Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch, Helen Mary. Eleni, fel y dywedais, mae pob un o'n hysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mae llawer yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n gwneud defnydd da o'r canllaw cwricwlwm newydd ac yn meddwl am eu datblygiadau cwricwlwm yn y dyfodol. Rwy'n deall bod mynediad ysgolion at gymorth a dysgu proffesiynol yn cynyddu yn y rhanbarth wrth i ni symud tuag at 2022.