Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Phrif Chwip – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2020.
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau diweddar ar gyfer gwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OQ55861
Rydym ni newydd gyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gysylltiadau rhyngwladol, sy'n nodi'r blaenoriaethau byrdymor a thymor canolig ar gyfer cyflawni'r strategaeth ryngwladol. Rydym ni'n canolbwyntio ar fentrau allweddol i arddangos Cymru a dangos ein bod ni'n genedl sy'n edrych tuag allan ac sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ac a gaf i ddymuno'n dda i chi gyda'r agweddau newydd hyn ar eich portffolio? Nawr, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lle Cymru yn y byd a'r cydberthnasoedd pwysig yr ydym ni'n ceisio eu sicrhau ar gyfer y dyfodol. Ers hynny, rydym ni wedi gweld dau ddigwyddiad arwyddocaol: yn gyntaf, y digwyddiadau annymunol yn ymwneud ag Arlywydd yr Unol Daleithiau sy'n gadael, sy'n parhau i ddwyn gwarth ar y swydd fawreddog honno y bydd yn rhaid iddo ei gadael yn fuan. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi trosglwyddiad grym didrafferth, ac rwy'n croesawu llythyrau'r Prif Weinidog at yr Arlywydd Biden, ac, yn enwedig, y Dirprwy Arlywydd Kamala Harris, yn eu llongyfarch ar eu buddugoliaeth. Ond, yn ail, ac yn llawer nes adref, y golygfeydd o anhrefn llwyr yng nghanol Llywodraeth Dorïaidd y DU dros yr wythnos diwethaf, yn arwain at COVID yn lledaenu o amgylch y Prif Weinidog, ac yn gorffen gyda'i sylwadau ymfflamychol am ddatganoli—sylwadau y mae Torïaid Cymru, gyda llaw, wedi bod bron yn gwbl dawel yn eu cylch.
Felly, Dirprwy Weinidog, ar yr adeg dyngedfennol hon, a ydych chi'n cytuno â mi bod yr ymddygiadau sy'n cael eu harddangos yn Downing Street ac o'i hamgylch, yn union fel yn yr Unol Daleithiau, yn diraddio Llywodraeth ac yn tynnu sylw yn llwyr oddi wrth y materion pwysig y mae angen eu datrys yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf er mwyn helpu Cymru a theulu ehangach y DU o wledydd i wynebu'r dyfodol ar ôl Brexit yn hyderus?
Diolch, Dawn Bowden, am godi'r cwestiynau pwysig iawn yna. Ac, wrth gwrs, mae trosglwyddo grym yn heddychlon yn elfen hanfodol i unrhyw ddemocratiaeth, ac mae cyfnod pontio didrafferth hyd yn oed yn fwy hollbwysig, o ystyried yr oes sydd ohoni a'r angen i'r weinyddiaeth newydd baratoi ac ymateb i her coronafeirws. Wrth gwrs, cydnabuwyd a chefnogwyd yn eang bod ein Prif Weinidog wedi ysgrifennu yn ddiweddar i longyfarch y darpar Arlywydd Joe Biden, a'r darpar Dirprwy Arlywydd Kamala Harris. Ac rwy'n adleisio'r llongyfarchiadau hyn—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd—ac yn enwedig y ffaith bod gan yr Unol Daleithiau y Dirprwy Arlywydd benywaidd cyntaf, a fydd hefyd y Dirprwy Arlywydd Asiaidd-Americanaidd ac Affricanaidd-Americanaidd cyntaf. Mae hwnnw'n ganlyniad enfawr, sydd wedi codi gobaith mawr, yn enwedig ymhlith pobl America, ond ledled y byd. Ond rwy'n credu bod y ffaith eu bod nhw wedi sefyll, yr Arlywydd a'r Dirprwy Arlywydd, ar lwyfan o ymladd dros gydraddoldeb, mynd i'r afael â hiliaeth a hefyd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac ymladd coronafeirws yn adleisio'n gryf dros ben yr hyn sy'n annwyl i Gymru, ac rwyf i'n rhagweld, wrth gwrs, y bydd ein perthynas gyda'r Unol Daleithiau yn un a fydd yn ffynnu.
Ond, o ran ail ran eich cwestiwn, mae gen i ofn fy mod i wedi fy llenwi â llawer llai o optimistiaeth, oherwydd mae'n rhaid i'n pwyslais ni, a phwyslais Llywodraeth y DU, fod ar y cyfnod anhygoel o anodd hwn yr ydym ni ynddo. Yng Nghymru, rydym ni'n canolbwyntio fel erioed ar iechyd a llesiant y genedl. Ni fydd ein sylw yn cael ei dynnu oddi wrth hynny, ac ni ddylai Llywodraeth y DU ganiatáu i'w sylw gael ei dynnu ychwaith. Ond mae'r newyddion dros nos am sylwadau Boris Johnson ar ddatganoli, y pwyntiau a adleisiwyd yn y Siambr hon y prynhawn yma, wir yn dangos y diffyg ymgysylltu ar bontio yr UE yn arbennig, ond hefyd ymgysylltu ar sut yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd fel pedair gwlad i fynd i'r afael â coronafeirws; mae'n ein gwneud ni'n fwy pryderus nag erioed. Anhrefn yn San Steffan yn gwaethygu, byddwn i'n dweud, ar ôl Cummings, pan fo angen cydweithio arnom ni, pan fo angen parch arnom ni tuag at Gymru, y Senedd, a'r pwerau yr ydym ni'n eu harfer yn y fan yma i gadw Cymru yn ddiogel.