– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Rydym ni nawr yn ailymgynnull ar gyfer ein hagenda, a symudwn at eitem 5, sy'n ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar arloesi digidol—ymateb i adolygiad Brown. A galwaf ar Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Diolch yn fawr iawn. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd yr Athro Phil Brown ei adroddiad terfynol ar effaith arloesi digidol ar yr economi a dyfodol gwaith yng Nghymru. Siaradodd yr Athro Brown am Gymru'n wynebu ras yn erbyn amser, gyda chyflymder a graddfa arloesedd digidol â'r potensial i oddiweddyd ein gallu fel cenedl i ymateb.
Mae'r pandemig byd-eang wedi dod â heriau adolygiad Brown i'r amlwg, gyda'r cyfrwng digidol bellach yn rhan annatod o fywydau llawer ohonom ni. Y gwir plaen yw y bydd cam nesaf ein trawsnewidiad diwydiannol yn digwydd p'un a ydym yn ei gofleidio ai peidio. Ac yn erbyn y cefndir yna rwyf eisiau annerch yr Aelodau heddiw.
Mae arloesi digidol wedi dod yn rym pwerus ac aflonyddgar, ac yn un na ellir ei anwybyddu. Mae'n bwysig nad ydym yn colli golwg ar hyn wrth i ni edrych y tu hwnt i'r pandemig.
Mae Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi rhybuddio, ers dechrau pandemig COVID-19, fod yr hyn sy'n cyfateb i werth pum mlynedd o awtomeiddio a digideiddio wedi digwydd, gyda swyddi lletygarwch, manwerthu a gweithgynhyrchu yn rhai o'r rheini a gafodd eu taro galetaf. Maen nhw'n dadlau bod yr ymateb i'r feirws o bosibl yn rhoi gobaith ffug i lawer o weithwyr yn y diwydiannau hyn heb ddyfodol hirdymor yn oes yr awtomeiddio.
Mae'r byd gwaith yn sicr o newid. Mae mwy o bobl yn gweithio o bell, ac rydym ni eisiau gweld hynny'n parhau fel y drefn arferol y tu hwnt i'r argyfwng. Mae'r ffordd y mae gwasanaethau'n gweithio, a sut y cyflawnir tasgau, hefyd yn cael eu hailgynllunio wrth i drawsnewid ac awtomeiddio digidol ddigwydd. Nid yr hyn a wnawn yn unig, ond sut yr ydym yn ei wneud sy'n trawsnewid. Mae'r pandemig wedi ein gorfodi i addasu'n gyflym yn unigol, gyda llawer o fusnesau hefyd yn symud i fodelau cyflenwi newydd gan fod arferion a disgwyliadau cwsmeriaid wedi newid.
Er gwaethaf maint y newidiadau, dylem gydnabod y rhan gadarnhaol y mae arloesi digidol wedi'i chwarae, ac y bydd yn parhau i'w chwarae, mewn cymdeithas fodern. Mae rhai manteision gwirioneddol o ran rhyddhau pobl o dasgau cyffredin, creu datblygiadau arloesol newydd a chefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Nid oes ond rhaid inni edrych ar Gaerffili, lle nad oes rhaid i rieni sy'n chwilio am gymorth ar frys gan y cyngor i gael prydau ysgol am ddim, aros pum diwrnod hir am benderfyniad mwyach, gallan nhw nawr gofrestru ar unwaith. Mae awtomeiddio prosesau robotig, a groesawyd gan y cyngor, ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Codebase 8 Ltd, busnes digidol bach yn Llanelli, wedi dileu'r gwaith papur, gwella'r gwasanaeth i'r dinesydd, a rhyddhau staff o dasgau ailadroddus i helpu gyda gwaith brys arall.
Ond mae arfer gorau yn aml yn anodd ei ledaenu. Dyma pam rydym ni wedi sefydlu'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nglynebwy, sy'n creu canolfan arbenigedd. Maen nhw eisoes yn rhannu arfer gorau wrth ddefnyddio dulliau digidol i wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, ac, yn hollbwysig, yn cynnig cymorth a hyfforddiant ymarferol i gynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr. Mae'r cyntaf o'u carfanau trawsnewid digidol wrthi'n gweithio gyda thri chyngor lleol i ddeall oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i oedolion sut y gallan nhw wella'r gwasanaeth ar eu cyfer. A dyna yw nod y cyfrwng digidol: mynd i'r afael â hen broblemau mewn ffordd newydd er budd y dinesydd, a chreu sgiliau ac arloesedd newydd wrth i ni wneud hynny.
Mae'r pandemig wedi gorfodi'r newid i ddigwydd yn gyflymach. Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran rhoi offer TG i gefnogi unigolion i gysylltu â'r byd, o addysg gartref, i ddarparu mynediad i'r rhai mewn cartrefi gofal. Rydym ni wedi gweld y datblygiadau cyflym sy'n cael eu gwneud mewn apwyntiadau fideo gofal iechyd drwy'r gwasanaeth 'Attend Anywhere'. Ym mhob un o'r achosion hyn, roedd y ddarpariaeth yn seiliedig ar angen brys, a dylid canmol y timau dan sylw am eu hymdrechion i gyflwyno gwasanaethau mewn wythnosau a allai gymryd blynyddoedd i'w cyflawni mewn cyfnod arferol.
