Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae canllawiau gweithredol ar gael i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol, sy'n cynnwys cyfeiriad at awyru adeiladau. Dylai pob aelod o staff fod yn destun asesiad risg. Felly, dylai unrhyw wendidau sy'n gysylltiedig â'r unigolyn gael eu hystyried gan yr asesiad risg unigol a chan y cyflogwyr.
O ran y system rota y mae'r Aelod wedi'i hawgrymu, yn amlwg, rydym wedi gofyn i ysgolion ac awdurdodau lleol baratoi ar gyfer nifer o senarios a allai gynnwys system rota, pe teimlid mai dyna'r cam angenrheidiol sydd ei angen i gadw rheolaeth ar y pandemig. Felly, mae'n cael ei adolygu'n barhaus, rhag ofn y bydd angen gwneud hynny.