Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at lawer o bethau am ein GIG—gwydnwch ein staff, eu hymrwymiad i gleifion yn yr oriau ychwanegol niferus y maent wedi gweithio, a'r hyblygrwydd y mae cynifer o staff wedi'i ddangos i helpu i roi'r ymateb i'r pandemig ar waith. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r gwendidau mewn system sydd wedi bod yn gwegian ers peth amser. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders fod rhestrau aros ar gynnydd cyn i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddechrau, a gwyddom fod yr ôl-groniad mor fawr erbyn hyn fel y bydd angen gweithredu am flynyddoedd i'w gael yn ôl i'r hyn ydyw'n arferol. Yn wir, cyfaddefodd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf.
Wrth i ni nesáu at y gaeaf, rwy'n pryderu y bydd rhestrau aros yn tyfu'n hirach, fel y maent bob amser yn ei wneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig wrth i'r GIG ganolbwyntio ar bwysau COVID-19 a phwysau'r gaeaf. Mae hyn ar ei fwyaf amlwg yn fy ardal i yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd angen i'r bobl wybod nawr pryd y gallant ddisgwyl triniaeth nid yn unig ar gyfer materion arferol ond mynediad at driniaethau sy'n achub bywydau hefyd. Ym mis Medi eleni, roedd 26,974 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau eu triniaeth yn ne-ddwyrain Cymru, pan fo'r targed yn sero, o'i gymharu â dim ond 1,313 flwyddyn yn ôl. Mae'n amlwg yn gynnydd aruthrol. Amlinellodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn eu tystiolaeth ddiweddar i'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fod ôl-groniad sylweddol o lawdriniaethau dewisol yn bodoli yng Nghymru cyn y pandemig COVID-19, ac y byddai wedi cynyddu'n anochel. Ym mis Ionawr 2020, dangosodd yr ystadegau diwethaf ar amseroedd aros cyn y pandemig fod bron i hanner miliwn o bobl yn aros i ddechrau triniaeth, gyda 76,862 yn aros mwy na 26 wythnos. Y perygl yw y bydd angen llawdriniaethau cymhleth ar lawer o gleifion os nad yw eu triniaeth yn digwydd yn amserol, gan arwain yn rhy aml, fel y gwyddom, at symptomau sy'n gwaethygu a dirywiad yn eu cyflwr.
Ddirprwy Lywydd, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu'r gwaith o adeiladu ac agoriad ysbyty newydd yn ddiweddar, Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân. Dylem i gyd fod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio'r modd y darperir gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gyda chyfleusterau newydd, ffocws ar fodelau gofal arloesol a'r diweddaraf mewn technoleg ac offer. Mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn cael ei ddatblygu bellach ers ymhell dros 10 mlynedd—cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn rwy'n credu, cofiaf gymryd rhan yng nghyfarfodydd dyfodol clinigol Gwent ar y pryd—ac o'r diwedd mae gennym y cyfleuster rhagorol hwn. Ond os yw cyfleusterau newydd yn mynd i fod yn effeithiol, rhaid iddynt gael adnoddau priodol gyda'r lefel gywir o staff. Mae angen osgoi unrhyw risg o brinder, ac mae angen i bobl wybod bod modd cyrraedd yr ysbyty mewn car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae'r materion hyn wedi'u dwyn i fy sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y broblem yw, mae croesawu capasiti newydd yn ddigwyddiad rhy anghyffredin, ac mae'r gwrthwyneb yn wir am broblem amseroedd aros a rhestrau aros cynyddol—nid ydynt yn anghyffredin, ac maent yn rhywbeth y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn y gorffennol.
Yn yr ail Gynulliad, cyflwynodd y Gweinidog iechyd ar y pryd gynllun yr ail gynnig i leihau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros drwy gynnig triniaeth mewn mannau eraill yn y GIG a thu allan i Gymru yn y sector annibynnol. Bryd hynny, cafodd llawer o bobl eu trin yn gyflymach. Yn wir, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2005, cynigiwyd ysbytai amgen yn y sector preifat i gyfanswm o 495 o bobl o Went gael eu llawdriniaethau. A bod yn deg â'r Llywodraeth ar y pryd, dangosodd barodrwydd i edrych y tu hwnt i safbwyntiau gwleidyddol cul ynglŷn â thrin pobl y tu allan i Gymru a thu allan i'r GIG, a sicrhau ateb ymarferol i gleifion bryd hynny. Yng ngoleuni'r ffaith bod capasiti theatr ledled Cymru heb fod cystal ag y gallai fod ers peth amser, a yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio'r opsiwn o gynyddu capasiti tymor byr, gan weithio efallai gyda darparwyr y tu allan i Gymru a allai fod â chapasiti i fynd i'r afael â hyn?
Er y bydd holl gyrff y GIG ledled y DU yn rheoli'r ymateb i'r pandemig, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog nodi a oes capasiti'n bodoli mewn mannau eraill ac os yw'n bosibl, i gwmpasu rhyw fath o gynllun ail gynnig efallai—cam 2, os hoffech—i fynd i'r afael â'r argyfwng pwysig hwn. Os na, beth arall y gellir ei wneud i archwilio'r gallu i gynyddu'r capasiti ymchwydd blaenorol a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU i ddiogelu'r GIG rhag ofn y bydd niferoedd COVID-19 yn dechrau tanseilio capasiti'r GIG o ddifrif? Mae angen capasiti ychwanegol nawr i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig i filoedd o bobl y mae eu hangen am ofal y GIG yr un mor bwysig ag y bu yn y gorffennol.