Ond er gwaethaf ein llwyddiannau, rwy'n awyddus i beidio â bod yn hunanfodlon. Mae gwersi y dylem fod yn eu dysgu o'r broses o gyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys gweithredu'r gwasanaethau'n anghyson weithiau. Er enghraifft, mae mwy na thraean o'r dyfeisiau a aeth i gartrefi gofal heb eu troi ymlaen eto, sy'n dangos nad yw darparu cyfarpar ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen i ni feithrin hyder a sgiliau pawb i ddefnyddio technoleg. Ac mae'n ein hatgoffa ni bod angen gwneud mwy i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd y broses o gynllunio gwasanaethau.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran swyddi a sgiliau technoleg, ac roedd adroddiad diweddaraf Tech Nation Visa yn tynnu sylw at lwyddiant ysgubol Cymru. Rydym ni wedi gweld newid sylweddol yn y galw am sgiliau seiber a deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, a chynnydd o 200 y cant yn y galw am swyddi deallusrwydd artiffisial dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r cynllun adfer economaidd sydd ar y gorwel yn addo adeiladu ar hynny. Gan dderbyn argymhellion yr Athro Brown i gyflymu trawsnewid diwydiannol, pwyslais y cynllun fydd annog datblygiad clystyrau arloesi digidol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i gyd-gynhyrchu'r partneriaethau y bydd eu hangen er mwyn i'r clystyrau hyn ffynnu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn ymgysylltu â chyflogwyr mewn digwyddiad ar-lein i gyflymu'r defnydd o'r cyfrwng digidol yn eu busnesau. Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru yn parhau i gynnig cymorth ymarferol, a bydd canfyddiadau diweddaraf ein mynegai aeddfedrwydd digidol yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Mae prifysgolion yn chwarae rhan hollbwysig hefyd, ac rwy'n falch iawn bod prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor wedi dod at ei gilydd mewn prosiect ar y cyd er mwyn creu cyflymydd cenedl ddata. Roedd hwn yn un o argymhellion penodol adolygiad Brown, ac mae ganddo'r potensial i roi mantais i Gymru wrth gymhwyso ymchwil, datblygu ac arloesi mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyllidwyr y DU i gyflwyno'r achos dros gefnogi'r bartneriaeth hon.
Heddiw, rydym yn barod i lansio strategaeth ddigidol newydd i Gymru, ond yn hytrach na'i chyhoeddi fel cynnyrch gorffenedig, rwy'n awyddus i gofleidio dull gweithredu o gyfrannu torfol. Rydym yn ei roi ar-lein, ar ffurf ddrafft, i bobl gynnig sylwadau, beirniadu a gwella. Nid yw'r cyfrwng digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, Llywydd, mae'n ymwneud ag agwedd agored at arloesi, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o negeseuon blog er mwyn i ddinasyddion lunio ein strategaeth ddigidol. Byddwn yn ystyried awgrymiadau a'r bwriad yw cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Mawrth.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod hwn yn faes polisi yr wyf wedi bod yn angerddol yn ei gylch ers i mi ymuno â'r Senedd yn 2016. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd dros y pedair blynedd diwethaf, ond yn sicr mae llawer mwy i'w wneud. Rwyf yn cydnabod y rhan y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth ddarparu cyfeiriad ar gyfer yr agenda hon, ond nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw arwain y daith hon. Ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun symud yn ddigon cyflym i gynyddu ar yr un raddfa a'r newid digidol, a rhaid i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau chwarae eu rhan i dyfu'r mudiad hwn yng Nghymru yn effeithiol. Nid yw newid yn ddewis, ac oni bai ein bod yn fodlon gadael iddo ddigwydd i ni, rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i ddefnyddio'r newid er budd dinasyddion Cymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw hefyd? Wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, mae wedi bod yn angerddol ynghylch hyn ers iddo gyrraedd y Senedd yn 2016, felly rwy'n ymwybodol o hynny hefyd. A gaf i ddiolch hefyd i'r Athro Brown am ei adroddiad hefyd o ran heriau a chyfleoedd arloesi digidol? Ac o'm safbwynt i, rwy'n credu ein bod wedi gweld newid sylweddol o ran datblygiadau technolegol o ganlyniad i'r pandemig. Rwy'n gweithio gartref heddiw, ac yn cael fy herio gan dechnoleg, fel y mae'n digwydd, heddiw.
Ond tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i werthuso sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu yng nghyd-destun y pandemig, efallai'n negyddol ac yn gadarnhaol. Mae gwasanaethau'n cael eu darparu'n draddodiadol hefyd, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad yw'r gwasanaethau hynny yn israddol i'r rhai sy'n parhau i fod wedi eu hallgáu yn ddigidol, wrth gwrs. Mae'r Athro Brown wedi dweud o'r blaen na ddylid ystyried arloesi digidol fel datblygiadau technolegol yn unig—mae'n ymwneud â thrawsnewid diwylliannau sefydliadol a chynyddu anghenion cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys ar yr agenda benodol hon, o ran y rhai sy'n agored i niwed, y rhai a allai ddod o ardaloedd o amddifadedd lluosog, y rhai sy'n dod o fan cychwyn gwahanol, mae'n debyg, o ran eu hyder wrth ddefnyddio technoleg benodol a sgiliau amrywiol?
Gwn fod yr Athro Brown wedi dweud ei fod eisiau sgwrs genedlaethol ynglŷn ag arloesi digidol, felly rwy'n falch bod y Dirprwy Weinidog newydd sôn am gyflwyno ei gynigion ar ffurf ddrafft yn gyntaf. Rwy'n croesawu hynny. Mae'n dweud ei fod yn croesawu her a beirniadaeth, felly edrychaf ymlaen at hynny oherwydd weithiau nid yw'r Dirprwy Weinidog yn hoffi beirniadaeth, felly rwy'n falch o hynny.
Gwn, yn y gorffennol, fod eraill, academyddion ac arbenigwyr, wedi awgrymu y dylid cael tsar cynhwysiant digidol—tsar cynhwysiant digidol—felly tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog efallai amlinellu beth yw ei farn am y cynnig penodol hwnnw. Ac felly o ran sut y bydd craffu ar y Llywodraeth yn digwydd—sut y bydd ef, ei swyddogion, adrannau—sut y bydd y gwaith o graffu arnyn nhw a'u dwyn i gyfrif yn digwydd o ran sicrhau arloesedd digidol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru? Gwn ar 29 Medi fod y Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Tachwedd am gyflwyno Cyflymu Cymru. Nid wyf yn credu y bu unrhyw ddiweddariad ac rydym ni nawr ym mis Rhagfyr, felly cywirwch fi os wyf yn anghywir, ond os wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r rhaniad hwnnw rhwng y rhai y mae ganddynt a'r rhai nad oes ganddynt, sydd yn aml—ond nid bob tro—rhwng y Gymru drefol a'r Gymru wledig. Felly, efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny.
