1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar fusnesau yng Ngorllewin De Cymru? OQ55827
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru i ymdrin â'r effaith uniongyrchol yn ogystal â chynllunio ar gyfer yr adferiad. Mae ein timau rhanbarthol yn barod i gynnig cymorth i fusnesau ac mae ein gwasanaeth Busnes Cymru hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor i'r rheini sydd ei angen.
Diolch, Weinidog. Mae'r pandemig wedi difetha economi fy rhanbarth, ac er y gall y feirws ddinistrio bywydau, mae'r mesurau i'w reoli wedi dinistrio bywoliaeth pobl, ac mae gormod lawer o fy etholwyr wedi colli eu swyddi a'u busnesau. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, nid yw wedi bod yn ddigon.
Cysylltodd un o fy etholwyr â mi, ac roeddent yn gresynu at broses y grantiau datblygu busnes yng ngham 3 y gronfa cadernid economaidd. Treuliodd y cwmni ddyddiau'n paratoi cynllun busnes i’w gyflwyno gyda'u cais, cyn darganfod bod y ceisiadau wedi cau'n gynnar. Maent yn credu—ac rwy'n cytuno â hwy—y dylid prosesu ceisiadau yn ôl teilyngdod yn hytrach na'r cyntaf i'r felin. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried mabwysiadu'r dull hwnnw o weithredu os gwelwch yn dda?
A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn a'r cyfle y mae’n ei roi i mi ddarparu sicrwydd i bob busnes, ledled Cymru, y bydd yr holl geisiadau am gyllid grant datblygu yn cael eu hasesu ar sail ansoddol, yn ôl teilyngdod, ac na fyddwn yn dyfarnu arian ar sail y cyntaf i'r felin, ond yn ôl safon y ceisiadau? Dyna pam ein bod eisoes wedi gwrthod nifer o geisiadau, gan nad oeddent o safon ddigonol neu am nad oeddent wedi cynnwys y ddogfennaeth angenrheidiol a amlinellwyd yn nhudalennau meini prawf Busnes Cymru.
Gallaf ddweud, mewn ymateb i'r argyfwng economaidd—ac mae wedi bod yn ddigynsail—yn Abertawe yn unig, mae mwy nag 8,500 o ddyfarniadau eisoes wedi mynd i fusnesau drwy ein pecyn cymorth gwerth £1.7 biliwn, y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Yn hanfodol, mewn perthynas â phwynt a godwyd gan Russell George, mae’r rhan fwyaf o’r dyfarniadau hynny'n mynd i’r microfusnesau a’r busnesau bach a chanolig sydd wrth wraidd ein cymunedau a'n heconomïau lleol. Felly, mae ein hymyrraeth wedi bod yn ddigynsail. Fe'i lluniwyd i ategu cynlluniau cymorth ffyrlo a hunangyflogaeth Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, wrth inni edrych ymlaen tuag at rownd cam 4 y gronfa cadernid economaidd yn y dyfodol, byddwn yn dysgu o bob un o'r tri cham cyntaf, yn ogystal ag o'r cronfeydd eraill a weithredir gan fy nghyd-Aelodau.
Weinidog, rydych wedi ateb llawer o gwestiynau ar letygarwch yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill, ond hoffwn atgoffa pobl fod lletygarwch yn bodoli ledled Cymru, ac yn enwedig yn fy etholaeth i, sy'n gwneud cryn dipyn i wasanaethu'r economi ymwelwyr, ac yn enwedig y llwybrau beicio mynydd gwych yng nghwm Afan. Mae busnesau fel yr Afan Lodge, sy'n darparu ar gyfer yr ymwelwyr hynny, wedi dioddef cwymp sylweddol yn eu busnes o ganlyniad i gyfyngiadau lleol yma yng Nghymru, ac yna'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yma yng Nghymru, ond bellach y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn Lloegr hefyd. Maent yn ei chael hi’n anodd o ganlyniad i'r cyfyngiadau hyn, ac mae busnesau fel y cyfryw yn mynd i’w chael hi’n anodd dros fisoedd y gaeaf. Cafodd y cynllun ffyrlo ei ymestyn yn rhy hwyr iddynt, yn anffodus, oherwydd erbyn i'r estyniad gael ei roi, roeddem hanner ffordd drwy ein cyfnod atal byr ein hunain. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall y busnesau hyn, a oedd yn broffidiol iawn cyn y pandemig, barhau'n weithredol a goroesi drwy’r gaeaf er mwyn bod yn ddigon cryf i ailddechrau gweithredu y flwyddyn nesaf?
Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a chydnabod gwerth yr economi ymwelwyr i'w etholaeth? Mae'n sylweddol iawn yn wir. Ledled Cymru, mae nifer y swyddi sy'n cael eu diogelu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn hynod bwysig ac yn darparu cyfleoedd i gymunedau ffynnu. Felly, yn ystod y cyfnod atal byr, roeddem yn pryderu ynglŷn â hyfywedd busnesau, a dyna pam y gwnaethom ddarparu £300 miliwn o gefnogaeth, gan gynnwys y £200 miliwn hanfodol hwnnw o gymorth grant i fusnesau dan gyfyngiadau symud. A gallaf hysbysu’r Aelod fod mwy na 1,000 o ddyfarniadau eisoes wedi'u gwneud fel rhan o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn ei etholaeth, ac mae hynny wedi diogelu 3,750 o swyddi—gyda llawer iawn ohonynt yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.