeddus, yw sicrhau na chaiff y polisi hwnnw ei ailgyflwyno pan fydd cyfnod y pandemig ar ben. Bydd unrhyw beth y gall yr Aelod ei wneud i ddwyn perswâd ar ei chydweithwyr yn Llundain o fanteision y camau gweithredu y mae hi'n eu hargymell yn rymus iawn gyda nhw rwy'n siŵr.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn a'r ffrwd cyllid â blaenoriaeth gwerth £18 miliwn. Ers mis Medi mae sefydliadau diwylliannol a threftadaeth wedi gallu gwneud cais am gyllid wrth i ni ddechrau'r adferiad hir ac araf o argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac nid oes unrhyw sector o'n cymdeithas nad yw wedi dioddef effaith y pandemig hwn. Yn wir, y dirwedd ddiwylliannol yw gwead sylfaenol bywyd Cymru. Felly, Prif Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu'r angen, wrth symud ymlaen i 2021, i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol a threftadaeth Cymru fel na fyddan nhw'n cael eu colli i genedlaethau'r dyfodol?
Llywydd, diolchaf i Rhianon Passmore am hynny. Mae elfen treftadaeth y gronfa adferiad diwylliannol—bydd Aelodau yn gwybod bod pedair elfen i'r gronfa gwerth £53 miliwn—denodd y maes treftadaeth dros 120 o geisiadau, a hyd yn hyn mae dros £380,000 wedi ei gynnig mewn grantiau a'i dderbyn gan sefydliadau yn y sector. Rydym yn parhau i asesu, arfarnu a—lle bynnag y bo'n bosibl—cymeradwyo ceisiadau i'r gronfa. Mae'n rhaid i hynny gael ei wneud drwy broses banel. Mae rhai ceisiadau sylweddol gan sefydliadau mawr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sy'n dal i fynd drwy'r broses honno, felly rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i Rhianon Passmore nad yw'r £380,000 sydd wedi ei gytuno eisoes yn ddiwedd y stori, bod y paneli hynny yn parhau i gyfarfod, ac y bydd grantiau a dyfarniadau ychwanegol yn cael eu rhoi i'r sector treftadaeth yma yng Nghymru o'r gronfa gwerth £53 miliwn honno.