Ac eto, dyma un o hoff bynciau trafod y Dirprwy Weinidog, ond, o ran awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial, mae datblygiadau'n cael eu gwneud mor gyflym fel na all busnesau a hyd yn oed y Llywodraeth ddal i fyny. Felly, o ran hynny, mae yna rai sy'n ennill sgiliau ar hyn o bryd na fydd angen eu sgiliau mewn cyfnod byrrach efallai nag y byddem wedi'i ddisgwyl. Felly, sut y mae'r Llywodraeth yn ymdrin â hynny, ac o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i elwa ar arloesi digidol hefyd? Ac yn olaf, tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog cyllid o ran cynnydd mewn cyllid ymchwil a datblygu i gyflawni'r hyn y mae eisiau ei gyflawni yn y bôn.
Wel, diolch am y sylwadau yna, Russell George. Gallaf deimlo nad yw ei lefelau ynni yr un fath heddiw oherwydd ei broblemau TG, a chredaf y rheswm yn ôl pob tebyg yw absenoldeb Winston Churchill yn hongian y tu ôl iddo, sydd wedi bod yn gydymaith rheolaidd i Russell yn ystod ei bresenoldeb digidol yn y Siambr. Felly, rwy'n credu ei fod yn colli ei ysbryd heddiw, efallai.
Yn sicr, dydw i ddim yn adnabod y darlun ohonof sef nad ydw i'n rhywun sy'n hoffi beirniadaeth. Yn sicr, rwy'n awyddus i gael beirniadaeth ac yn awyddus i'w annog. Nid yw'n golygu fy mod bob amser yn cytuno â hi pan fyddaf yn ei chael, wrth gwrs, ond mae hynny'n fater gwahanol, a chredaf, drwy gyhoeddi'r strategaeth hon fel dogfen cyfrannu torfol, rydym yn cydnabod bod y Llywodraeth, yn rhy aml, yn eistedd mewn ystafelloedd ar ei phen ei hun ac yn llunio cynllun nad yw'n ei brofi gyda'r bobl sy'n ei weithredu yn y byd go iawn. Dyna pam rwyf yn awyddus i wneud hyn. Gan gymdeithas sifil mae'r arbenigedd yma, ac rwyf wir eisiau iddyn nhw deimlo eu bod yn berchen ar y strategaeth hon ac yn gallu ei newid, fel bod ganddi fwy o siawns o lawer o gael ei gweithredu pan gaiff ei chyhoeddi ym mis Mawrth os oes teimlad ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau a phroblemau'r byd go iawn.
Gofynnodd sut rydym yn gwerthuso sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn da, a soniais mewn eiliad o onestrwydd yn ystod yr araith am rai o'n mentrau, er eu bod yn llawn bwriadau da, a oedd yn aflwyddiannus. Felly, cyflwyno dyfeisiau digidol i gartrefi gofal y soniais amdanyn nhw yn y datganiad. Rydym ni wedi llongyfarch ein hunain, a hynny'n briodol, am lwyddo i'w cyflwyno mor gyflym, ond rydym ni wedi synnu o nodi nad yw nifer ohonyn nhw wedi cael eu defnyddio. Nid yw hynny'n annodweddiadol o ystyried profiad blaenorol. Roeddwn yn ymwybodol, o glywed sïon o'r blaen fod cyfrifiaduron llechen wedi eu rhoi i athrawon ysgol, a bod llawer ohonyn nhw yn gorwedd mewn droriau heb eu defnyddio. Credaf fod hynny'n dod â ni at un o'i bwyntiau am sgiliau a hyder, a'r cysyniad o allgáu, oherwydd pan soniwn am allgáu digidol, rydym ni, mi gredaf, yn creu delwedd o bobl nad oes ganddyn nhw sgiliau o gwbl, ond mae allgáu mewn gwirionedd yn llawer ehangach na hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i elwa i'r eithaf ar y dechnoleg. Felly, efallai na all rhai pobl ond gwneud y pethau sylfaenol heb gael y manteision llawn.
Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol eisoes o'r gwasanaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno nad yw hi'n ddigonol rhoi pecyn i bobl yn unig. Mae'n rhaid i chi newid y diwylliant ac mae'n rhaid i chi eu galluogi a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu ei ddefnyddio. Rwy'n credu mai dyna bwynt allweddol y dull digidol hwn. A gofynnodd sut yr ydym yn sicrhau nad yw pobl yn cael gwasanaeth israddol. Rwy'n credu bod y ddau gysyniad hyn yn gysylltiedig. Roedd holl ddiben sefydlu'r ganolfan ddigidol hon ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nglynebwy yn seiliedig ar broses o ddarganfod, fel y'i gelwir, ymarfer ymchwil i ddeall beth oedd yr anghenion, a gwelsom nad oedd llawer o arweinwyr a gweision cyhoeddus yn teimlo'n hyderus ynghylch y cyfrwng digidol, nad oedden nhw'n deall ei botensial, ac nad oedden nhw mewn gwirionedd yn deall y cysyniad o gynllunio gwasanaethau drwy ystyried y defnyddiwr terfynol. Felly, rydym ni bellach yn cyflwyno rhaglen hyfforddi i weision cyhoeddus yn gyflym er mwyn iddyn nhw ddeall hyn. Ac ar ôl i ni gael hyn yn iawn, bydd gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio gyda'r defnyddiwr mewn golwg yn cael ei gynllunio ar gyfer y rhai sydd ar-lein yn ogystal â'r rhai nad ydyn nhw ar-lein. Felly, ni ddylai'r gallu i ymgysylltu â'r gwasanaeth ddibynnu ar ba mor fedrus ydych chi gyda thechnoleg; dylai'r gwasanaeth gael ei gynllunio mewn modd y gellir ei ddefnyddio gan bobl pa un a ydyn nhw'n defnyddio technoleg ar-lein ai peidio. Ac rwy'n credu bod hynny'n newid diwylliant pwysig iawn yr ydym ni yn ei gofleidio, ac mae hynny'n hanfodol, gan droi at ei bwynt arall am yr angen i gael pobl ar ein hochr ni. Felly, ni ddylem fod angen tsar cynhwysiant digidol; dylem brif ffrydio cynhwysiant i'r ffordd yr ydym yn cynllunio gwasanaethau, a chredaf mai dyna'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu.
