Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 10 Tachwedd 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau yna? A gaf i ddechrau drwy ddweud nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon o gwbl o ran y cyfweliad a roddais i i'r Sunday Times? Mae'r Aelod yn llygad ei lle, fe gynhaliwyd y cyfweliad hwnnw bythefnos yn ôl. Nid wyf i'n deall yn iawn pam wnaeth y Sunday Times oedi cyn cyhoeddi'r cyfweliad, ac fe'i rhoddwyd i'r papur hwnnw mewn ymateb i gyhoeddi dwy gyfres o gynghorion a roddwyd i mi, a'r hyn a roddwyd i'r papur oedd disgrifiad o hynny, oherwydd nid oedden nhw'n deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfres o gynghorion. Roedd cyhoeddi'r cyfweliad hwn y tu hwnt i'm rheolaeth i, ond fe allaf i eich sicrhau chi nad oeddwn i'n bwriadu dirmygu Aelodau'r Siambr hon mewn unrhyw ffordd, ac fel yr ydych chi wedi darllen, os ydych chi wedi darllen y stori yn y Sunday Times, roedd yna lawer iawn o ddyfalu, rhywfaint o hynny'n amlwg iawn, o gofio'r tebygrwydd rhwng y ddwy gyfres o gynghorion o ran—[Anghlywadwy.]—ac roedd y stori'n anghywir o ran y penderfyniad a wneuthum i o ran Lefel A. Felly, rwy'n awyddus i dawelu meddwl y Siambr nad oedd hynny'n golygu unrhyw amharch, ac fe ddysgais innau wers yn hynny o beth.
Fe soniodd yr Aelod am y brechlyn, ac rwy'n deall pam, oherwydd mae hon wedi bod yn flwyddyn sobr o ddigalon i bob un ohonom ac felly mae hyd yn oed y llygedyn hwn o oleuni ynglŷn â'r posibilrwydd y caiff brechlyn ei gyflwyno yn rhywbeth yr ydym i gyd yn awyddus i ddal ein gafael ynddo o dan yr amgylchiadau. Dirprwy Lywydd, rwy'n amau ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am y doniau anhygoel hynny ledled y byd sydd wedi gweithio mor galed i geisio datblygu'r brechlyn hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn rhaid inni bwyllo ychydig bach. Mae llawer i'w wneud eto, ac mae maint y sialens o ran dosbarthu, hyd yn oed os byddwn ni'n cyrraedd y sefyllfa lle gellir dosbarthu brechlyn, yn wirioneddol heriol, ac fe amlinellodd y Prif Weinidog rai o'r rhain yn gynharach.
O ran cyflwyno'r brechlyn hwnnw, yn amlwg, rydym ni'n cael ein harwain gan y pwyllgor sy'n rhoi cyngor i Lywodraethau ledled y DU ynghylch defnyddio brechlyn yn briodol, ac mae'n rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd, ond, yn amlwg, fe fydd aelodau'r gymdeithas sy'n agored i niwed, os bydden nhw'n gweithio ym myd addysg neu'r tu allan i fyd addysg, rwy'n siŵr, yn cael blaenoriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n edrych arno hefyd yw cyfundrefnau profi eraill ar gyfer cefnogi addysg a helpu i leihau'r tarfu ac mae hynny'n llawer mwy blaenllaw yn ein hystyriaethau ni, oherwydd mae honno'n sefyllfa sy'n llawer mwy tebygol y gallwn ni weithredu yn gynt arni yng Nghymru yn hytrach nag aros am y brechlyn.
