1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddwn ni i gyd, wrth gwrs, yn naturiol, wedi ein calonogi gan y llygedyn o obaith a welsom ddoe, ond, fel yr ydych chi'n dweud eich hun, ni ddylid ystyried brechlyn fel bwled arian, yn sicr yng nghyfnod hwn y pandemig. Ond serch hynny, roedd y newyddion, rwy'n credu, o bosibl yn leinin arian i'r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn dywyll ac anodd hyd yn hyn. A allwch chi ddweud ychydig mwy am y cynlluniau y cyfeiriasoch chi atyn nhw yn eich ateb yn gynharach? A ydych chi'n bwriadu, ar sail wrth gefn o leiaf, os caiff y cymeradwyaethau angenrheidiol eu rhoi, neu a oes potensial i gyflwyno'r brechlyn fis nesaf i gychwyn? Ac a allwch chi ddweud ychydig mwy am y cynlluniau logistaidd y cyfeiriasoch atyn nhw? Felly, a ydych o bosibl yn edrych ar rwydwaith o ganolfannau imiwneiddio torfol, canolfannau gyrru drwodd a awgrymwyd, timau imiwneiddio symudol o bosibl a chyfleusterau dros dro mewn meddygfeydd teulu? Pwy sy'n cydgysylltu ac yn arwain yr ymdrech hon ar draws y Llywodraeth? Ac o ran y cwestiwn oergelloedd y cyfeiriasoch ato, wrth gwrs, cafwyd trafodaeth am gapasiti oergelloedd o ran Brexit 'dim cytundeb' a meddyginiaethau flwyddyn yn ôl, ac efallai ein bod ni yn y sefyllfa honno unwaith eto. A ydych chi'n fodlon bod y capasiti gennym ni yn y gadwyn oer i ymdrin â'r feirws, o bosibl?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig yna? Rwy'n credu bod ei ddisgrifiad ohono fel llygedyn o obaith yn un da, gan fy mod i'n credu mai dyna ydyw. Mae yn obeithiol ac mae angen ychydig o obaith arnom ni yn y cyfnod anodd hwn, ond mae'n rhaid i ni beidio â'i orliwio ychwaith. Swyddfa'r prif swyddog meddygol yng Nghymru sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer unrhyw frechlyn a fydd yn dod ar gael i ni. Roedd y prif swyddog meddygol yn rhan o hyn mor bell yn ôl â mis Mehefin, ac roedd yn gohebu â'n byrddau iechyd ym mis Gorffennaf i wneud yn siŵr bod cynlluniau ar waith.
O ran y mater o storio, Llywydd, rwy'n credu mai ein disgwyliad ar hyn o bryd os mai brechlyn Pfizer fyddai ar gael yn gyntaf, gyda'r angen i'w storio islaw -75 gradd canradd, yna byddem ni'n defnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i Wasanaeth Gwaed Cymru, sydd â chyfleusterau ac mewn gwahanol rannau o Gymru sy'n gallu cadw pethau yn oer ar y tymheredd hwnnw. Ond ceir cymhlethdodau. Fy nealltwriaeth i o'r brechlyn hwn yw mai dim ond ar bedwar achlysur y gellir ei dynnu allan o'r oergell cyn nad oes modd ei ddefnyddio mwyach. Felly, ceir rhai cyfyngiadau gwirioneddol yn gysylltiedig ag ef. Mae'n rhaid ei roi ddwywaith, fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, bob tair wythnos, ac nid yw'n dod yn effeithiol tan yr wythnos gyntaf ar ôl rhoi ail ddos y brechlyn. Felly, dyna gyfres arall o gymhlethdodau anodd. Nid ydym ni'n gwybod eto pa un a fydd yn effeithiol ai peidio mewn pobl hŷn, ac mae honno yn her arbennig ar hyn o bryd gan mai cynllun Cymru, sy'n debyg iawn i gynlluniau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yw dechrau gyda grwpiau blaenoriaeth a dechrau gyda staff blaenoriaeth sy'n gallu rhoi'r brechlyn. Felly, ein bwriad yw y byddem ni'n dechrau gyda brechwyr profiadol, pobl sy'n gwneud hyn drwy'r amser, ac yna byddem ni'n ehangu y tu hwnt i hynny. Felly, mae hynny o ran darparu'r brechlyn.
