1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU? OQ55901
Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi dyrannu mwy na £4 biliwn fel rhan o'n hymateb i COVID-19. Byddaf yn parhau i wneud penderfyniadau cyllido darbodus pellach ac yn dyrannu adnoddau pellach pan fydd eu hangen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yr economi ac unigolion.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais y cwestiwn i’ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac awgrymodd, yn ddefnyddiol iawn, mai chi sydd yn y sefyllfa orau i ateb y cwestiwn. Rwy'n siŵr y byddech, wrth gwrs, yn croesawu'r £600 miliwn a ddyrannwyd gan y Canghellor y mis diwethaf mewn cyllid canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n ychwanegol, wrth gwrs, at yr £1.1 biliwn a warantwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o bryder wedi bod ynghylch dosbarthiad amserol y cyllid hwn i fusnesau. A allwch ddweud wrthyf faint o'r cyllid hwn sy'n dal i fod yng nghoffrau Llywodraeth Cymru, yn hytrach na’n darparu'r gefnogaeth hanfodol honno i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn? Fe ddywedoch chi eich bod wedi dyrannu £4 biliwn hyd yn hyn, felly rwy'n cyfrif bod £1 biliwn arall eto i’w wario. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a phryd y bydd yr arian hwnnw'n cyrraedd busnesau ar y rheng flaen?
Roeddwn yn falch iawn o allu negodi’r warant honno gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer COVID-19. Ond yr hyn nad ydym wedi'i dderbyn eto gan Lywodraeth y DU yw'r ymarfer cysoni hwnnw, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall beth yn union y mae'r warant honno ar ei gyfer. Oherwydd gadewch inni gofio, mae'r holl arian hwn yn cyfateb i’r gwariant ar fynd i'r afael â COVID-19 dros y ffin yn Lloegr—nid yw'n driniaeth arbennig na’n ffafr arbennig i Gymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi pleidleisio a derbyn ein hail gyllideb atodol yr wythnos diwethaf er mwyn sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl mewn perthynas â’r penderfyniadau a'r dyraniadau a wnawn yng Nghymru. A Chymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyhoeddi ail gyllideb atodol hyd yn hyn, i ddangos y cyllid sy'n cael ei ddarparu i unigolion, i fusnesau, ac i gymunedau, y GIG ac i lywodraeth leol hefyd.
Yn yr ail gyllideb atodol, cafwyd cynnydd o £2.5 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae cyllid pellach i'w ddyrannu, ond wrth gwrs, nid ydym ond dwy ran o dair o'r ffordd drwy'r flwyddyn ariannol. Mae’r posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' ar y gorwel, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd llwybr y pandemig rhwng nawr a'r gwanwyn. Felly, bydd dyraniadau pellach i'w gwneud, ond byddant yn amserol ac yn ymateb i'r amgylchiadau penodol y byddwn yn eu hwynebu.
Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl yn unig, gwelsom aelodau Cabinet Ceidwadol Llywodraeth y DU, a Phrif Weinidog y DU yn wir yn curo dwylo ac yn diolch i weithwyr allweddol bob dydd Iau am 8 p.m. ar garreg y drws—y tu allan i Rif 10 yn wir. Erbyn heddiw, gwyddom bellach fod y Canghellor yn bwriadu rhewi cyflogau rhai o'r gweithwyr allweddol hynny. Diolch byth na fydd hynny’n digwydd i weithwyr y GIG, a rhai gweithwyr eraill, ond bydd cyflogau llawer iawn o weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi bod ar y rheng flaen yn cael eu rhewi y flwyddyn nesaf. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, os gall Llywodraeth Dorïaidd y DU ddod o hyd i'r arian i roi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn contractau i’w ffrindiau am gyfarpar diogelu personol anaddas, does bosibl na allant ddod o hyd i arian i roi'r codiad cyflog y maent yn ei haeddu i weithwyr ein sector cyhoeddus—pob un ohonynt—y buont yn diolch iddynt bob wythnos, i gydnabod y ffordd y maent wedi cadw'r wlad i fynd yn ystod y pandemig?
Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, yn yr ystyr fod y dyraniadau a’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchiad o werthoedd Llywodraeth y DU i raddau helaeth, a’r pethau sydd bwysicaf iddynt. O'm rhan i, cyn adolygiad o wariant y Canghellor heddiw, ysgrifennais at y Canghellor yn ei annog i gadw rhag rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus, ac i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnom yma yng Nghymru er mwyn diogelu iechyd, swyddi a chefnogi adferiad teg. Ac mae gwir angen i'r Trysorlys ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddo i gefnogi’r gweithwyr ar y rheng flaen sydd wedi gwneud cymaint drosom ni yng Nghymru a ledled y DU drwy gydol y pandemig hwn. Ac mae'r penderfyniad heddiw yn gosod gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn erbyn ei gilydd, sy'n peri cryn bryder, ond yn amlwg, mae’n siomedig iawn ac yn ddiangen.
Weinidog, mae Canghellor Trysorlys y DU nawr yn cyhoeddi cynlluniau gwariant Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gyfer y flwyddyn i ddod, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a ohiriwyd cyhyd. A ninnau'n ceisio sicrwydd a chynllunio ar gyfer tymor hwy ar draws asiantaethau rhynglywodraethol a llywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn, mae'n siomedig mai cynllun blwyddyn yw hwn o hyd. Ac wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o'r undeb, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael arian sy'n gymesur ag unrhyw arian i Loegr, diolch i fformiwla Barnett, ac edrychaf ymlaen at weld y cyllid canlyniadol hwnnw’n dod i Gymru, er fy mod yn parhau i fod mewn penbleth ac yn methu deall pam nad yw Cymru ar hyn o bryd yn cael unrhyw beth o HS2.
Weinidog, mae'n bwysig fod cynnig diwylliannol a cherddorol Cymru yn cael ei ddiogelu a'i gynnal dros y gaeaf COVID anodd hwn, ac er bod y gronfa adferiad diwylliannol wedi'i chroesawu ac wedi’i dihysbyddu, mae'n dal i hepgor categorïau eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio llenwi’r bylchau hynny. Felly, Weinidog, pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'r Trysorlys ynglŷn ag incwm ychwanegol mawr ei angen i Gymru? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i berfformio cerddoriaeth fyw yng Nghymru?
Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais wrth Russell George, fod Llywodraeth Cymru yn cael canlyniadau'r ymarfer cysoni hwnnw, fel y gallwn ddeall ar gyfer beth yn union y mae'r cyllid canlyniadol rydym wedi’i dderbyn hyd yma, ac yna gallwn ddeall yn well p’un a fydd cyllid pellach yn cael ei ddarparu cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwn fod rhai trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynglŷn â chefnogaeth bellach i'r sector diwylliannol, ac yn sicr, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i gael trafodaethau pellach yn ei gylch gydag Eluned Morgan a Dafydd Elis-Thomas.
Dyw'r ail gwestiwn [OQ55934] ddim yn gallu cael ei ofyn am resymau technegol.