Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Mae'r strategaeth yr ydym ni yn ei lansio heddiw yn nodi dechrau sgwrs wirioneddol y mae angen i bob un ohonom ni ei chael ynglŷn â sut y mae angen i'n rhwydweithiau trafnidiaeth newid dros y genhedlaeth nesaf, a phan fydd Aelodau'n darllen y dogfennau ymgynghori, byddant yn gweld eu bod yn deillio o ymgysylltu dwfn â rhanddeiliaid allweddol yn ysbryd cyd-gynhyrchu sydd ei angen gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol. Y cam nesaf yw sgwrs ehangach fyth gyda phobl Cymru, oherwydd dim ond os bydd pobl yn dewis newid y byddwn yn cyflawni newid.
Dros y 50 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi creu system drafnidiaeth sydd wedi blaenoriaethu defnyddio ceir. Mae wedi caniatáu rhyddid a hyblygrwydd unigol yr ydym ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond bu hefyd yn fodd i wreiddio anghydraddoldebau dwfn a niwed amgylcheddol. Rydym ni wedi creu diwylliant o ddibyniaeth ar geir na fydd yn hawdd ei newid. Nod ein strategaeth ddrafft yw sicrhau hygyrchedd a chynaliadwyedd: symud nwyddau a phobl yn fwy effeithlon drwy fynd i'r afael â thagfeydd; gosod targedau ar gyfer newid sut mae pobl yn teithio fel bod mwy o le ar y ffordd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fwy deniadol; a chreu system nad yw'n darparu dim ond ar gyfer y rhai sydd â cheir, ond sydd hefyd yn gwasanaethu'r 23 y cant o bobl yn y wlad hon nad oes ganddyn nhw gar.
Wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â newid dim ond yr hyn a ddywedwn ni; mae'r rheidrwydd yn ymwneud â newid yr hyn a wnawn ni. Mae hyn yn golygu newid sylfaenol i'r ffordd yr ydym ni'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddi. Mae'n golygu sefydlu hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy newydd, i ddarparu ar gyfer cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn darparu a buddsoddi ar gyfer cerbydau modur preifat. Os cytunir ar y strategaeth honno, yna bydd angen inni nodi prosiectau ac ymyriadau penodol mewn cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol pum mlynedd manwl. Mae heddiw'n ymwneud â'r cyfeiriad cyffredinol.
Bydd cyflawni'r weledigaeth yr ydym ni wedi'i nodi yn heriol. Bydd angen polisïau cydgysylltiedig, nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru, ond gan bartneriaid hefyd—yn enwedig gan lywodraeth leol, y bydd ganddi os cytuna'r Senedd, swyddogaeth hollbwysig, drwy gyd-bwyllgorau corfforaethol, i ddynodi cynlluniau rhanbarthol. Rydym ni wedi trafod droeon yn y Siambr hon nad yw Cymru wedi gweld y buddsoddiad yn ein rhwydwaith rheilffyrdd y mae ein poblogaeth a'n cyfran o seilwaith y rhwydwaith yn ei haeddu. Mae gan Lywodraeth y DU swyddogaeth o ran helpu i fynd i'r afael â hyn, a heddiw rwy'n cynnig gweithio yn adeiladol gyda nhw wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu hymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb yn y DU, os ydyn nhw, yn eu tro, yn ymrwymo i barchu'r setliad datganoli.
Ni allwn ni gyflawni ein nodau heb newid ymddygiad, a bydd hynny'n gofyn am ddewisiadau gwleidyddol anodd ac arweinyddiaeth gref—nid yn unig gan y Llywodraeth, ond yn lleol hefyd. Bydd gennych chi, fel Aelodau'r Senedd, swyddogaeth hollbwysig o ran helpu i gefnogi rhai o'r penderfyniadau lleol anodd sydd eu hangen er mwyn gwireddu hynny. Bydd angen gwyntyllu elfennau o hyn yn y ddadl sylfaenol, genedlaethol y mae angen inni ei chael nawr. Er enghraifft, pa ran a allai fod i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd? Fel yr oeddem yn ei gwneud yn glir yn gynharach yn y flwyddyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru farn benodol ar hyn eto. Nid oes cynllun cyfrinachol mewn drôr desg gan y Llywodraeth yn barod ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ond mae gennym ni gyfrifoldeb i ystyried sut y gellid ei ddefnyddio i sicrhau newid ymddygiad mewn ffordd deg, gyfiawn a chyfartal.
Fel y mae'r Canghellor wedi dweud yn y dyddiau diwethaf, mae symud oddi wrth beiriannau tanwydd hefyd yn golygu symud oddi wrth dreth danwydd, ac mae angen inni nawr benderfynu sut yr ydym yn llenwi'r bwlch a adewir gan hynny. Fel cam cyntaf yn y ddadl honno, Dirprwy Lywydd, rwyf heddiw'n rhoi adroddiad yn Llyfrgell yr Aelodau o'r enw 'Adolygiad annibynnol o godi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru', a gynhaliwyd gan Derek Turner. Mae hyn yn awgrymu, fel cam cyntaf, y dylid datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer sut y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu'n fanylach ag Aelodau ar y mater hwn wrth inni gynnal yr ymgynghoriad.
Mae yna rai sy'n dweud bod y dyfodol yn rhy ansicr i wneud cynlluniau o'r fath, neu y bydd ceir trydan yn datrys ein holl broblemau, a chredaf nad yw dull laissez-faire o'r fath, yn strategaeth drafnidiaeth effeithiol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn wir, nid yw'n strategaeth o gwbl. Ni fydd yn datrys ein problemau tagfeydd. Ni fydd yn datrys ein problemau ansawdd aer. Ni fydd yn datrys ein hargyfwng gordewdra. Ni fydd yn ein gwneud yn genedl decach. Mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru, beth bynnag sydd gan yfory i'w gynnig, yn gweld trafnidiaeth gyhoeddus integredig o ansawdd uchel yn rhan hanfodol ac allweddol o'n dyfodol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni mewn cyfnod tyngedfennol. Mae ein hinsawdd mewn argyfwng. Mae technoleg newydd yn amharu ar y ffordd yr ydym ni'n meddwl am deithio, ac mae'r coronafeirws yn brawf difrifol ar sylfeini ariannol ac economaidd modelau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth gynaliadwy wrth wraidd y Gymru yr ydym ni eisiau ei hadeiladu, i'n rhoi ar lwybr newydd. Diolch.