Roedd Suzy Davies yn dweud bod y penderfyniad heddiw yn amlygu heriau dysgu cyfunol, a'n dull ni o gefnogi dysgwyr sy'n eu cael eu hunain y tu allan i'r ysgol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod y sefyllfa honno'n amrywio, ac rydym yn parhau i weithio gyda'r sector addysg i ddatrys amrywioldeb hynny. Dim ond yr wythnos diwethaf, yn ystod y cyfnod atal byr, rwy'n ymwybodol bod rhai ysgolion wedi cyflwyno eu hamserlen gyfan drwy wersi byw; nid oedd ysgolion eraill mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cyfaddef—a phe bai hi wedi gwrando ar y pennaeth a oedd yn siarad ar Radio Wales y bore yma—hyd yn oed pan fo'r dysgu cyfunol hwnnw o'r ansawdd gorau, nid yw hynny'n cymryd lle cael bod mewn ysgol. A'r broblem sy'n fy wynebu i, a'r broblem y mae ein hathrawon a'n myfyrwyr ni'n ei hwynebu, yw na allwn ni warantu faint o amser y byddan nhw'n ei dreulio yng nghwmni eu hathrawon. Rydym eisoes wedi gweld llawer iawn o amrywioldeb. Mae rhai plant, fel y dywedais i, yn ffodus iawn, heb gael eu heffeithio ac maen nhw wedi gallu bod yn yr ysgol drwy'r amser. Mae plant eraill—myfyrwyr y bûm i'n siarad â nhw—wedi colli pedair wythnos eisoes oherwydd gorfod ynysu gan eu bod nhw mewn swigen a oedd wedi bod ag achos cadarnhaol o'r feirws. Felly, nid—. Rwy'n cytuno bod angen inni wneud yn well o ran dysgu cyfunol, ond nid dyna'r rheswm am ysgogi hyn heddiw o reidrwydd.
O ran natur yr asesiadau, mae'n bwysig iawn fod yna amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer asesu plant. O ran natur a nifer yr asesiadau, y grŵp dylunio a chyflwyno a fydd yn rhoi ystyriaeth i hynny, fel mewn ymateb i argymhelliad adroddiad Louise Casella, gan ddysgu gwersi'r llynedd yn sgil peidio â gwneud unrhyw beth i'r system, ond mewn gwirionedd gan weithio gyda'r system i greu system sydd mor gadarn a chyfartal a theg â phosibl ac sy'n wir ymwybodol o'r pwysau gwaith ar athrawon. Mae yna gydbwysedd i'w ganfod o ran grymuso athrawon yn y broses hon, a chredwch chi fi, maen nhw'n dymuno cael eu grymuso, ac mae llawer ohonyn nhw'n awyddus i ymgymryd â'r gwaith, ond, yn ogystal â hynny, i ystyried y pwysau anhygoel sydd arnyn nhw eisoes wrth gadw'r drysau ar agor, ac mae'r cydbwysedd hwnnw i'w ganfod yn yr hyn y gall aelodau eraill o'r sector addysg ei wneud yng Nghymru i'w cefnogi nhw yn y gwaith hwn.
Fe soniodd yr Aelod am yr hyn sy'n digwydd hefyd os bydd grŵp allan o'r ysgol. Wel, fe fydd yr asesiadau a bennir yn allanol ar gael i ysgolion, ond yr ysgolion a fydd yn penderfynu, pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny, pryd y dylid cynnal yr asesiadau hyn, felly mae yna rywfaint o hyblygrwydd yn hyn o beth a ddylai roi ystyriaeth i rai o'r heriau o ran iechyd y cyhoedd y gallwn ni fod yn eu hwynebu. O ran prifysgolion, fe fynegodd y prifysgolion yn eglur iawn i mi beth oedd eu blaenoriaethau nhw. Yn gyntaf, addysg, addysgu a dysgu yw hynny, a sicrhau bod yr wybodaeth a'r cysyniadau allweddol ym meddiant y myfyrwyr i ganiatáu iddyn nhw fod yn llwyddiannus pan fyddan nhw'n cyrraedd y brifysgol. Ac felly roedd gwneud yn fawr o'r amser ar gyfer addysgu a dysgu yn bwysig iawn iddyn nhw; mae'r system hon yn caniatáu inni wneud hynny. Yr elfen bwysig arall oedd bod sicrwydd cydraddoldeb, a bod ein rheoleiddiwr yn fodlon i roi eu henwau nhw wrth y cynigion hyn, a honno, unwaith eto, yw'r system y gwnaethom ni ymgyrraedd ati.
O ran cymwysterau galwedigaethol, nid ydym yn yr un sefyllfa o ran cymwysterau galwedigaethol, o ystyried eu natur nhw, sef bod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr Cymru, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn dilyn cymwysterau sy'n cael eu rhannu â gweddill y DU, ac nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn cael eu rheoleiddio gan ein rheoleiddiwr ni ein hunain. Felly, ni allaf i orchymyn rheoleiddiwr mewn gwlad arall i weithredu mewn ffordd arbennig. Ond dyna pam y bydd ein rheoleiddiwr ni'n parhau i weithio gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd, i sicrhau tegwch yn y sectorau galwedigaethol hefyd, lle nad oes gennym ni reolaeth ar gymwysterau ein rheoleiddiwr ni.