3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 18 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:17, 18 Tachwedd 2020

Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Felly, peidiwch ag eistedd i lawr, Weinidog, chi sydd yn cyflwyno'r eitem yma. Felly, Julie James.

Cynnig NDM7486 Julie James

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:17, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal ag Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriadau ar y Papur Gwyn a'r Papur Gwyrdd, a fu'n gyfrifol am lywio'r Bil, a'r rhai a gyfrannodd dystiolaeth i'r broses graffu. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i bawb mewn llywodraeth leol sydd wedi gweithio gyda mi a fy swyddogion i gytuno ar weledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol ac i ddatblygu atebion ar y cyd i'r heriau y maent yn eu hwynebu, heriau sydd wedi rhoi siâp i'r Bil terfynol. Yn olaf, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i dîm y Bil a'r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi'r Bil drwy ei nifer fawr iawn o iteriadau. Mae'n flwyddyn i'r diwrnod ers inni gyflwyno'r Bil i'r Senedd, sy'n dwt iawn.

Felly, rwy'n cydnabod bod darpariaethau'r Bil hwn wedi bod ar y gweill am amser hir. Mae'r cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol wedi bod yn destun trafodaeth ac ymgynghoriad manwl iawn. Efallai ei bod wedi cymryd sawl blwyddyn i gyrraedd y pwynt hwn, ond credaf fod gennym Fil yn awr a fydd yn sicrhau diwygio effeithiol a gynlluniwyd gyda llywodraeth leol.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd union flwyddyn yn ôl i'r diwrnod, yn darparu pecyn eang o ddiwygiadau. Mae'r rhain yn cynnwys pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif awdurdodau lleol a chynghorau cymuned cymwys a chyfundrefn lywodraethu a pherfformiad newydd ar gyfer prif gynghorau. Mae'r Bil yn rhoi mwy o gyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan a thryloywder mewn llywodraeth leol er mwyn rhoi mwy o bŵer i bobl leol. Mae'n cynnwys mesurau i annog mwy o amrywiaeth ymhlith deiliaid swyddi ac aelodau o brif gynghorau, megis y rhai sy'n ymwneud â rhannu swyddi, gweithio o bell ac absenoldeb teuluol.

Bydd y Bil yn galluogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i gael eu sefydlu drwy reoliadau. Bydd y rhain yn dod â mwy o gydlyniad i drefniadau llywodraethu rhanbarthol; byddant yn cryfhau atebolrwydd democrataidd lleol drwy sicrhau mai aelodau etholedig lleol sy'n gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd ynglŷn â gwasanaethau llywodraeth leol, gan ddarparu ar gyfer pobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae ymgynghoriad ar y rheoliadau sefydlu ar y gweill ar hyn o bryd tan 4 Ionawr, ac rwy'n croesawu barn yr Aelodau ar y rheoliadau hynny.

Bydd y Bil hefyd yn gwella'r trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed ac i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt gael llais yn y ffordd y caiff eu cymunedau eu rhedeg. Mae hyn yn adlewyrchu hawliau pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

Bydd y Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig cenedlaethol a'r dreth gyngor ac yn cryfhau ac yn moderneiddio gweithrediad llywodraeth leol mewn ystod o faterion amrywiol.

I grynhoi, bydd y Bil hwn yn ein galluogi i weithredu ein cynigion ar gyfer cryfhau a grymuso llywodraeth leol yng Nghymru. Bydd yn adeiladu prif gynghorau a chynghorau cymuned gwydn ac adnewyddedig, gan ddarparu gwell arfau iddynt weithio gyda'i gilydd a chyda ni, eu cymunedau, ac ar draws pob sector i ailadeiladu Cymru yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r Bil hwn. Diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:20, 18 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Corfforaetholdeb yw'r ddamcaniaeth a'r ymarfer o drefnu cymdeithas yn gorfforaethau sy'n ddarostyngedig i'r wladwriaeth. Y dull hwn sydd wedi bod yn dal Cymru yn ôl ers 1999, gan dagu lleoliaeth a thrwy hynny lyffetheirio entrepreneuriaeth gymdeithasol ac arloesi cymunedol. Mae'r Bil hwn a allai fod wedi sbarduno'r newidiadau angenrheidiol wedi dod, yn lle hynny, yn gyfle a gollwyd. Mewn unrhyw gorff neu sefydliad, mae arweinyddiaeth o'r brig i lawr yn rhwystro'r newid sydd ei angen yn y ffordd y mae pobl, sefydliadau a systemau yn ymwneud â'i gilydd, pan ddylai pawb fod yn cynyddu lleisiau a doethineb pobl a chymunedau yn lle hynny, gan gydnabod bod creadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg wedi'u dosbarthu'n eang ymhlith y boblogaeth. Dylai llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol fod yn datblygu ac yn rhyddhau'r potensial hwnnw tuag at amcanion cyffredin.

