Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:37, 25 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno gorau po gyntaf mae'r rhaglen yma'n cael ei rhowlio allan, yn enwedig o gofio bod yna lacio rhywfaint yn mynd i ddigwydd dros y Nadolig, ac mi fydd yr agwedd yma—y profi yma—yn hollbwysig ym mis Ionawr, wrth i ni symud ymlaen. 

Yn ogystal â'r profion ar raddfa eang, a'r gwisgo mygydau yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach, pa fesurau pellach ydych chi'n ystyried er mwyn cadw'r ysgolion ar agor, ond hynny mewn ffordd ddiogel? Er enghraifft, awyru adeiladau'n well. A oes yna ganllawiau manwl ynglŷn â hynny? Ac a fedrwch chi sôn am unrhyw fesurau arbennig i ddiogelu staff ysgolion sy'n fregus—y clinically vulnerable employees—? Mae'r ddau faes yma—mae'r undebau'n gofyn am eglurder yn eu cylch nhw.

Ac wedyn, mae yna alw hefyd am ddosbarthiadau llai a rhoi system rota ddysgu ar waith, os bydd yr achosion yn cynyddu, wrth gwrs. Beth ydy eich barn chi am hynny? Ac, os ydy hwnnw'n mynd i ddod i mewn, yn amlwg, mi fydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu o bell efo mwy o ddisgyblion adref.