Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:00, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog. Mae athrawes ifanc o Lanelli wedi cysylltu â mi, yn fy rhanbarth, yn frwdfrydig iawn am y cwricwlwm newydd mewn gwirionedd. Yr hyn a ddywedodd oedd 'Ni allaf aros.' Ond mae'n bryderus iawn na fydd hi wedi paratoi'n briodol, ac ar yr un pryd, yn poeni y bydd pethau eraill yn mynnu ei sylw, drwy orfod gweithio gymaint yn galetach gyda disgyblion, yn enwedig pan fyddwch yn gorfod ymdopi â dysgu cyfunol a phobl ifanc sydd angen dal i fyny. Os byddwn yn dilyn yr amserlen fel y mae, mae'n poeni'n fawr na fydd yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn y ffordd y mae eisiau ei wneud ar yr un pryd â pharatoi a darparu cymorth i'w phobl ifanc, gyda llawer ohonynt—. Mae yna broblemau emosiynol; mae'n athrawes ddosbarth, felly mae'n ymwneud yn helaeth â'r gefnogaeth honno. Mae wedi gofyn i mi godi hyn gyda chi'n uniongyrchol, Weinidog, nid oherwydd ei bod eisiau tanseilio proses y cwricwlwm newydd mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd ei bod mor awyddus i wneud pethau'n iawn, ac nid yw'n siŵr, fel gweithiwr proffesiynol cymharol ifanc, y bydd yn gallu gwneud y ddau beth ar unwaith. Beth hoffech chi i mi ei ddweud wrthi?