1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau yng ngogledd Cymru? OQ55812
Mae'r pandemig, ynghyd â diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd sydd ar fin digwydd, yn golygu ei bod yn gyfnod ansicr a phryderus iawn i fusnesau ledled gogledd Cymru. Y risg fwyaf i'r economi wrth gwrs yw peidio â gwneud digon yn ddigon buan, a dyna pam mai ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn yw'r mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd arolwg o effaith cyfyngiadau symud ar y sectorau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu, hamdden a'u cadwyni cyflenwi yng ngogledd Cymru, arolwg a gynhaliwyd gan Twristiaeth Gogledd Cymru gyda chymorth Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy. Fe'i cynhaliwyd dros bedwar diwrnod, o 21 Hydref ymlaen, gyda 364 o fusnesau'n ymateb o bob rhan o'r rhanbarth, a chanfu y byddai 31 y cant yn diswyddo rhagor o staff cyn diwedd mis Mawrth 2021, y byddai 39 y cant yn rhoi'r gorau i fasnachu os oes unrhyw gyfnodau pellach o gyfyngiadau symud cyn hynny, a bod 81 y cant o ymatebwyr wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi'i effeithio'n negyddol wrth redeg busnes o dan amgylchiadau pandemig. Sut rydych chi'n ymateb felly i'w galwad am ymgysylltiad busnes ystyrlon â chi, yn rhanbarthol a lleol, ar draws pob sector, cyn y daw rhagor o gyfyngiadau symud, i gynnwys amlinellu'r broses o fynd i mewn i gyfnodau newydd sydd i ddod o gyfyngiadau symud, y dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau, canllawiau gweithredol i fusnesau a manylion y cymorth busnes sydd ar gael, cyn i unrhyw gyfnodau o gyfyngiadau symud ddechrau?
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn atodol a dweud ein bod yn ymwybodol iawn o effeithiau difrifol iawn coronafeirws nid yn unig o ran iechyd y cyhoedd, ond hefyd o ran cadernid meddyliol ac emosiynol dinasyddion ac wrth gwrs, y bobl sy'n gyfrifol am fusnesau ar hyd a lled Cymru? Mae'r arolwg yn cyfeirio at lawer o ffactorau y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, a Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs. Ac wrth ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau a busnesau cynrychioliadol, y brif alwad yn ystod y misoedd diwethaf oedd i'r cynllun ffyrlo gael ei ymestyn hyd at fis Mawrth. Mae hynny wedi digwydd erbyn hyn. Byddai'n dda gennym pe bai wedi digwydd yn gynharach oherwydd, wrth gwrs, mae angen sicrwydd ar fusnesau.
O ran busnesau twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru, gallaf ddweud bod dros 1,200 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint yn y sectorau hynny yno wedi llwyddo i gael arian o ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, ac yng ngogledd Cymru, mae 105 o fusnesau eraill ym maes twristiaeth a lletygarwch wedi llwyddo i gael cyllid gan Fanc Datblygu Cymru. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, roedd y cyfnod atal byr o 17 diwrnod yn anodd i fusnesau, nid oes amheuaeth am hynny, ond mae'n well cael cyfnod atal byr o 17 diwrnod na chyfyngiadau symud am bedair wythnos, fel y bu'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud ar ôl gohirio camau gweithredu.
Dwi'n croesawu'r arian sydd wedi cael ei roi i fusnesau ar draws y gogledd, ac yn fy etholaeth i, drwy wahanol gamau y gronfa cadernid economaidd. Ond dwi'n dal i weld busnesau sy'n methu â chael cymorth, er enghraifft oherwydd nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer treth ar werth neu dydyn nhw ddim yn cyflogi pobl drwy PAYE. Rŵan, dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna bedwerydd cam o'r gronfa cadernid economaidd, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa asesiad y mae o am ei weld yn cael ei wneud o'r busnesau, neu'r sectorau o fusnesau, sydd wedi colli ar bob cyfle, mae'n ymddangos, i gael cymorth hyd yma? Ac a fydd yna fodd i newid y gofynion yn y dyfodol er mwyn i'r busnesau hynny allu gwneud cais am arian o'r rowndiau nesaf o gymorth sydd ar gael?