O ran pwy fydd yn cael y brechlyn, tan y byddwn ni'n sicr—yn fwy sicr nag yr ydym ni ar hyn o bryd—ynghylch pa grwpiau yn y boblogaeth y bydd y brechlyn penodol hwn yn effeithiol ar eu cyfer, yna rydym ni'n debygol o ddechrau gyda staff gofal iechyd, staff gofal cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod gweithwyr rheng flaen sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl â coronafeirws yn cael eu brechu, ac yna, os yw'n effeithiol mewn pobl hŷn, yna preswylwyr cartrefi gofal a phobl yn ddiweddarach yn eu bywydau fydd yn cael y flaenoriaeth nesaf. Felly, system flaenoriaeth yw hi; bydd yn dibynnu ar ba mor gyflym y bydd y brechlyn ar gael. Byddwn yn cael cyfran boblogaeth ohono yma yng Nghymru, ond ceir llawer o gwestiynau na fyddwn ni'n gwybod yr atebion iddyn nhw eto, ac wrth i'r atebion hynny ddod i'r amlwg, byddwn yn gallu cadarnhau'r rhaglen a fydd gennym ni ar gyfer darparu'r brechlyn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn gyntaf.
Diolch. Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod wedi cytuno i'w chwota brechlynnau, os hoffech chi, gael ei bennu ar sail cyfran boblogaeth gan mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng hynny a chyfrifo ar sail rhywbeth sy'n debycach i fformiwla yn seiliedig ar anghenion. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol, Prif Weinidog, bod Cymru, yng nghyd-destun COVID, yn fwy agored i niwed gan ei bod hi'n hŷn, yn fwy sâl ac yn dlotach na'r cyfartaledd. Felly, a fyddwch chi'n dadlau'r achos i'n dyraniad adlewyrchu cyfran fwy na chyfran poblogaeth ar y sail hon?
Ac o ran y mater blaenoriaethu yr ydych chi newydd gyfeirio ato a'r drefn flaenoriaethu dros dro a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar 25 Medi, y dywedasoch y byddem ni'n ei dilyn yn fras, a ydych chi wedi ystyried dulliau eraill o flaenoriaethu, er enghraifft offeryn rhagfynegi risg Rhydychen, sy'n trefnu'r boblogaeth yn ôl rhestr ehangach o ffactorau risg? Yn arbennig, a fyddwch chi'n rhoi blaenoriaeth i gyflwyno'r brechlyn mewn cymunedau y mae'n amlwg eu bod yn fwy tebygol o gael eu heintio, yn bennaf ar gyfer ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol uchel, y cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac ardaloedd â lefelau uwch o haint?
Llywydd, oherwydd y cyflymder y bydd angen i ni symud yn y lle cyntaf, rydym ni wedi cytuno ar gyfran poblogaeth i Gymru. Nid yw hynny'n golygu na allwn ni ddychwelyd at hynny, ond yn y lle cyntaf, bydd cael ein cyfran poblogaeth yn ein galluogi i roi'r rhaglen ar waith ac rydym ni'n debygol o gael ein harwain yn y lle cyntaf hefyd gan gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, y mae gennym ni hanes maith o ymgysylltu ag ef ac sy'n deall rhai o'r heriau penodol sy'n ein hwynebu o ran poblogaeth Cymru. Fodd bynnag, nid oes dim o hynny yn golygu, ar ôl i ni roi'r rhaglen frechu hon ar waith, na allwn ni ei mireinio, trwy geisio gweld a oes gennym ni ddadl dros gael mwy o frechlynnau i Gymru a thrwy wneud yn siŵr bod y blaenoriaethu yr ydym ni'n ei gytuno yn cael ei fireinio yn fanwl i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru. Ac rwy'n cytuno, wrth gwrs, gydag Adam Price bod grwpiau penodol yn y boblogaeth—y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn sicr—sy'n fwy agored i niwed o ran y feirws hwn ac felly, mewn system flaenoriaethu, byddech chi'n dymuno rhoi rhywfaint o sylw priodol i hynny.
