2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd? OQ55924
Diolch, Andrew. Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau mewn perthynas â theithio yn ystod cyfnod y Nadolig a thu hwnt wrth inni barhau i fonitro cyfraddau trosglwyddiad yng Nghymru. Mae'n rhy gynnar i gadarnhau unrhyw drefniadau a fydd ar waith mewn perthynas â phrifysgolion yn y flwyddyn newydd.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond yn amlwg, bu cryn dipyn o symud ymhlith fyfyrwyr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi, a hwn fydd yr ail gyfle i ailadrodd symud myfyrwyr yn y fath fodd, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn wir, myfyrwyr rhyngwladol. Clywais yr hyn a ddywedoch—rydych o’r farn ei bod yn rhy gynnar i gyhoeddi unrhyw beth pendant ar hyn o bryd—ond a allwch nodi unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg y gallai fod angen eu rhoi ar waith i groesawu myfyrwyr yn ôl ym mis Ionawr, yn enwedig o ran gofal bugeiliol? Yn amlwg, gwyddom fod mis Ionawr yn tueddu i arwain at bwysau wrth i fyfyrwyr ddychwelyd o dan amgylchiadau arferol, ond gyda'r sefyllfa eithriadol y mae myfyrwyr yn ei hwynebu ar hyn o bryd, bydd gofal bugeiliol i fyfyrwyr yn hollbwysig, a bydd y gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi prifysgolion, drwy iechyd y cyhoedd ac ati, yn hanfodol bwysig yn fy marn i.
Diolch, Andrew. Fe ofynnoch chi am themâu sy'n dod i'r amlwg; rwy'n benderfynol o sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg myfyrwyr wrth gwrs, ond yn amlwg, mae angen inni fonitro hynny fel rhan o ymateb cyffredinol y Llywodraeth i'r pandemig yng nghyswllt iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n prifysgolion ac undebau myfyrwyr, ac mae llawer o'r elfennau a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig yn elfennau pwysig yn ein cynlluniau ar gyfer dychwelyd yn y flwyddyn newydd, fel trefnu dyddiadau gwahanol i fyfyrwyr adael y campws. Yn amlwg, mae trefnu dyddiadau gwahanol ar gyfer dychwelyd yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, yn ogystal â rôl hanfodol profion llif unffordd. Mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer profion llif unffordd. Yn amlwg, rydym am ddysgu'r gwersi o'r cynllun peilot hwnnw. Bydd y profion hynny'n parhau i gael eu cynnal yn y flwyddyn newydd, ac felly byddant yn cynorthwyo gydag unrhyw gynlluniau i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i'r campws.
Weinidog, a gaf fi ganmol y gwaith a wnaed ym Mhrifysgol De Cymru, nid yn unig ar arloesi gyda datblygiad offer profi a allai fod yn fasnachol hyfyw yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac a allai wneud gwahaniaeth, ond hefyd y ffordd y mae'r brifysgol wedi datblygu cefnogaeth fugeiliol i'r myfyrwyr, yn sicr yn nhref Pontypridd, ac yn Nhrefforest, lle mae'r brifysgol wedi'i lleoli? Yn dilyn y cwestiwn diwethaf, yn amlwg, wynebwyd heriau mawr o ran cynnal profion ar fyfyrwyr wrth iddynt ddychwelyd adref, ac un o'r pryderon ac un o'r materion sy'n codi wrth i fyfyrwyr ddychwelyd, a chyda llawer o fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr tramor, yw a fydd y gallu i brofi a chadw rheolaeth ar y pandemig COVID yn dal i fod yno. Pa fath o fesurau fydd ar waith, pa sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt gyda Phrifysgol De Cymru er enghraifft, a phrifysgolion eraill, ac a oes unrhyw oblygiadau cyllidol a fyddai’n cynorthwyo prifysgolion i alluogi hyn i ddigwydd er lles pawb?
Diolch, Mick. Yn wir, hoffwn gofnodi fy niolch i'r prifysgolion—Prifysgol De Cymru, ac yn wir, ein holl sefydliadau addysg uwch—sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed dros ddechrau'r flwyddyn academaidd hon i gynnal profiadau addysgol o safon, i ofalu am les eu myfyrwyr, ac i chwarae eu rhan yn rheoli’r perygl i iechyd y cyhoedd ynghanol pandemig byd-eang. A hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr eu hunain, sy'n chwarae eu rhan drwy ddilyn y rheolau, gan gadw eu hunain a'u ffrindiau'n ddiogel. Rydym yn gweld cyfraddau'r achosion o'r feirws yn gostwng yn y rhan fwyaf o'n prifysgolion, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr, a gobeithiwn y bydd y duedd honno'n parhau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n his-gangellorion; yn wir, cyfarfûm â phob un ohonynt ddechrau’r wythnos hon i ystyried y profiadau hyd yn hyn ac i wneud yn siŵr fod mesurau ar waith i sicrhau diwedd llwyddiannus i’r tymor hwn ac i ddechrau cynllunio ar gyfer dychwelyd yn ddiogel ym mis Ionawr. Ac yn amlwg, rydym hefyd yn gweithio gyda’n cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, o gofio bod llawer o'n myfyrwyr yn teithio i mewn ac allan o Gymru i Loegr, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon. Lle bo modd, rydym yn ceisio sicrhau bod gennym ddull cyffredin o reoli'r broses honno.