Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr. Ac, yn olaf, a gaf i droi at y COVID catch-up scheme? Mae yna amheuon ynglŷn â'r cynllun yma. Dydy o ddim yn glir iawn sut mae'r help yn cael ei dargedu, sut mae anghenion yn cael eu mesur, pa fonitro sydd yn digwydd. Yn amlwg, mae angen sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i ddelio efo'r colli addysgol sydd yn rhwym o fod yn digwydd ar hyn o bryd, ac sydd yn mynd i bara am rai misoedd. Felly, mi wnes i ofyn, y tro diwethaf yr oedd y sesiwn yma ymlaen, am ddiweddariad, a dydw i ddim wedi cael hwnna. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gael gwybod yn union sut mae'r cynllun yma'n gweithredu, ac os oes yna unrhyw rwystrau efo fo, bod ni'n cael gwybod hynny hefyd.