Tra ein bod ni'n aros am i frechlyn effeithiol gael ei gyflwyno, mae dulliau eraill o osgoi gorddibyniaeth ar gyfyngiadau symud fel prif arf polisi yn bwysig, wrth gwrs, a dyna pam mae'r rhaglen profi torfol sy'n cael ei threialu yn Lerpwl a'r enghraifft a gawsom yn Slofacia yn bwysig. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai 300 o bob 100,000 o'r boblogaeth yw'r gyfradd wythnosol o COVID yn Lerpwl. Mae'r ffigurau cyfatebol ar gyfer Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent i gyd yn uwch na 400 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth. Gan gofio cyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y dylai profion torfol ategu yn hytrach na disodli tracio ac olrhain, onid oes dadl gymhellol dros gyflwyno rhaglen profi torfol debyg ar frys yn yr ardaloedd hyn yng Nghymru? Darllenais heddiw fod Lloegr yn sôn y bydd 66 o awdurdodau lleol yn rhan o don nesaf y rhaglen profi torfol. A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa un a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio yn weithredol rhaglen debyg yn yr ardaloedd hyn yng Nghymru ac i wneud hynny ar raddfa fawr ac yn gyflym?
Llywydd, mae'n bosibl y bydd gan brofion torfol ran bwysig iawn i'w chwarae. Byddwn yn dysgu llawer iawn o arbrawf Lerpwl. Nid yw'n syml. Os byddwch chi'n dewis profi'r boblogaeth gyfan, rydych chi'n gwneud hynny ar sail wirfoddol. Mae materion logistaidd sylweddol iawn i'w hystyried, a dim ond un rhan ohono yw'r profion, oherwydd mae'n rhaid i chi gael popeth ar waith i ymdrin â'r nifer ychwanegol o bobl y byddwch chi'n sicr o ddarganfod eu bod nhw'n bositif gyda coronafeirws os byddwch chi'n profi yn y ffordd honno.
Rydym ni yn ymgysylltu â chynllun arbrofol Lerpwl. Rydym ni'n cynllunio yn bwrpasol ar gyfer y ffordd y gallem ni ddefnyddio 'profion tref gyfan' poblogaeth dorfol, fel y'i gelwir, yma yng Nghymru. A thrwy ddysgu o'r gwersi cynnar iawn sy'n dod i'r amlwg eisoes o brofiad Lerpwl, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â dull tref gyfan o brofi mewn ffordd a fydd yn fwy effeithiol ar unwaith, ac rwyf i eisiau gwneud yn siŵr, pan ddaw'r adeg briodol, ein bod ni'n gallu gwneud hynny yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gwneud yr holl waith paratoi fel ei fod yn cyflawni ar gyfer y boblogaeth leol honno.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, byddwch wedi gweld y pryderon sydd gan rai arbenigwyr iechyd, ac sy'n peri gofid mawr, y gallai cynifer â 2,000 o bobl yng Nghymru farw o ganlyniad i oedi yn gysylltiedig â COVID. Mae'r Athro Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru wedi dweud ei fod yn ofni bod tswnami digynsail o alw am wasanaethau canser ar y ffordd. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn sy'n peri gofid mawr?
Yn amlwg, Llywydd, mae'r camau mwyaf brys yr ydym ni'n eu cymryd ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud i wrthdroi llanw coronafeirws, oherwydd mae'r bygythiad mwyaf i driniaethau ar gyfer cyflyrau ac eithrio coronafeirws yn deillio o'r ffaith nad yw'r capasiti gan ein GIG i allu parhau i gynnig y triniaethau hynny, ac rydym ni'n dal yn rhy agos o lawer at y sefyllfa honno yng Nghymru heddiw. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cyfnod atal byr wedi rhoi'r cyfle i ni barhau yn y GIG yng Nghymru i ddarparu gofal canser, i ddarparu gofal coronaidd, i ddarparu gofal strôc, a'r holl bethau pwysig eraill hynny y mae'r GIG yn eu gwneud, ond y camau pwysicaf y gallwn ni eu cymryd, a'r camau pwysicaf y gall pob un dinesydd yng Nghymru eu cymryd, yw gwneud popeth i wrthdroi llanw coronafeirws, oherwydd bydd hynny yn golygu y bydd ein gwasanaeth iechyd yn gallu parhau i wneud y pethau eraill hynny a gwneud hynny yn gynyddol, gan ei fod wedi cynyddu ei gapasiti i wneud hynny ers mis Ebrill eleni.
