Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Weinidog, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, rydym yn amlwg yn edrych ymlaen at yr wyth adroddiad adran 19 a fydd yn cael eu paratoi nawr gan Rondda Cynon Taf, a fydd yn bwysig iawn wrth bennu camau atal a chamau gweithredu yn y dyfodol ac ati. Mae un o'r materion sydd wedi codi yn yr oddeutu 30 o gyfarfodydd rwyf i a'r AS lleol wedi'u cael gyda chymunedau, busnesau ac yn y blaen yn ardal Pontypridd a Thaf Elái yn ymwneud â'r pethau y gellir eu gwneud nawr i roi mwy o wytnwch i’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Un o'r materion, wrth gwrs, yw pethau fel gatiau llifogydd ac ati, ac oherwydd mai llifogydd o afonydd, yn bennaf, a gafwyd ym Mhontypridd a Thaf Elái, credaf mai cyfrifoldeb CNC yw hynny. Nawr, rwyf wedi dwyn y mater i'w sylw, a deallaf eu bod wedi bod yn cyfarfod â chi i drafod mater cyllido a darparu adnoddau gwrthsefyll llifogydd ychwanegol i'r cymunedau yr effeithir arnynt ym Mhontypridd a Thaf Elái. Tybed a allech amlinellu canlyniad y trafodaethau rydych wedi'u cael?