3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:20, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Corfforaetholdeb yw'r ddamcaniaeth a'r ymarfer o drefnu cymdeithas yn gorfforaethau sy'n ddarostyngedig i'r wladwriaeth. Y dull hwn sydd wedi bod yn dal Cymru yn ôl ers 1999, gan dagu lleoliaeth a thrwy hynny lyffetheirio entrepreneuriaeth gymdeithasol ac arloesi cymunedol. Mae'r Bil hwn a allai fod wedi sbarduno'r newidiadau angenrheidiol wedi dod, yn lle hynny, yn gyfle a gollwyd. Mewn unrhyw gorff neu sefydliad, mae arweinyddiaeth o'r brig i lawr yn rhwystro'r newid sydd ei angen yn y ffordd y mae pobl, sefydliadau a systemau yn ymwneud â'i gilydd, pan ddylai pawb fod yn cynyddu lleisiau a doethineb pobl a chymunedau yn lle hynny, gan gydnabod bod creadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg wedi'u dosbarthu'n eang ymhlith y boblogaeth. Dylai llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol fod yn datblygu ac yn rhyddhau'r potensial hwnnw tuag at amcanion cyffredin.

Mewn datganiad heddiw, ar fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dywed Llywodraeth Cymru fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo 'cymaint â phosibl' o'r gwaith penderfynu a blaenoriaethu i ardaloedd a rhanbarthau lleol, ond wedyn mae'n ychwanegu mai'r mecanwaith a fwriedir yw'r cyd-bwyllgorau corfforaethol a gynigir o dan y Bil hwn. Fodd bynnag, datgelodd y Gweinidog y gyfrinach yn ystod y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil yn y lle hwn yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais bryd hynny, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforaethol hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynghrair sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor gogledd Cymru, busnes a'r byd academaidd.

Fodd bynnag, er ei bod yn cydnabod bod gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy'r bargeinion dinesig a thwf er enghraifft, dywedodd y Gweinidog wedyn ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau'n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol ar ôl eu sefydlu. Ond mae'n ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, o dan y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau rydym ni Weinidogion Cymru yn eu cyhoeddi mewn perthynas â'u gweithrediadau, gan gynnwys eu swyddogaethau, a bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Felly, mae hyn naill ai'n camddeall neu'n tanseilio'r materion allweddol a amlinellais yn gynharach, lle mae llwyddiant y bargeinion dinesig a thwf, neu unrhyw fentrau lleol neu ranbarthol eraill, yn dibynnu ar blannu a meithrin yr hadau'n lleol.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ymwneud â pharchu eraill, datgloi eu cryfderau cynhenid a gallu dirprwyo. Fodd bynnag, drwy gydol ei hymatebion yn ystod Cyfnodau blaenorol i'r Bil hwn, mae'r Gweinidog wedi datgan ei chred bersonol yn y cynigion o fewn y Bil hwn, sy'n cael eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan y cyrff arbenigol yn gweithio yn y meysydd perthnasol, ac yna wedi arwain ei phlaid i drechu ein holl welliannau cysylltiedig.

Wrth ddiystyru arferion da rhyngwladol, gwrthododd y gofynion preswylio gofynnol cyn y gall dinasyddion tramor bleidleisio yma. Wrth ddiystyru'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gwrthododd ofyniad i wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru gael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru. Wrth ddiystyru academyddion, gwrthododd ddarpariaeth i sicrhau nad yw unigolion yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr etholiadol agored, gan effeithio ar yr unigolion sydd yn bwrpasol wedi dewis peidio â chofrestru rhag cael eu hadnabod gan gyn-bartneriaid treisgar neu bobl eraill a allai fod eisiau eu niweidio.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol a'r Comisiwn Etholiadol, gwrthododd gynigion i gadw un system bleidleisio llywodraeth leol ar gyfer Cymru gyfan. Wrth ddiystyru Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwrthododd ei ddadl y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, gwrthododd nifer o gynigion i gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol er mwyn sicrhau adfywio economaidd, cymunedol a chymdeithasol cynaliadwy. Yn hytrach, fel y canfu ymchwilwyr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mae pobl yng Nghymru'n teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Diystyrodd dystiolaeth unfrydol hyd yn oed gan awdurdodau tân ac achub Cymru y byddai'r newidiadau i'r trefniadau llywodraethu y mae'r Bil hwn yn eu cynnig i'w gweld, ac rwy'n dyfynnu, 'yn gam yn ôl, gyda rhywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân.' A gwrthododd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau yr eid iddynt o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil hwn. Felly, dylai pob Aelod cyfrifol wrthwynebu'r Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn yn unol â hynny.