Wrth gwrs, ac rwy'n cytuno yn llwyr â'r Prif Weinidog. Mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r feirws hwn, ond, wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd y gall llawdriniaethau a gwasanaethau rheolaidd barhau, oherwydd mae ffigurau heddiw wedi dangos bod oddeutu 49,000 o gleifion ym mis Medi wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG yng Nghymru, ac mae hynny yn gynnydd o ddeg gwaith cymaint ar gyfer pob triniaeth o'i gymharu â mis Medi y llynedd—49,000 o bobl, â llawer o bobl ledled y wlad yn byw mewn poen ac anesmwythder yn aros am driniaeth. Ac mae'r un ffigurau hynny yn dangos bod 18,000 o bobl yn aros am ryw fath o driniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—bwrdd iechyd, wrth gwrs, sydd o dan eich rheolaeth chi yn uniongyrchol. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd ei hun wedi cyfaddef y bydd canlyniadau gwaeth o ganlyniad, mwy o bobl gydag anabledd y gellid ei osgoi a mwy o bobl o bosibl yn colli eu bywydau gyda gofal nad yw'n ofal COVID. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd ledled Cymru ynghylch rheoli'r amseroedd aros hyn, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar GIG Cymru yn y tymor canolig a'r tymor hwy? Ac o ystyried natur frys y mater hwn, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol nawr i sefydlu ysbytai di-COVID ledled Cymru efallai, fel y gallwn ni ddechrau mynd i'r afael â'r ffigurau hyn sy'n peri pryder?
Wel, Llywydd, wrth gwrs rydym ni'n trafod y pethau hyn drwy'r amser gyda'n byrddau iechyd lleol. Bydd yr Aelod yn gweld yn eu cynlluniau chwarter 3 a chwarter 4 yr holl gamau y maen nhw'n eu cymryd i geisio darparu ar gyfer gofal nad yw'n ofal coronafeirws gan ymdrin ag effaith y pandemig byd-eang. Yr hyn y mae byrddau iechyd yn ei ddweud wrthym ni yw bod eu staff wedi blino'n lân yn sgil profiad eleni, a'n bod ni'n mynd i ofyn iddyn nhw eto y gaeaf hwn ymdopi nid yn unig â thros 1,000—wel, dros 1,400—o gleifion sydd mewn gwelyau yn ysbytai Cymru erbyn hyn yn dioddef o coronafeirws, ond rydym ni'n mynd i ofyn iddyn nhw wneud yr holl bethau eraill hynny hefyd. Ac mae ein byrddau iechyd yn adrodd, fel y mae sefydliadau fel y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol ac yn y blaen, pryderon gwirioneddol am gydnerthedd ein gweithlu ym mhopeth yr ydym ni'n ei ofyn ganddyn nhw, a llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gofalu am y staff hynny fel y gallan nhw barhau i wneud yr holl bethau y mae Paul Davies wedi eu hawgrymu.
Mae'r syniad o ysbytai di-goronafeirws yng Nghymru yn un anodd, rwy'n credu. Mae'n well gan ein byrddau iechyd gael parthau gwyrdd a pharthau coch y tu mewn i ysbytai presennol. Fe roddaf yr enghraifft iddo y bydd yn ei hadnabod orau. Beth yr hoffai ef i Lwynhelyg fod—ysbyty wedi ei neilltuo ar gyfer coronafeirws yn unig, fel bod unrhyw un â coronafeirws yn mynd i Lwynhelyg, neu fod yn rhaid i unrhyw un yn ardal Llwynhelyg sydd â coronafeirws fynd i rywle arall i dderbyn eu gofal, gan fod Llwynhelyg wedi troi'n ysbyty di-COVID? Ac mae hwnnw yn fater anodd, fel y bydd e'n cydnabod, ym mhob rhan o Gymru, onid yw? Oherwydd mae gennym ni gymunedau gwledig gydag un ysbyty, bach yn aml o ran maint, yn gwneud popeth sydd ei angen ar gyfer y boblogaeth leol honno. Ac os ydych chi mewn ardal fetropolitan fawr iawn, lle mae gennych chi ysbytai yn agos at ei gilydd, yna efallai fod hynny yn bosibilrwydd ymarferol. Rwy'n credu ei bod hi'n llawer anoddach ei wneud i gyd-fynd â'r ddaearyddiaeth a dosbarthiad y boblogaeth yng Nghymru.