Mewn datganiad heddiw, ar fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dywed Llywodraeth Cymru fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo 'cymaint â phosibl' o'r gwaith penderfynu a blaenoriaethu i ardaloedd a rhanbarthau lleol, ond wedyn mae'n ychwanegu mai'r mecanwaith a fwriedir yw'r cyd-bwyllgorau corfforaethol a gynigir o dan y Bil hwn. Fodd bynnag, datgelodd y Gweinidog y gyfrinach yn ystod y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil yn y lle hwn yr wythnos diwethaf. Fel y dywedais bryd hynny, o ystyried eu rôl o ran seilwaith rhanbarthol a datblygu economaidd, mae'r gallu i ganiatáu i Weinidogion Cymru fandadu creu cyd-bwyllgorau corfforaethol hefyd yn tanseilio'r datganoli mewnol a'r gwaith partneriaeth lleol a sefydlwyd mewn ardaloedd gan gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynghrair sy'n cynnwys y ddwy Lywodraeth, pob un o chwe chyngor gogledd Cymru, busnes a'r byd academaidd.

Fodd bynnag, er ei bod yn cydnabod bod gan brif gynghorau gyfoeth o brofiad yn cyflawni swyddogaethau economaidd, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, drwy'r bargeinion dinesig a thwf er enghraifft, dywedodd y Gweinidog wedyn ei bod yn gobeithio y bydd rhanbarthau'n trosglwyddo eu trefniadau rhanbarthol presennol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol ar ôl eu sefydlu. Ond mae'n ofynnol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, o dan y Bil, roi sylw i unrhyw ganllawiau rydym ni Weinidogion Cymru yn eu cyhoeddi mewn perthynas â'u gweithrediadau, gan gynnwys eu swyddogaethau, a bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu gosod cyfyngiadau ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd drwy reoliadau. Felly, mae hyn naill ai'n camddeall neu'n tanseilio'r materion allweddol a amlinellais yn gynharach, lle mae llwyddiant y bargeinion dinesig a thwf, neu unrhyw fentrau lleol neu ranbarthol eraill, yn dibynnu ar blannu a meithrin yr hadau'n lleol.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn ymwneud â pharchu eraill, datgloi eu cryfderau cynhenid a gallu dirprwyo. Fodd bynnag, drwy gydol ei hymatebion yn ystod Cyfnodau blaenorol i'r Bil hwn, mae'r Gweinidog wedi datgan ei chred bersonol yn y cynigion o fewn y Bil hwn, sy'n cael eu gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y dystiolaeth a ddarparwyd gan y cyrff arbenigol yn gweithio yn y meysydd perthnasol, ac yna wedi arwain ei phlaid i drechu ein holl welliannau cysylltiedig.

Wrth ddiystyru arferion da rhyngwladol, gwrthododd y gofynion preswylio gofynnol cyn y gall dinasyddion tramor bleidleisio yma. Wrth ddiystyru'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, gwrthododd ofyniad i wleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru gael eu haddysgu ym mhob ysgol yng Nghymru. Wrth ddiystyru academyddion, gwrthododd ddarpariaeth i sicrhau nad yw unigolion yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar y gofrestr etholiadol agored, gan effeithio ar yr unigolion sydd yn bwrpasol wedi dewis peidio â chofrestru rhag cael eu hadnabod gan gyn-bartneriaid treisgar neu bobl eraill a allai fod eisiau eu niweidio.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol a'r Comisiwn Etholiadol, gwrthododd gynigion i gadw un system bleidleisio llywodraeth leol ar gyfer Cymru gyfan. Wrth ddiystyru Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwrthododd ei ddadl y dylai'r cynghorau tref a chymuned sy'n dymuno arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol baratoi strategaeth ar gyfer arfer y pŵer yn briodol.

Wrth ddiystyru Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, gwrthododd nifer o gynigion i gynnwys pobl leol a sefydliadau cymunedol lleol wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth leol er mwyn sicrhau adfywio economaidd, cymunedol a chymdeithasol cynaliadwy. Yn hytrach, fel y canfu ymchwilwyr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, mae pobl yng Nghymru'n teimlo'n llai a llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Diystyrodd dystiolaeth unfrydol hyd yn oed gan awdurdodau tân ac achub Cymru y byddai'r newidiadau i'r trefniadau llywodraethu y mae'r Bil hwn yn eu cynnig i'w gweld, ac rwy'n dyfynnu, 'yn gam yn ôl, gyda rhywfaint o risg i ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr tân.' A gwrthododd ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddigolledu awdurdodau lleol am unrhyw gostau yr eid iddynt o ganlyniad i ddarpariaethau yn y Bil hwn. Felly, dylai pob Aelod cyfrifol wrthwynebu'r Bil hwn, a byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn yn unol â hynny.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:26, 18 Tachwedd 2020

Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno.

Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i newid diwylliant llywodraeth leol mewn cymaint o ffyrdd, i gyflwyno mwy o gyfartaledd ac i newid y system bleidleisio yn genedlaethol. Yn ystod trafodaethau ar y ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gymryd sawl cam i wella cydraddoldebau ac amrywiaeth, ac rŷn ni'n disgwyl ac yn mawr obeithio y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu gweithredu arnynt. Rŷn ni'n cysylltu ein hunain gyda rhai o'r pethau roedd Mark Isherwood wedi dweud am y corporate joint committees hefyd, yn amlwg.

Diolch eto i'r clercod, i staff cymorth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu gwaith caled. Gwnawn ni obeithio bod mwy o ddatblygiadau pwysig eto i ddod yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar y Bil, gan gynnwys y pwyllgorau a phawb yma yn y Senedd. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:28, 18 Tachwedd 2020

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly mae'r bleidlais ar y Cyfnod yma yn cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.