Gofynnodd am y newyddion diweddaraf am 'Cyflymu Cymru' yn ystod mis Tachwedd. Ymddiheuraf os yw hynny ddiwrnod yn hwyr. Rwyf yn sicr wedi cymeradwyo hynny a gobeithio y bydd yn cael hynny cyn diwedd heddiw, os nad yfory. Ond rydym yn sicr wedi ymrwymo i gadw'r llif hwnnw o wybodaeth yn llifo ac i'w helpu yn ei allu i'n dwyn i gyfrif o ran cyflawni. Mae ei gwestiwn ynglŷn â sut y cawn ein dwyn i gyfrif yn un diddorol, oherwydd cyfeiriodd at gyflawni yn Llywodraeth Cymru, a chredaf mai dyma'r pwynt yr wyf wedi dod i'w ddeall ers ymgymryd â'r swydd hon—a soniais am hyn yn y datganiad—mae Llywodraeth Cymru yn chwaraewr bach yn hyn o beth, ac rwy'n credu na ddylem ni weld Llywodraeth Cymru fel prif sbardun y newid hwn. Rydym yn gatalydd, ac mae'n rhaid inni weithio gydag eraill—sefydliadau eraill a phartneriaid eraill—i wneud i hyn ddigwydd, oherwydd ni all Llywodraeth Cymru symud yn ddigon cyflym, ac nid oes ganddi'r pwysau i gwrdd â maint y newid a'r her y mae awtomeiddio'n ei gyflwyno inni. Mae ganddi swyddogaeth, ac nid wyf yn ceisio osgoi hynny, ond nid wyf yn credu y dylem ni weld ein hunain yn arwain ar hyn; rydym yn rhan o ecosystem y mae angen iddi sicrhau newid.
Ei gwestiwn olaf am ymchwil a datblygu—rydym yn edrych ymlaen at ragor o fanylion am gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn cynyddu'r gwariant ar ymchwil a datblygu. Rydym yn sicr wedi cael trafodaethau yn y cyfnod cyn ein cyllideb ein hunain ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud fel rhan o'r agenda hon, ac edrychaf ymlaen, fel y mae ef, at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog cyllid i'w ddweud am hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad ac, yn amlwg, am y copi ymlaen llaw. Hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddweud fy mod yn credu bod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am edrych ymlaen ar adeg pan fo cymaint o egni'n canolbwyntio ar ymdrin â phethau heddiw. Credaf y gallwn i gyd fod yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei ddatblygu, yn wyneb pwysau mawr ar Weinidogion ac, yn amlwg, ar eu swyddogion ar yr adeg anodd a heriol hon.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn, wrth gwrs, i nodi, fel y mae'r adroddiad ei hun yn ei wneud, fod digidol—yr oes ddigidol, awtomeiddio—yn rym pwerus ac aflonyddgar, a gall tarfu fod yn gadarnhaol a gall fod yn negyddol. Hoffwn ganfod ychydig mwy am yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am rannu arfer gorau, oherwydd byddwn yn cytuno ag ef ein bod ni, yng Nghymru, weithiau'n dda iawn am ddatblygu menter newydd, ond yna nid ydym bob amser yn dda iawn yn ei lledaenu. Tybed a all ddweud ychydig mwy yn ei ymateb ynglŷn â sut y mae'r ganolfan ddigidol yn nodi rhai o'r rhwystrau hynny rhag newid. Mae'n debyg bod gennyf ddiddordeb hefyd gwybod, ar y pwnc penodol hwn, tybed a allai rhywfaint o'r hyn y maen nhw'n ei ddysgu am y rhwystrau hynny rhag newid, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a sut y caiff y rheini eu goresgyn, fod yn wersi y gallwn ni eu goresgyn pan fyddwn yn ceisio lledaenu arfer da, o bosibl, mewn meysydd eraill.
Roeddwn yn falch o'i weld yn tynnu sylw at bwysigrwydd y cyflymydd arloesedd data. Mae'n gadarnhaol iawn gweld ein prifysgolion yn cydweithio yn y ffordd honno; nid yw bob amser yn hawdd iddyn nhw wneud hynny. Tybed a all ddweud ychydig mwy yn ei ymateb i mi am y ffordd y mae Llywodraeth y DU a chyllidwyr y DU yn ymateb i'w gais i gefnogi'r fenter hon, ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud. Rwy'n gofyn, yn y cyd-destun hwn, a oes adnoddau ledled y DU y gallwn fanteisio arnyn nhw i gefnogi'r gwaith hwn, mae hynny i'w annog i raddau helaeth.
