Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod fod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol, ac mae gennyf bob ffydd y bydd y penaethiaid sy'n gwneud penderfyniadau ar sut i wario'r arian hwn, oherwydd mater iddynt hwy yw penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian sydd ar gael iddynt, hefyd wedi bod yn gwneud penderfyniadau i sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol.
O ran casglu data, rydym yn aros am y ffurflenni terfynol gan rai ysgolion unigol, a rhai awdurdodau addysg lleol unigol, ond rwy'n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod fy mod yn fodlon iawn ein bod wedi cyrraedd ein targedau cychwynnol o tua 900 cyfwerth ag amser llawn.