Llifogydd yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:44, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fy mod yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, mae'r cyllid y cyfeiriwch ato yno iddynt wneud cais amdano. Felly, soniais fy mod newydd ddyrannu £305,000 yn ychwanegol ddechrau'r wythnos yn uniongyrchol i RhCT ar gyfer mesurau gwrthsefyll llifogydd ar lefel eiddo, ac mae’r cyllid hwnnw’n sicr ar gael i CNC wneud cais amdano hefyd. Felly, unwaith eto, mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Byddaf yn cael cyfarfod arall yr wythnos nesaf, ond mae'r cyllid ar gael nawr.