2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
2. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb? OQ55841
Mae 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020', a gyhoeddais heddiw, yn nodi'r camau y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid eu cymryd i liniaru rhai o'r heriau i Gymru ar ôl diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yn yr amgylchiadau trychinebus ein bod yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
Diolch. Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb, a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol, yn real iawn, fel y cydnabuwyd. Mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil unrhyw newid sydyn a llym o'r fath i'n perthynas fasnachu o fewn yr UE. Felly, Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith niweidiol bosibl y gallai hyn ei chael ar gyflogaeth yn Islwyn, a pha fesurau lliniaru sydd ar gael i wrthdroi hyn, o gofio'r niwed y gallai cynigion presennol y Bil marchnad fewnol ei wneud i reolaeth Cymru dros wariant Cymru?
Cytunaf â'r Aelod fod yr holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y bydd canlyniad 'heb gytundeb' yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi, ac y gallai hynny, dros y tymor hir—10 i 15 mlynedd, efallai—arwain at incymau oddeutu 10 y cant yn is na'r hyn y byddent wedi bod fel arall. A gyda llaw, mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn gyson â'r darlun hwnnw ar y cyfan. Byddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn effeithio'n sylweddol iawn ar sectorau mawr. A byddai hynny'n digwydd, ac nid oes angen i mi ei hatgoffa o hyn, ar adeg pan fo'r economi eisoes yn dioddef effaith pandemig COVID. Felly, yn yr ystyr honno, ni allai dewis gadael ar y sail honno ddigwydd ar adeg waeth.
Fe fydd hi'n ymwybodol o'r ymyriadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u gwneud, naill ai drwy'r gronfa bontio'r UE neu'n fwy diweddar, drwy gamau diweddarach y gronfa cadernid economaidd, a gynlluniwyd i helpu busnesau i fod yn fwy gwydn, ac i fod yn fwy gwydn fel cyflogwyr, yn y dyfodol. Ac mae ystod eang o gymorth busnes ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gynorthwyo cyflogwyr i gynnal eu sefyllfa. Ac yn wir, bydd nifer o'r ymyriadau sydd wedi'u cyflwyno yng nghyd-destun COVID, mewn perthynas â chyflogadwyedd a chymorth swyddi yn arbennig, o fudd i'w hetholwyr yng nghyd-destun gadael y cyfnod pontio heb gytundeb hefyd wrth gwrs.