– Senedd Cymru am 7:09 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Iawn, dyma ni'n cyrraedd grŵp 8. Grŵp 8 yw'r gwelliannau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a rhannu swydd. Gwelliant 161 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar Delyth Jewell i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sydd wedi eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda sefydliadau allanol, sydd, fel minnau, yn wastadol siomedig o ran y diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Yng Nghyfnod 2 cyflwynais nifer o welliannau treiddgar ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, ni waeth sut aiff y bleidlais hon.
Gan droi at welliant penodol, ac wrth gwrs mae rhai ohonyn nhw yn ganlyniadol i'r prif rai, byddai gwelliant 162 yn caniatáu i gynghorwyr rannu swyddi. Mae trefniadau rhannu swyddi yn hollbwysig i wneud unrhyw swydd yn fwy hygyrch ac rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o symud ar hyn yn y dyfodol agos.
Byddai gwelliant 163 yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig ddarparu gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn ôl nodweddion gwarchodedig. Y gwir amdani yw bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus a gall gofyniad bach i gyhoeddi gwybodaeth, sef y cyfan y mae'r gwelliant hwn yn ei wneud, fod yn gyfraniad cadarnhaol i'r nod pwysig hwn.
Byddai gwelliant 172 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiweddaru eu cynlluniau cydraddoldeb strategol. Mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, eisoes yn adolygu ac yn diweddaru'r cynlluniau hynny, ond byddai'r gwelliant hwn yn sicrhau y byddai'r rhai nad ydyn nhw'n ei ystyried yn flaenoriaeth yn gwneud hynny.
Unwaith eto, rwyf yn ailadrodd fy mod yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno bod y rhain a nifer o welliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 yn dangos i ba raddau y dylem ni fod yn diweddaru llywodraeth leol, ei harferion a chystadleuaeth, a gobeithio y gallwn ni barhau â'r ddadl hon eto ni waeth beth fydd canlyniad y bleidlais, ond rwy'n gobeithio yn fawr iawn y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.
Byddai gwelliannau 178 a 179 yn dileu'r cyfyngiad ar nifer yr aelodau gweithredol mewn achosion lle caiff un neu fwy o gynghorwyr eu hethol neu eu penodi i'r weithrediaeth mewn swydd a rennir. Rwy'n deall yr egwyddor sy'n sail i'r gwelliant hwn, ac mae'n un sy'n hybu mwy o amrywiaeth, ond yn anffodus nid yw'r gwelliant yn ystyried goblygiadau posibl dull gweithredu o'r fath. Yn ystod datblygiad y Bil, er y rhoddwyd ystyriaeth i ba un a ddylid dileu'r cyfyngiad o 10 yn llwyr, y teimlad oedd bod angen cyfyngu ar faint cyffredinol y cabinet o hyd i sicrhau na fyddai nifer y cynghorwyr a oedd wedi eu cynnwys ynddo yn golygu bod gan y cabinet ormod o rym o fewn y cyngor yn ei gyfanrwydd.
Mae hyn yn arbennig o wir mewn cynghorau llai, ac mae gennym ni nifer o gynghorau sydd ag oddeutu 30 o aelodau. Er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar gyfer lefelau priodol o graffu ar y weithrediaeth, mae angen cynnal y cydbwysedd a dyma ble mae'r niferoedd yn bwysig. Gadewch i ni ystyried sefyllfa lle mae pob swydd weithredol yn cael ei dal ar sail rhannu swydd. Mewn rhai cynghorau, gallai hyn arwain at nifer fach iawn o aelodau a fyddai ar gael i lenwi swyddogaethau craffu hanfodol.
Rydym ni wedi cydnabod yr angen i gynyddu nifer yr unigolion a gaiff fod yn y weithrediaeth i ddarparu ar gyfer rhannu swyddi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig oedi a gweld sut mae hyn yn gweithredu yn ymarferol cyn ystyried rhagor o newidiadau i'r ddarpariaeth. Rwy'n galw felly ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 178 a 179, a hefyd gwelliant 161, sy'n ganlyniadol i'r gwelliannau hyn.