Rwyf eisiau croesawu'r dull y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddefnyddio i gwblhau'r strategaeth ddigidol newydd. Credaf fod y math hwnnw o ddull cydweithredol, agored, yn fodel arfer da, yn enwedig mewn byd fel hwn lle nad oes neb, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, yn gwybod yr holl atebion, gan fod hwn yn fyd mor newydd i bawb. Tybed a fyddai'n ystyried, neu os yw eisoes, cymryd camau arbennig i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses honno. Gwn fod rhai o'n prif elusennau gwaith ieuenctid wedi cydweithio â Microsoft, gyda Google—mae pobl ifanc na fyddech efallai'n disgwyl iddyn nhw feddu ar lefelau da o sgiliau digidol mewn gwirionedd yn gwybod llawer iawn am hyn, ac yn sicr yn gwybod mwy amdano—wyddoch chi, y genhedlaeth ddigidol- frodorol sy'n cymryd y pethau hyn yn ganiataol. Felly, tybed, os nad yw wedi gwneud hynny eisoes, a allai ystyried sut y gellid gwneud hynny.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn, wrth gwrs, i ddweud y bydd hyn yn dod ac mae'n iawn i ddweud y bydd hyn yn drawsnewidiad enfawr, a chredaf ei bod yn iawn y dylai'r dull o ymdrin â'r trawsnewid hwnnw fod yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol, ond tybed a fydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cydnabod y gallwn ddisgwyl i fyd gwaith gael ei drawsnewid yn llwyr gan hyn dros amser. Pan fydd yn sôn am ddileu tasgau gweddol ddinod, wel, mae hynny'n wir, wrth gwrs, ond rhaid inni ystyried sut y bydd y rhai sydd bellach yn ennill eu bywoliaeth yn gwneud y tasgau gweddol ddinod hynny yn ennill eu bywoliaeth yn y dyfodol.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi fod y trawsnewidiad mawr diwethaf yn ein heconomi yng Nghymru—diwedd cyfnod cloddio glo, diwedd llawer o ddiwydiannau trwm—yn drawmatig iawn i lawer o gymunedau, fel rhai Cwm Gwendraeth, y mae ef a fi yn eu hadnabod yn dda, ac mae rhai o'r cymunedau hynny'n dal i fyw gydag effeithiau gwael y trawsnewid hwnnw.
Efallai na fydd digon o waith i bawb fel yr oedd yn draddodiadol, wrth i'r trawsnewid hwn gael ei gyflwyno, felly tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, yn ogystal â datblygu'r strategaeth ddigidol genedlaethol gadarnhaol honno ac, fel y dywed yn gywir, y Llywodraeth yn cymryd yr awenau ond nid ar ei phen ei hun yn unig, ac yn gweithio mewn partneriaeth, y dylem ni hefyd fod yn edrych ar ymatebion mwy radical o bosibl i sut yr ydym yn meddwl am waith, beth yw gwaith, beth sy'n bwysig. A ddylem ni fod yn ystyried wythnos waith fyrrach? A ddylem ni ystyried swyddogaeth bosibl i incwm sylfaenol cyffredinol a allai ryddhau dinasyddion i fod yn fwy creadigol, i dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, beth bynnag y dymunan nhw ei wneud?
Hoffwn argymell bod y Dirprwy Weinidog yn ystyried edrych ar waith y 'Just Transition Commission', a sefydlwyd gan Lywodraeth yr Alban, sy'n ceisio sicrhau bod y chwyldro diwydiannol digidol newydd hwn yn cael ei reoli yn y fath fodd fel ei fod yn gwella bywydau pobl a chymunedau mewn gwirionedd, yn hytrach na'r perygl, os gadawn ni hyn i'r farchnad yn unig, y byddwn yn eu gwneud yn waeth.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am naws gadarnhaol ei chyfraniad ac am y cwestiynau perthnasol iawn y mae hi wedi'u gofyn? Fe geisiaf ymdrin â'r rheini yn eu tro. Felly, o ran lledaenu arfer gorau a deall y rhwystrau rhag newid, y ffordd yr ydym ni wedi sefydlu'r canolfannau digidol—. Felly, arweiniais banel arbenigol ddwy flynedd yn ôl, cyn imi ymuno â'r Llywodraeth, yn edrych ar ddiwygio digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yna bûm yn ymwneud â rhoi hynny ar waith. Cynhaliodd Sally Meecham, sydd bellach yn arwain y ganolfan i ni, gyfnod darganfod, sef i ddeall, drwy siarad ag ystod eang o bobl ar draws gwasanaethau cyhoeddus, beth oedd yr angen. Un o egwyddorion newid digidol yw ei fod yn seiliedig ar angen y defnyddiwr—rydych yn deall beth yw'r anghenion ac yna byddwch yn cynllunio ac yn profi ac yn dyblygu gwasanaeth sy'n diwallu'r anghenion hynny. Rydych chi'n arloesi, yn newid ac yn ymateb yn gyson, a dyna yw natur y cyfrwng digidol—nid yw'n ymwneud â TG; mae'n ymwneud ag agwedd agored at ddysgu a newid.
Felly, gwnaethpwyd hynny i lunio a chyflwyno'r achos dros y ganolfan ddigidol, ac rydym ni bellach yn y cyfnodau cynnar—yn amlwg, mae COVID wedi'i arafu—o ran cyflwyno honno. Mae ganddi nifer o swyddogaethau allweddol: un yw bod yn ganolfan arbenigedd a bod yn fan cychwyn lle gall gwasanaethau cyhoeddus yn arbennig fynd i gael cyngor ar arfer da, ond hefyd wedyn i gyflawni'r newid. Felly, mae'r carfanau trawsnewid digidol y soniais amdanyn nhw'n cael eu cynnal fel rhan o'r ganolfan, ac maen nhw'n gweithio, yn y lle cyntaf, gyda chynghorau Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd ar ofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd carfan ar wahân yn gweithio yng nghyngor Blaenau Gwent ar wastraff.