A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiwn? Mae nifer o'r Aelodau wedi gofyn cwestiynau tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf, a gallaf gadarnhau bod disgresiwn yn nhrydydd cam y gronfa cadernid economaidd, o fewn y £200 miliwn o grantiau i fusnesau dan gyfyngiadau sydd ar gael ledled Cymru, i alluogi'r busnesau sydd wedi disgyn drwy'r rhwyd hyd yma i gael y cymorth angenrheidiol. Mewn perthynas â thrydydd cam y gronfa cadernid economaidd, rwy'n falch hefyd o allu dweud wrth yr Aelod dros Ynys Môn heddiw fod dros 940 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud i fusnesau yn ei etholaeth, er mwyn cefnogi a diogelu gwaith i fwy na 3,500 o bobl. Mae hynny'n dangos gwerth cam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, cronfa sy'n rhan o'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU.
Weinidog, mae'n amlwg fod y coronafeirws wedi cael effaith ar fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant yn yr ardal hon, ac mae eu methiant a'u harafwch i ymateb wedi costio mewn swyddi. Nawr, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i barhau i helpu. Ers cael fy ethol i'r Senedd hon, rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr i ganolfan logisteg Heathrow, y gellid ei lleoli yng ngwaith dur Tata yn Shotton, a'r ardal ymchwil technoleg uwch a Phorth y Gogledd yn Sealand. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau fel y rhain?
Wel, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am nodi potensial ei etholaeth mewn sectorau pwysig yn ardal Glannau Dyfrdwy ac ardal ehangach Sir y Fflint? Gallaf gadarnhau hefyd i Jack Sargeant heddiw fod dros 3,500 o ddyfarniadau wedi'u gwneud i fusnesau fel rhan o'n pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn. Mae hynny'n gyrhaeddiad enfawr ar draws Sir y Fflint i gefnogi busnesau a gweithwyr. Rydym yn arwain ar nifer o brosiectau cyffrous hefyd. O ran y ganolfan ymchwil technoleg uwch, rydym yn arwain tîm trawslywodraethol. Mae'r tîm hwnnw'n cynnwys Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ond hefyd yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn, Llywodraeth y DU a'r Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn. Mae rhaglen waith hynod bwysig ar y gweill yno gyda'r ganolfan ymchwil technoleg uwch. Rydym hefyd yn gweithio gydag Airbus ar raglen Adain Yfory, a bydd Jack Sargeant yn ymwybodol o werth y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn cael y rhaglen waith hollbwysig honno.
Mae gennyf ddiddordeb enfawr yn y ganolfan logisteg arfaethedig yn Tata yn Shotton. Comisiynwyd prif gynllun safle Glannau Dyfrdwy gan fy swyddogion i gefnogi datblygiad Heathrow, ac mae Tata Steel bellach yn defnyddio hwnnw fel prosbectws i ddenu buddsoddiad nid yn unig gan Heathrow, ond gan nifer o fuddsoddwyr ar draws nifer o wahanol sectorau. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda Tata, gallaf ddweud wrth Jack Sargeant, i ddeall rhai o'r rhwystrau i ddatblygu cyfleuster o'r fath, ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallent agor trydydd mynediad i'r safle.
Ac yn olaf, o ran safle Porth y Gogledd, rydym yn gweithio tuag at gytundeb â thirfeddianwyr ar safle Porth y Gogledd, gyda'r bwriad o fuddsoddi mewn seilwaith allweddol a fydd yn hwyluso mynediad i 200 erw o dir datblygu masnachol, ac mae'r trafodaethau hynny ar gam datblygedig iawn. Disgwylir y bydd y cytundeb hwn wedyn yn cael ei ddilyn, yn gyflym iawn, gan brosiectau buddsoddi preifat a chyflogaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud datganiad cadarnhaol iawn ynglŷn â hynny yn y dyfodol agos.