Mae gwelliant 162 yn cyflwyno darpariaeth i alluogi dau neu fwy o bobl i sefyll ar y cyd i gael eu hethol i un sedd cyngor. Rwy'n gefnogol iawn yn wir o fesurau sydd â'r bwriad o gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol. Fodd bynnag, nid wyf i'n credu y gallem ni fwrw ymlaen â newid mor fawr â hyn heb ymgynghori yn helaeth â'r etholwyr i gael gwybod pa un a ydyn nhw'n ei gefnogi, ac er mwyn gwneud hynny, bydd angen i ni fod yn glir ynghylch y cwestiynau y bydd angen eu hateb.
Bydd hyn yn golygu archwiliad trylwyr o bob agwedd ar y broses, o ddewis ymgeisydd, ei enwebu, ei ethol, i'r modd y byddai yn cyflawni ei swyddogaeth fel cynrychiolydd etholedig. Byddai angen archwilio'r corff presennol o etholiadau a deddfwriaeth gweinyddu llywodraeth leol yn eithaf manwl. Er enghraifft, a fyddai'n rhaid i bartneriaid rhannu swydd fod o'r un blaid? Beth pe byddai un o'r partneriaid rhannu swydd yn gadael y blaid yr oedd wedi sefyll drosti? Beth fyddai'n digwydd pe byddai etholwyr yn hapus â pherfformiad un rhannwr swydd ond nid â'r llall? Beth pe byddai arweinydd yn dymuno cynnwys un o'r rhai sy'n rhannu swydd yn y weithrediaeth ond nid y llall? A beth pe byddai un o'r rhanwyr swydd yn cael ei atal am gamymddwyn?
Dyna pam yr ymrwymais i ymgymryd â gwaith yn y maes hwn yn rhan o gam 2 ein rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf ac, o'r herwydd, rwy'n argymell y dylai Aelodau wrthod gwelliant 162 a hefyd gwelliannau 160 a 174, sy'n ganlyniadol iddo.
Gan droi at welliant 163, sy'n ceisio ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud ag amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau llywodraeth leol, byddai'r ddarpariaeth arfaethedig hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu ystod o faterion, megis disgrifiadau o wybodaeth i'w cyhoeddi, amseriad a dull y cyhoeddi, a disgrifiadau o'r pleidiau gwleidyddol y byddai'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt.
Mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu dadl hirsefydlog am yr angen i gael mwy o wybodaeth am yr ystod o bobl sy'n sefyll i gael eu hethol. Y rhesymeg dros gasglu data yw po fwyaf o wybodaeth sydd gennym ni, y mwyaf y gallwn ni fesur pa un a yw'r cymorth a'r ymyraethau a roddwyd ar waith yn effeithiol o ran cynyddu amrywiaeth o fewn democratiaeth leol.
Mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol, cytunais i asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gysylltiedig â'r arolwg ymgeiswyr ac aelodau etholedig, sydd wedi'i gynnal ar ôl pob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru ers 2012. Mae Adran 1 o Fesur 2011 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor yng Nghymru gynnal arolwg o ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus. Mae ffurf yr arolwg, ei gwestiynau a'r dull o goladu'r wybodaeth i gyd wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cwestiynau rhagnodedig yn cynnwys rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred. Yn wahanol i'r cynigion yng ngwelliant 163, mae gan yr arolwg y fantais o gynnwys aelodau annibynnol yn ogystal â'r rhai hynny sy'n cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Mae hwn yn fater arbennig o bwysig, o ystyried lefel y gynrychiolaeth annibynnol ledled Cymru.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod unigolion yn gallu darparu'r wybodaeth yn ddienw. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd ar yr unigolion hyn i ymateb, sy'n codi gwirionedd pwysig am gasglu'r data hyn. Gallwn roi unrhyw nifer o drefniadau ar waith, ond ni allwn, ac ni ddylem, ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddarparu'r hyn sydd, mewn rhai achosion, yn ddata sensitif. Gallai hyn mewn gwirionedd olygu na fydd pobl yn fodlon sefyll etholiad a'i fod yn dod yn rhwystr i amrywiaeth. Byddwn yn adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer yr arolwg etholiadau lleol yn rhan o gam 2 ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Yn rhan o'r gwaith hwn, byddwn ni'n gallu ystyried pa newidiadau, os o gwbl, y gellid eu gwneud i wella'r broses o gasglu data yn y maes hwn, a byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn y flwyddyn nesaf. Felly, er fy mod yn cefnogi'r meddylfryd y tu ôl i'r gwelliannau hyn, mae arnaf ofn na fyddaf yn eu cefnogi heddiw.