Rydym ni eisiau gweld mwy a mwy o'r carfanau trawsnewid digidol hyn ym mhob sefydliad, oherwydd maen nhw'n gweithio ar draws disgyblaethau ac maen nhw'n gweithio fel tîm ac maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem gyda newid yn y system gyfan mewn golwg. Drwy wneud y broses honno'n iawn, eir i'r afael â'r rhwystrau rhag newid wrth fynd ymlaen, oherwydd drwy ddeall yr anghenion rydych chi wedyn yn canfod yr atebion. Felly, gobeithio—diben diwygio digidol yw ei fod, fel y dywedais, yn ffordd newydd o fynd i'r afael â hen broblem. Mae'n gyfle newydd i ymdrin â diffygion cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a defnyddio'r cyfrwng digidol fel ffordd o roi cynnig arall arni.
Mae arwyddion cynnar llwyddiant y ganolfan yn galonogol iawn. Maen nhw wedi recriwtio bwrdd cynghori o safon uchel iawn i helpu'r gwaith. Mae llawer o ewyllys da, a'r peth arall yr ydym wedi'i wneud hefyd ochr yn ochr ag ef yw creu, nawr, ecosystem o arweinyddiaeth ddigidol. Felly, mae gennym ni brif swyddog digidol newydd yn Llywodraeth Cymru; rydym ni newydd benodi prif swyddog digidol ar gyfer llywodraeth leol, dan adain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i godi sgiliau a disgwyliadau, i fod yn arweinydd yn y maes; ac mae gennym ni ymrwymiad i greu prif swyddog digidol yn y GIG hefyd. A bydd gan y rheini gyda'i gilydd swyddogaeth arweiniol i osod y safonau digidol, oherwydd dyna'r rhan allweddol arall o swyddogaeth y ganolfan. Rydym ni wedi gweld o'r blaen, a phan oeddwn ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwelsom nifer o enghreifftiau o hyn, lle'r oedd gennym ymagwedd a elwid yn ddull 'unwaith i Gymru', sef yr egwyddor gywir i bob pwrpas, ond bu'n gweithio ar gyflymder yr arafaf. Felly, sut allwn ni sicrhau cysondeb heb arafu pawb? A thrwy osod safonau cyffredin yw'r ffordd i wneud hynny, a dyna fydd swyddogaeth arall y ganolfan. Felly, rwy'n gyffrous ynghylch ei photensial, a dim ond dechrau arni y mae hi.
Cyflymydd y genedl ddigidol, rwyf wedi cyfarfod sawl gwaith gyda'r is-gangellorion i'w drafod. Unwaith eto, potensial enfawr. Mae'n dal i gael ei lunio ac rydym yn cael sgyrsiau cynnar ynghylch sut y gallwn lunio hwnnw mewn ffordd sy'n ddefnyddiol. Oherwydd, o'm safbwynt i, effaith sy'n bwysig, a'r hyn nad wyf yn ei ddymuno'n arbennig yw cyfres o brifysgolion yn llunio prosiect a arweinir gan ymchwil, sy'n eu cyffroi'n fawr, ond nad yw'n ein helpu ni i sicrhau'r newid y nododd Phil Brown fod angen i ni fynd i'r afael ag ef. Felly, mae'r sgyrsiau yr wyf wedi bod yn eu cael gyda nhw ynghylch y ffaith fy mod yn credu bod angen i gyrff cyllido'r DU roi cyfran sylweddol tuag ato, oherwydd, fel y gwyddoch chi, nid ydym yn cael ein cyfran deg, ein cyfran o'r boblogaeth, o gyllid gan gyrff ariannu'r DU, felly mae'n bwysig bod hwn yn brosiect y dylen nhw ei groesawu. Ond rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn barod i chwarae ein rhan wrth lunio hynny, cyn belled â bod yr hyn y maen nhw'n ei ddatblygu yn diwallu ein hanghenion mewn gwasanaethau cyhoeddus a diwygio economaidd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fargen deg.
Mae'r pwynt am y strategaeth ddigidol yn un ardderchog ynghylch y ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc. Pan fyddaf i'n eistedd, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi'r cyntaf o'r blogiau, a bydd mwy i'w ddilyn yn gyflym ar ôl hynny, ac mae rhyddid i bawb eu darllen. Byddan nhw'n cael eu cyflwyno mewn themâu a phenodau, fel y gall pobl sydd â diddordeb arbennig mewn gwahanol elfennau ohono ymateb o fewn eu maes diddordeb. Ond rwy'n credu bod y pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn ymgysylltu'n benodol â phobl ifanc yn un da iawn, a byddaf yn myfyrio'n gyflym ynghylch sut y gallwn geisio gwneud hynny, ac unrhyw awgrymiadau sydd ganddi, byddwn yn ddiolchgar o'u cael. Gwnaeth ambell awgrym yn ei datganiad, felly byddaf, fel y dywedais, yn myfyrio arnyn nhw.
Ac yna mae ei phwynt olaf am y byd gwaith sy'n cael ei drawsnewid ac mae dweud ei fod yn drawmatig i'r rhai sy'n gysylltiedig yn hollol gywir. Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i ddod â manteision enfawr i nifer fach o bobl, a bydd yn disodli ac yn tarfu ar nifer o bobl ac yn eu niweidio drwy'r trawsnewid hefyd. A swyddogaeth y llywodraeth a llywodraethau yw ymyrryd er mwyn sicrhau bod y manteision hynny'n cael eu lledaenu'n eang, a bod y rhai sy'n cael eu dadleoli yn cael cymorth i addasu. A chredaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd os nad ydym yn ymdrin â hyn yn iawn, gallai hwn fod yn rym negyddol iawn a gallai fod yn ffynhonnell o darfu cymdeithasol mawr ac aflonyddwch a niwed economaidd. Ond nid oes angen iddo fod felly.
