Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ddechrau'r ddadl hon, hoffwn gofnodi eto'n bersonol, ac ar ein rhan ni fel Ceidwadwyr Cymreig, y diolch enfawr i holl staff y sector gofal iechyd am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w dangos i gleifion Cymru. Nawr, gadewch inni fod yn onest, ni wnaeth y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau'r pandemig ar y droed flaen. Ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed. Nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers 10 mlynedd. Roedd gan 42 y cant o bobl yng Nghymru angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, ac roedd gan Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd fy hun, amseroedd aros erchyll ym mis Chwefror: 508 o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth clustiau, trwyn a gwddw, 903 ar gyfer wroleg, a 3,192 ar gyfer triniaeth trawma ac orthopedeg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn hollol gywir, unigolion yw'r rhain. Mae eu bywydau'n cael eu effeithio'n ddyddiol. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion diflino ein gweithwyr rheng flaen, mae effaith y pandemig ar yr unigolion hyn yn ddinistriol. Mae amseroedd aros i'r rhai sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu wyth gwaith; mae 168,944 o bobl wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Yn wir, roedd cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Medi 2020 dros 0.5 miliwn.
Nawr, fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi ysgrifennu ato droeon gydag etholwyr y cofnodwyd eu bod bellach wedi aros blynyddoedd am lawdriniaeth orthopedig, a rhaid inni nodi adroddiad BBC Wales, sy'n dangos cynnydd ddengwaith cymaint yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth o unrhyw fath yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019. Nawr, nid canfyddiadau newydd yw'r rhain, ac nid ydym yn diystyru effaith COVID-19, ond mewn gwirionedd, cafwyd rhybuddion ynglŷn ag ôl-groniadau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i strôc yn ystod yr epidemig ffliw yn y DU yn 2009. Felly, mae perygl y bydd y pwyslais amlwg ar gleifion COVID yn arwain at oedi triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd eraill os na chaniateir i gleifion droi at ofal sylfaenol. Tynnodd Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sylw at bryderon difrifol fod pobl â chlefyd cronig yr ysgyfaint mewn mwy o berygl o waethygiad y gellid ei atal yn eu hiechyd.
Nododd Sefydliad Prydeinig y Galon y gallai'r gostyngiad o 20 y cant yn nifer y bobl a welir mewn ysbytai ledled Cymru yr amheuir eu bod wedi cael trawiad ar y galon ers y cyfyngiadau symud egluro'n rhannol y cynnydd yn nifer y marwolaethau na ellir eu priodoli i COVID-19 ar hyn o bryd. Nawr, er fy mod yn cytuno bod llawer o driniaethau wedi'u cau ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn amlwg, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, mae angen gweithredu ar frys yn awr i ailddechrau rhai o'r gwasanaethau hyn. Yn wahanol i'r Gweinidog, credaf y byddai'n synhwyrol rhoi cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Dylech roi hwb ar unwaith i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID. Fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys ledled y DU, gallai sefydlu ardaloedd ysbytai sy'n rhydd o COVID-19 atal 6,000 o farwolaethau diangen yn gysylltiedig â COVID-19—hyn ar ôl llawdriniaeth canser—dros y flwyddyn nesaf.
Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd GIG Lloegr drydydd cam ei ymateb i COVID-19, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar y capasiti sydd ar gael i sicrhau bod lefelau agos i'r arfer o wasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID yn dychwelyd. Ond o'i gymharu â hyn, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n gyflym. Felly, erbyn 28 Awst, nid oedd gwelyau cyffredinol ac acíwt ar gael mewn ysbytai maes. Roedd hyn yn wir am bron i ddau fis tan 15 Hydref, pan ddaeth 115 o welyau ar gael. Mae hynny'n llai na hanner y capasiti a welwyd ar anterth y pandemig. Mae'r methiant hwnnw i beidio â defnyddio capasiti ysbytai annibynnol a maes yn gyson, cyn yr ail don, wedi rhoi pwysau ar ein hysbytai presennol yn ystod yr ail don. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon yn glir wrth inni ystyried y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau adfer canser ar waith ers sawl mis, ond nid yma. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau am gynllun ac ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser a bod angen iddynt fynd i'r ysbyty yn gwneud hynny. Argymhellodd hyd yn oed Cymorth Canser Macmillan y mis diwethaf fod yn rhaid i chi ymrwymo i gynllun clir ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu capasiti ymchwydd.
Hoffwn gloi drwy nodi bod y camau brys rydym yn gofyn amdanynt yn rhai ymarferol. Gwrthwynebiad adeiladol yw hwn. Caiff ei gefnogi gan sefydliadau iechyd, a gallwn roi hwb ymarferol hefyd i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID ledled Cymru drwy sicrhau bod gan fyrddau iechyd bolisïau clir ar fynd i'r afael â gofynion profi a'u hamlder ar gyfer staff a chleifion; cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol a chyflenwadau llawfeddygol digonol a pholisïau clir ar ba bryd a sut i'w defnyddio; cydgysylltu lleol i sicrhau bod llwybrau gofal cleifion yn cael eu rheoli'n briodol; defnyddio ysbytai y sector annibynnol i hybu capasiti; ac ysbytai Nightingale i barhau'n weithredol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ym mhob man yn awr i ymdrin â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu gyda COVID, ond gadewch i driniaethau arferol ysbytai y mae'r cyhoedd yng Nghymru eu hangen barhau a gadewch iddynt gael triniaethau mawr eu hangen. Diolch.