Gan droi at welliant 172. Mae ail ran y gwelliant yn ddiangen; bydd awdurdod newydd a sefydlir drwy reoliadau uno neu ailstrwythuro o dan Ran 7 y Bil yn ymgymryd ag ystod lawn o swyddogaethau a dyletswyddau awdurdod lleol ar y dyddiad trosglwyddo. Bydd felly yn gorff cyhoeddus fel y'i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Fel y cyfryw, bydd pob cyngor newydd yn ddarostyngedig yn awtomatig i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn Neddf 2010, bydd yn rhaid iddo gyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb, a bydd yn rhaid iddo wneud cynllun cydraddoldeb strategol—er gwaethaf y dyddiad yn rheoliad 14 o reoliadau 2011. Byddai'r cyfrwng priodol ar gyfer pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud y cynllun cydraddoldeb strategol yn y rheoliadau uno neu ailstrwythuro sy'n sefydlu'r awdurdod newydd.
Rwy'n credu ei bod yn debygol y byddwn ni yn dymuno i'r awdurdod newydd wneud ei gynllun cydraddoldeb strategol yn gynharach na'r 12 mis a awgrymwyd. Felly, gallem ni ei wneud yn un o swyddogaethau'r cyngor cysgodol a chyfarwyddo'r pwyllgor pontio perthnasol i wneud gwaith paratoi, er mwyn iddo allu bod ar waith ar y dyddiad trosglwyddo neu'n fuan iawn wedyn. Mae gofyniad adrodd i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru ailwneud neu adolygu eu cynllun cydraddoldeb strategol bob 10 mlynedd hefyd yn ddiangen. Mae cysylltiad cynhenid rhwng cynllun cydraddoldeb strategol awdurdod cyhoeddus a'i amcanion cydraddoldeb, ac mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus adolygu ei amcanion cydraddoldeb o leiaf bob pedair blynedd. Byddai'n anodd iawn i awdurdod gydymffurfio â rheoliadau 2011 yn gyffredinol pe na byddai'n adolygu ei gynllun cydraddoldeb strategol yn sgil adolygu ei amcanion cydraddoldeb. Fel y cyfryw, yn ymarferol, mae awdurdodau cyhoeddus yn adolygu eu cynlluniau cydraddoldeb strategol bob pedair blynedd, a byddai gosod dyletswydd statudol i adolygu neu ailwneud bob 10 mlynedd ddim ond yn ychwanegu at y beichiau monitro ac adrodd. Yn unol â hynny, mae'n ddrwg gen i ddweud fy mod i'n argymell na ddylai'r Aelodau cefnogi gwelliant 172. Diolch.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r Gweinidog. Dwi'n cymryd y pwyntiau am y pethau a all ddigwydd fel canlyniad i'r gwelliannau sydd yn anfwriadol. Dwi yn croesawu rhai o'r pethau mae'r Gweinidog yn eu dweud, ond oherwydd pa mor bwysig yw'r egwyddorion hyn, byddwn ni yn gwthio'r gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 161? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 161. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 12 yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.
Gwelliant 178. Delyth Jewell, ydych chi'n symud y gwelliant?
[Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad i'r gwelliant, felly pleidlais ar welliant 178. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 13 yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 178 wedi'i wrthod.
Gwelliant 179, yn enw Delyth Jewell. Ydy e'n cael ei gynnig?
Ydy. Oes rhywun yn erbyn? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, agor y bleidlais ar welliant 179. Cau'r bleidlais. O blaid naw, 13 yn ymatal, 29 yn erbyn. Gwelliant 179 wedi'i wrthod.
Gwelliant 162 yn enw Delyth Jewell yn cael ei symud. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 162. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 162 wedi'i wrthod.
Gwelliant 75 yn enw'r Gweinidog.
Oes gwrthwynebiad i welliant 75? [Gwrthwynebiad.] Oes, gan Gareth Bennett. Agor y bleidlais ar welliant 75. Cau'r bleidlais. O blaid 44, chwech yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei gymeradwyo.
Delyth Jewell, gwelliant 163.
Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly agor y bleidlais ar welliant 163. Cau'r bleidlais. O blaid 17, tri yn ymatal, 31 yn erbyn. Gwelliant 163 wedi ei wrthod.
Delyth Jewell, gwelliant 160.
Mae'n cael ei symud. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae'n cael ei wrthwynebu. Agor y bleidlais ar welliant 160. Cau'r bleidlais. O blaid naw, pump yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 160 wedi ei wrthod.