Felly, yr hyn yr oeddwn yn ei hoffi'n arbennig am yr enghraifft a ddyfynnais yng Nghaerffili, lle maen nhw wedi defnyddio awtomeiddio prosesau robotig, a ddefnyddiwyd mewn rhai achosion i sicrhau arbedion ariannol a llai o bobl, yw mai'r hyn y mae Caerffili wedi'i ddweud yw, 'Rydym ni eisiau defnyddio hyn i dynnu staff oddi ar bethau diflas nad oes angen i bobl fod yn eu gwneud ac a wneir orau drwy algorithmau.' Ond wedyn nid gweld hynny fel rheswm i gael gwared ar y staff hynny, ond i ryddhau'r staff hynny mewn gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau, i wneud pethau eraill, oherwydd gwyddom fod yna swyddi y mae pobl yn eu gwneud yn well na pheiriannau, sy'n cynnwys empathi a helpu pobl, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai pobl gael eu rhyddhau gan dechnoleg i'w wneud. Os dilynwn y dull hwnnw y mae Caerffili yn arwain y ffordd ag ef, yna rwy'n credu bod gennym gyfle da i lwyddo'n hyn o beth mewn ffordd sy'n helpu cymdeithas ac nad yw'n ei niweidio. Er y bydd adegau pan na fydd popeth yn mynd yn llyfn ar hyd y ffordd, mae'n siŵr.
A'r cwestiwn olaf am incwm sylfaenol cyffredinol, rwyf innau hefyd yn credu, yn y tymor hir, fod hyn yn rhywbeth sy'n ddeniadol, a chredaf i'r Prif Weinidog ddweud yn gynharach yn y Siambr ei fod yn awyddus i ystyried archwilio cynllun treialu ar gyfer hyn ar sail drawsbleidiol, ac roeddwn yn falch iawn o'i glywed yn dweud hynny.
Diolch. Rydym ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r datganiad 45 munud hwn, ac mae gennyf nifer o siaradwyr ar ôl, felly fe roddaf hynny—[Torri ar draws.] Na, na, rwyf dim ond yn cofnodi hynny. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Brown yn siarad am y newid y mae'n ei ragweld i siopa ar-lein, ac mae hynny wrth gwrs yn cael ei adleisio yn y newyddion ofnadwy heddiw am gwymp Arcadia a Debenhams, heb os wedi'i gyflymu a'i waethygu gan y pandemig. Nid dim ond arweinyddiaeth wael y berchnogaeth ecwiti preifat i gael y gwerth mwyaf dros ben yw'r rheswm; rhaid ei fod hefyd oherwydd y newid mewn arferion siopa. Fel y dywedsoch chi, os na fyddwn yn newid, rydym yn marw.
Felly, sut ydych chi'n credu y gellid defnyddio'r pedwerydd chwyldro diwydiannol i gynorthwyo Caerdydd i ail-lunio ei chanolfannau masnachol i fod yn fannau cymunedol gymaint â mannau lle'r ydym yn parhau i siopa? Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthyf am NearMeNow, Caerffili, sydd, mi gredaf, yn helpu i gynnal y cysylltiadau hynny sy'n hanfodol yn yr economi sylfaenol, gan roi siopau lleol mewn cysylltiad â siopwyr lleol.
Yn ail, sut gall y Llywodraeth helpu'r gweithlu y mae eu swyddi'n diflannu heddiw ym maes manwerthu i ailhyfforddi i ateb y cynnydd hwnnw o 200 y cant yn y galw am swyddi deallusrwydd artiffisial y sonioch chi amdanyn nhw yn eich datganiad? A fyddai hynny'n swyddogaeth i wasanaethau cyhoeddus digidol yng Nglynebwy neu drwy'r cyflymydd cenedl ddata, dan arweiniad y pedair prifysgol hyn? Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd rwy'n siŵr y byddai llawer o weithwyr manwerthu'n awyddus iawn i glywed hynny.
Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone, ac mae ei sylw yn un da iawn. Yn amlwg, rydym yn gweld heddiw realiti a chanlyniad tarfu digidol—rydym wedi'i weld mewn llawer o feysydd eraill hefyd. Gallwn ei weld yn nhynged y cyfryngau lleol, sydd wedi bod yn astudiaeth achos berffaith mewn tarfu digidol. Does dim dwywaith bod cwestiwn enfawr ynghylch dyfodol canol trefi a chanolfannau siopa wrth i bobl symud ar-lein, ac nid wyf yn credu y gallwn ni atal y duedd hon; rwy'n credu bod angen i ni geisio ei defnyddio. Felly, rwy'n credu, fel y dywedais yn y datganiad, fy mod yn awyddus i weld sut y gallwn ni helpu busnesau bach i ddod yn fwy craff yn ddigidol er mwyn iddyn nhw allu gwerthu a masnachu ar-lein. Ac rwy'n credu bod ap NearMeNow y mae Jenny Rathbone yn sôn amdano yn enghraifft wych o geisio helpu canol trefi a busnesau bach i allu mynd ar-lein i gynnig eu nwyddau, ac rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu busnesau bach a chanolig yn arbennig i wneud hynny.
Dydw i ddim yn credu mai'r ganolfan ddigidol yng Nglynebwy na chyflymydd cenedl ddigidol yw'r cerbydau cywir ar gyfer hynny. Mae'r ganolfan yng Nglynebwy yn ymwneud â diwygio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r cyflymydd yn ymwneud ag ymchwil a datblygu a sut y caiff ei gymhwyso. Ond mae swyddogaeth enfawr o ran ailsgilio pobl. Mae prosiect ReAct, yr ydym ni eisoes yn ei ariannu, yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi'n ddigidol. Mewn gwirionedd, mae gennym ni ystod eang o fentrau, o brentisiaethau gradd mewn TG a fframweithiau i gymwysterau sgiliau hanfodol, Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a'r prosiect DigiTALent, sy'n caniatáu i bobl sydd eisoes mewn gwaith a graddedigion diweddar uwchsgilio. Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud mwy yn y maes hwn, a chredaf mai'r her i bob un ohonom ni yw: sut gallwn ni helpu pobl i uwchsgilio wrth iddyn nhw fynd ymlaen, yn hytrach nag aros i'w swyddi ddiflannu ac yna sylweddoli nad oes ganddyn nhw sgiliau sy'n berthnasol i'r farchnad mwyach? Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer o ran sgiliau, ond rwy'n credu mai dyma un o'r meysydd hyn lle mae pob un ohonom ni yn gwybod bod angen i gymdeithas wneud mwy i helpu pobl i addasu.
