3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
5. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Senedd Ieuenctid Cymru? OQ55904
Diolch. Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael hydref prysur, wrth i Aelodau nesáu at ddiwedd eu tymor yn y swydd. Cefnogodd y Comisiwn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid i gynhyrchu a chyhoeddi dau adroddiad yn seiliedig ar waith eu pwyllgorau. Roedd un yn edrych ar gymorth iechyd emosiynol a meddwl a'r llall ar wastraff sbwriel a phlastig.
Roedd cyfarfod olaf y Senedd Ieuenctid ar 14 Tachwedd, a fi gadeiriodd y sesiwn hynny. Roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion pwyllgorau'r Senedd a chomisiynwyr cenedlaethau'r dyfodol a phobl ifanc. Yn ychwanegol at hynny, mae Aelodau o'r Senedd ieuenctid wedi cael cefnogaeth i gynnal sesiynau craffu gydag ystod o Weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd i rannu eu profiad o'r coronafeirws yn ystod yr haf. Ac yn fwy diweddar, cynhaliodd rhai Aelodau sesiwn gyda'r Gweinidog Addysg i rannu eu barn, a barn pobl ifanc eraill, cyn cyhoeddiad y Gweinidog ar arholiadau. Ac fe fydd yna sesiwn bellach gyda rhai o'r seneddwyr ieuenctid yn cwrdd â'r Prif Weinidog nos Lun nesaf.
Rwy'n gwybod y bydd y Senedd Ieuenctid yn parhau am ychydig fisoedd eto, ond hoffwn dalu teyrnged i waith caled yr Aelodau ifanc hynny ac i ddiolch am waith rhieni, ysgolion, sefydliadau partner a'n staff ni ein hunain wrth helpu i ddod â thri llinyn eu gwaith i gasgliad llwyddiannus.
Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am yr ateb.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn falch iawn o'r bobl ifanc a'r hyn y maent wedi'i gyflawni yn yr amgylchiadau anodd hyn, ac rwy'n credu y byddem i gyd eisiau diolch yn fawr iawn i'r staff sydd wedi eu galluogi i barhau â'u gwaith yn yr un ffordd, wrth gwrs, ag y mae staff y Senedd wedi ein galluogi i barhau â'n gwaith ninnau.
Rwyf wedi bod yn bryderus, er hynny, am lesiant emosiynol yr Aelodau ifanc. Ni fydd eu profiad o fod yn Aelodau ifanc o'r Senedd fel roeddent wedi'i ddisgwyl. Felly, a allwch chi gadarnhau, Lywydd, fod aelodau o staff yma wedi bod mewn cysylltiad â'r gweithwyr proffesiynol—gweithwyr ieuenctid ac eraill—sy'n cefnogi'r bobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn iawn? Yn ogystal â hynny, fel y dywedoch chi, mae'r tymor cyntaf wedi dod i ben, mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol, maent wedi gwneud llawer iawn o waith ac rwy'n siŵr yr hoffem i gyd ddiolch iddynt. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y camau sydd ar waith i baratoi ar gyfer yr etholiadau nesaf ar gyfer ein seneddwyr ifanc nesaf? Mae'n bosibl y bydd hynny'n cael ei wneud, wrth gwrs, mewn cyfnod heriol lle mae gan ysgolion a grwpiau ieuenctid lawer o gyfrifoldebau na fyddent fel arfer yn gorfod ymdopi â hwy. Felly, rwy'n gobeithio bod ystyriaeth a chynllunio'n digwydd mewn perthynas â'r ffordd y gallwn sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid nesaf mor effeithiol ag y mae hon wedi bod.
Wel, mae wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Llywydd i gadeirio digwyddiadau a chyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Maent yn bobl ifanc ysbrydoledig sydd wedi bod eisiau cynrychioli pobl ifanc eraill a gwneud yn siŵr fod barn pobl ifanc yng Nghymru yn cael dylanwad arnom ni fel Senedd, ac mae wedi bod yn daith ysbrydoledig iddynt hwy ac i minnau hefyd, yn bendant. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dyfodol hynny, dysgwn o brofiad y Senedd gyntaf, a byddwn yn llunio adroddiad etifeddiaeth, fel rydym yn ei wneud ar gyfer sawl agwedd ar waith y Senedd, i symud ymlaen i'r Senedd nesaf ac i baratoi i ethol y Senedd Ieuenctid nesaf yn ystod yr hydref y flwyddyn nesaf.
Fel y dywedwch, mae'r 60 Aelod ifanc o'n Senedd Ieuenctid wedi profi'r pandemig, fel y gwnaeth pawb ohonom, ac maent wedi cael eu profiadau eu hunain o hynny. Mae staff ein Comisiwn, sydd wedi gweithio gyda hwy ar y pwyllgorau ac yn y Senedd yn Senedd Ieuenctid Cymru ei hun, wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ffaith eu bod yn dod o wahanol amgylchiadau—pob un ohonynt—ac maent wedi cael cymorth, cymaint ag y gallwn, i'w galluogi i barhau â'u gwaith ym mha ffordd bynnag y gallent fel seneddwyr ieuenctid. Felly, mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n wir i'r 60 Aelod a gafodd eu hethol. Roeddent yn arloeswyr, a byddwn yn ethol ein hail Senedd Ieuenctid cyn bo hir, a chredaf ein bod wedi gwneud gwaith da fel Senedd yn cefnogi ein pobl ifanc a chaniatáu iddynt gael llais, ond yn arbennig hefyd, drwy wrando ar yr hyn roedd ganddynt i'w ddweud.
A chwestiwn olaf y sesiwn hon yw cwestiwn 6, Alun Davies.