Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 18 Tachwedd 2020.
Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno.
Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i newid diwylliant llywodraeth leol mewn cymaint o ffyrdd, i gyflwyno mwy o gyfartaledd ac i newid y system bleidleisio yn genedlaethol. Yn ystod trafodaethau ar y ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gymryd sawl cam i wella cydraddoldebau ac amrywiaeth, ac rŷn ni'n disgwyl ac yn mawr obeithio y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu gweithredu arnynt. Rŷn ni'n cysylltu ein hunain gyda rhai o'r pethau roedd Mark Isherwood wedi dweud am y corporate joint committees hefyd, yn amlwg.
Diolch eto i'r clercod, i staff cymorth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu gwaith caled. Gwnawn ni obeithio bod mwy o ddatblygiadau pwysig eto i ddod yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Diolch.