Prif Weinidog, wrth gwrs, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn archwilio pob cyfle i ailddechrau gofal nad yw'n ofal COVID fel y gall pobl gael triniaethau hanfodol cyn gynted â phosibl, ac mae'n destun pryder mawr clywed y Gweinidog iechyd yn dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben. Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y mae hefyd yn cefnogi ein gweithwyr GIG ar hyn o bryd, fel y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio ato. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi ei gwneud yn eglur bod nifer gynyddol o staff yn cael cymorth iechyd meddwl oherwydd y pandemig, felly mae'n gwbl hanfodol bod strategaeth i gefnogi gweithlu'r GIG yn cael ei chyflwyno i feithrin ac yn wir cefnogi ein staff rheng flaen. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac eraill yn wir, ynglŷn â'r effaith ar weithwyr y GIG? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith cynllunio'r gweithlu sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, a, phe byddai pwysau pellach ar y GIG yn y dyfodol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi ein gweithwyr GIG yn wyneb y pwysau hynny?
Wel, rwyf i yn cytuno yn llwyr, Llywydd, a dywedais hynny fy hun wrth ateb ail gwestiwn Paul Davies, mai un o'r cyfyngiadau gwirioneddol sy'n ein hwynebu y gaeaf hwn yw'r nifer gyfyngedig o staff sydd gennym ni, y profiad y maen nhw i gyd wedi ei gael, y ffaith eu bod nhw, fel staff rheng flaen, yn arbennig o agored i ddal coronafeirws eu hunain, nad yw eu gwellhad yn ddim gwahanol i un neb arall ac yn aml mae'n hir ac yn anodd. Felly, dywedais wrth arweinydd yr wrthblaid bod cynlluniau chwarter 3 a chwarter 4 gan ein cydweithwyr yn y GIG yn canolbwyntio yn benodol ar wneud yn siŵr y gallwn ni gynnal ein staff drwy'r cyfnod anodd iawn hwn. Rydym ni wedi darparu gwasanaethau newydd, sydd ar gael i holl staff y GIG, o ran iechyd meddwl; rydym ni wedi darparu hyfforddiant ychwanegol er mwyn i staff allu ymdopi ag amrywiaeth ehangach o ofynion a fydd yn eu hwynebu. Ond, pan edrychwn ni ymlaen at aeaf lle nad yw coronafeirws yn dangos fawr ddim arwydd o ddiflannu, lle nad ydym ni wedi dechrau tymor y ffliw hyd yn hyn, lle mae'r gaeaf yn dod â'r holl bethau eraill yr ydym ni'n gwybod sy'n digwydd pan fo gennych chi boblogaeth hŷn, salach, fwy agored i niwed, fel y mae Adam Price yn ei ddweud, yna mae gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd ar frig fy agenda i ac agenda'r Gweinidog iechyd yn y fan yma.
Nid yw rhai o'r pethau yr oeddem ni'n gallu eu defnyddio yn gynharach yn y flwyddyn ar gael mor rhwydd i ni. Roeddem ni, fel y bydd Paul Davies yn gwybod, yn ôl ym mis Ebrill a mis Mai, yn gallu recriwtio myfyrwyr a oedd ar fin gorffen eu cyrsiau; roedden nhw'n barod i gael eu defnyddio mewn amgylchiadau clinigol. Nid yw hynny yn wir ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Recriwtiwyd yn ôl i'r gwasanaeth pobl a oedd wedi ymddeol yn ddiweddar ac a oedd yn barod i ddychwelyd. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n gofyn i bobl ein helpu ni yn y modd hwnnw unwaith eto.
Y newyddion da, er gwaethaf hyn i gyd, yw bod recriwtio i GIG Cymru yn parhau i fod yn llwyddiannus iawn. Rydym ni wedi llenwi ein rotâu hyfforddi ymarferwyr cyffredinol, ac wedi eu gorlenwi eleni, o'u cymharu ag unrhyw flwyddyn arall, gan gynnwys yn y gogledd, y soniodd yr Aelod amdano. Felly, mae cynaliadwyedd tymor hwy ein staff yn y gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar ein gallu i recriwtio i gyrsiau, i gynlluniau hyfforddi, ac, o'r safbwynt hwnnw, er gwaethaf y flwyddyn lem iawn yr ydym ni ynddi, rydym ni'n parhau i wneud yn dda yng Nghymru.