Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol a difrifol y mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan gaiff dadl ei chyflwyno yn y ffordd hon, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau fod hynny'n rhoi pwysau ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth i gyfiawnhau pam y byddent yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Ac mae cymaint â hynny'n bwysicach ein bod yn cyflwyno dadl gref pan gynhelir dadl yn y ffordd hon, ac mae'n ffordd dda o graffu.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wraidd y ddadl hon mae angen i reoli'r feirws ac atal lledaeniad y feirws i leoliadau ysbytai, a dyna wrth gwrs oedd diben y cyngor SAGE a roddwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig cyn cyfyngiadau'r cyfnod atal byr a ddigwyddodd ddechrau mis Tachwedd. O edrych ar bwynt Rhif 4 yn y cynnig, sy'n sôn am ateb clir a gonest iawn y Gweinidog iechyd am y broblem sy'n wynebu rhestrau aros o ganlyniad i COVID, diben y cyngor hwnnw gan SAGE i gyflwyno cyfyngiadau cyfnod atal byr oedd mynd i'r afael â'r union broblem honno. A chredaf y byddai'r Ceidwadwyr yn cydnabod bellach wrth edrych yn ôl eu bod wedi gwneud camgymeriad yn peidio â chefnogi'r cyfnod atal byr ar y pryd, oherwydd, fel y gwelsom yn Lloegr, cyflwynwyd cyfyngiadau symud hirach a llymach er mwyn mynd i'r afael â'r broblem honno. A dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon—cymryd y mesurau a chymryd y strategaethau a fydd yn caniatáu i'r feirws gael ei reoli. Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud wrth Andrew R.T. Davies, pe caniateid i mi adael i chi ymyrryd, fe fyddwn yn gwneud hynny—fe wyddoch y byddwn—ond nid yw'r rheolau'n caniatáu hynny ar hyn o bryd.
Felly, wrth edrych ar y sefyllfa, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud? Wel, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd am y llwybr canser sengl a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2018. A'r hyn y mae'n ei wneud yw sicrhau bod pob claf, ni waeth beth fo graddau'r amheuaeth, pob claf sy'n cael eu gweld fel achosion canser posibl, yn cael eu trin ar lwybr canser sengl. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad, mae
'yn ffordd lawer cywirach o fesur yr amser y mae cleifion yn aros i gael triniaeth yn ein system iechyd.'
Ond un o'r pethau a ddywedodd yn ei ddatganiad oedd,
'Bydd y Llwybr Canser Sengl yn ein galluogi i fynd i’r afael ag amrywiadau, a gwella canlyniadau a phrofiad y claf.'
Rwy'n credu mai dyletswydd y Gweinidog iechyd nawr yw ymhelaethu ar hynny a rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y mae'r pethau hynny'n cael eu cyflawni, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol yr hoffwn i'r Gweinidog iechyd fynd i'r afael ag ef.
Ac o ran cymorth a thriniaeth canser, rhaid i mi ddweud, yn 2016, pan gefais fy ethol gyntaf, cyfarfûm â phrif weithredwr bwrdd iechyd Aneurin Bevan, a'i huchelgais oedd cyflwyno canolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr. Rwy'n falch iawn o ddweud bellach y byddwn yn gweld honno'n agor y flwyddyn nesaf, a bydd honno ynddi'i hun—y ganolfan ragoriaeth—yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau, yn cynnwys triniaeth ddiagnostig bwrpasol ac ystafelloedd cwnsela a fydd yn gwneud diagnosis cyflymach yn bosibl. Ac yn wir, mae'r achos busnes a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dweud y bydd y ganolfan newydd yn cynyddu'r ystod o lawdriniaeth y fron y gellir ei chyflawni fel achosion dydd o 30 y cant i 70 y cant. Mae hynny'n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr—maent yn gorfod ymestyn yr ysbyty i'w wneud. Dyna gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cleifion sydd â chanser y fron. Ac rwy'n meddwl, felly, yr hoffwn gyflwyno fy nghyfraniad heddiw i etholwr, Dawn Wilson.
Roedd Dawn Wilson yn byw yn Ystrad Mynach a chafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2017. Bu farw Dawn ar ddechrau Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ar 1 Hydref eleni, a threuliodd y blynyddoedd ers iddi gael y diagnosis terfynol yn ymgyrchu dros eraill i'w hatal rhag gorfod wynebu'r sefyllfa roedd hi ynddi. I gefnogi'r ymgyrch, rwy'n gwisgo fy nhei binc heddiw. Fe gymerodd yr ymgyrch Know Your Lemons, a ddeilliodd o waith Corrine Beaumont yn America—cymerodd yr ymgyrch honno fel ymgyrch godi ymwybyddiaeth a'i chyflwyno i Gymru. Y syniad yw bod yna boster gyda chyfres o lemonau a gallwch edrych ar y lemonau ac maent yn dangos y math o ganser y fron y gellid gwneud diagnosis ohono o edrych ar siâp y lemwn. Ac mae'n ganllaw gweledol clir iawn. Llwyddodd Dawn i gael GIG Cymru i fabwysiadu hynny. Ymgyrch Dawn ym mlynyddoedd olaf ei bywyd a lwyddodd i gael GIG Cymru i fabwysiadu'r ymgyrch honno, a lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch oherwydd Dawn Wilson. Felly, i gloi fy sylwadau, hoffwn inni gydnabod y cyfraniad a wnaeth, ei chyfraniad anhunanol ym mlynyddoedd olaf ei bywyd. Cyfarfûm â hi yma yn y Senedd ddwy flynedd yn ôl, ac euthum i'w thŷ yn Ystrad Mynach i siarad â hi am yr ymgyrch. Felly, mae'n bleser cyflwyno'r cyfraniad hwn iddi hi heddiw.