Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Diolch i David Rees am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei fod yn iawn i ddweud bod y Bil marchnad fewnol yn amlwg yn ymgais i roi pwerau i Lywodraeth y DU allu darparu rhannau o'r gronfa ffyniant gyffredin, na fyddai'n gallu ei wneud fel arall. Caiff ei phwerau cymorth ariannol eu disgrifio fel pethau sydd yno i weithio gyda ni, ond mae'n amlwg eu bod yno i weithio o'n hamgylch, ac felly rhannaf ei bryder ynglŷn â hynny.
Beth bynnag fo barn rhywun ar wleidyddiaeth y sefyllfa, fel petai, mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol, mor agos at ddiwedd y pwynt lle mae gennym sicrwydd o'n cyllid, nad ydym yn gwybod o hyd sut y mae pethau'n edrych ar gyfer y cyfnod sydd o'n blaenau. Bydd rhaglenni'n cael eu colli, bydd doniau yn ein gwahanol raglenni ac ymyriadau yn cael eu golli o ganlyniad i hynny, a hynny heb fod angen, ac ni fyddai wedi digwydd pe bai mwy o eglurder wedi bod yn gynharach a phe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn gliriach yn gynt ynglŷn â'i hymrwymiad i'r addewidion y mae wedi'u gwneud yn y gorffennol.
Fel y bydd yn gwybod, rydym wedi arwain ar waith cyson a sylweddol yng Nghymru gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gynllunio fframwaith ar gyfer rhaglenni olynol. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gwaith rhanddeiliaid ym mhob sector ym mhob rhan o Gymru yn cael y clod a'r pwysigrwydd y dylai ei gael gan Lywodraeth y DU wrth iddi fyfyrio ar hyn, oherwydd maent yn cynnig ffordd wirioneddol adeiladol o fwrw ymlaen â'r rhaglenni hynny yma yng Nghymru i'r dyfodol, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ffurfiol i'r Aelodau yr wythnos nesaf, drwy ddatganiad ysgrifenedig, ar y cynnydd rydym wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol gyda'n rhanddeiliaid ledled Cymru.