Wrth agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon, hoffwn adleisio geiriau'r Athro Brown, yn ei raglith i'w adroddiad, ble mae'n dweud ei fod yn gobeithio;
'mai catalydd yw’r adroddiad hwn, a fydd yn cychwyn trafodaeth genedlaethol am yr hyn y mae arloesi digidol yn ei olygu i bobl a chymunedau yng Nghymru, ac nid yn unig i fusnesau arloesol technolegol y dyfodol.'
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'n fanwl yr effaith y gallai deallusrwydd artiffisial ei gael ar gyflogaeth yng Nghymru, a gaiff ei drafod yn aml mewn cyd-destun negyddol. Fodd bynnag, o ystyried yr arweinyddiaeth a'r cymorth ariannol cywir, credaf y gellir osgoi'r effaith drychinebus y mae rhai'n ei rhagweld ar gyfer Cymru yn sylweddol. Mae'r ffordd arloesol a amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog, drwy gyhoeddi adroddiad drafft, a fyddai'n caniatáu mewnbwn gan sectorau sydd â diddordeb, wedi creu argraff fawr arnaf. Ond a gaf i ofyn sut y bydd y drafft yn cael ei hyrwyddo?
Mae pobl wedi bod yn rhagweld colli swyddi drwy awtomeiddio ers cyfnod y Ludiaid; y gwir amdani yw fod awtomeiddio wedi golygu llai o oriau gwaith a mwy o gyfnodau gwyliau, sydd wedi creu cynnydd enfawr mewn swyddi yn y diwydiannau gwasanaeth a lletygarwch. Ond dylai Cymru edrych ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol fel cyfle gwych i bobl gefnu ar y sector swyddi cyflogau isel, a cheisio dod yn arweinwyr byd-eang yn rhai o'r marchnadoedd arbenigol y bydd y cyfrwng digidol a deallusrwydd artiffisial yn eu creu. Yn wir, mae'n rhaid i ni longyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chefnogaeth i'r ganolfan arloesi seiber, a grëwyd yn y de-ddwyrain, gyda'r nod o wneud Cymru'n arweinydd byd-eang yn y maes hwn. Mae hyn yn profi, mewn sectorau sydd wedi'u targedu'n benodol, y gallwn fod ar flaen y gad o ran technoleg newydd ac felly creu economi newydd sy'n seiliedig ar dechnoleg ar gyfer Cymru. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddynodi marchnadoedd arbenigol o'r fath y mae'n bwriadu eu harchwilio yn y dyfodol?
Er mwyn sefydlu economi o'r fath, dylem weithredu argymhelliad cyntaf yr adroddiad ar unwaith wrth greu chwe chlwstwr arloesi diwydiannol, i ddatblygu mapiau ffyrdd trawsnewid diwydiannol. Byddai'r mapiau hyn yn helpu i nodi cryfderau cyfredol ac arloesi digidol posibl ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Er mwyn cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, credaf y dylid ailstrwythuro llywodraeth leol yn chwe rhanbarth, pob un â mwy o bŵer a chyllidebau mwy, er mwyn helpu i hwyluso mwy o integreiddio, ffrydio glanach a gweithredu'r canolfannau arloesi digidol hyn yn fwy cynhwysfawr. A wnaiff y Gweinidog ddweud a fydd yn dilyn y cyngor hwn?
Dylai Llywodraeth Cymru hefyd weithredu, fel mater o frys, ail argymhelliad yr adroddiad, integreiddio cymorth busnes, sgiliau ac arloesi sy'n bodoli eisoes i ffurfio un broses ddiagnostig a thrawsnewid busnes, a sicrhau—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn. [Anghlywadwy.]—i gefnogi trawsnewid diwydiant digidol newydd.
Diolch. Roedd llawer yn y fan yna, a dim llawer o amser i ymateb, felly ceisiaf fod yn gryno. Croesawaf y sylwadau cadarnhaol a wnaeth David Rowlands am y dull yr ydym yn ei ddilyn, ac yn enwedig am y ganolfan arloesi seiber, sydd, mi gredaf, fel y mae'n cydnabod, â photensial sylweddol.
Soniais, o ran y clystyrau diwydiannol digidol, ein bod yn ymgymryd â'r argymhelliad hwnnw yn adolygiad Brown. Nid wyf yn credu, fel y dywedais, mai mater i Lywodraeth Cymru yw arwain pob un o'r clystyrau hynny; rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn chwarae ein rhan gydag eraill i'w gwneud yn berthnasol i'r sectorau y maen nhw wedi'u cynllunio i'w datblygu. Rwy'n credu bod y prosiect cyflymydd cenedl ddigidol gan y prifysgolion yn enghraifft dda iawn, lle bu'r prifysgolion yn arwain ac yn achub y blaen, ac maen nhw bellach yn dod atom ni i ofyn sut y gallwn ni eu helpu i wireddu eu gweledigaeth, a chredaf mai dyna'r ffordd gywir. Ni ddylai hyn fod yn ddull gweithredu sy'n cael ei arwain gan y Llywodraeth o'r brig i lawr; mae'n rhaid i hyn fod yn seiliedig ar anghenion yr economi.
O ran ei bwynt am farchnadoedd arbenigol, rwy'n credu ei fod yn bwynt diddorol ac mae'n adlewyrchu pwynt yn gynharach yn ei gyfraniad: nid wyf yn credu bod hyn yn ymwneud â'r diwydiannau uwch- dechnoleg sgleiniog newydd yn unig; mae'n rhaid i hyn ymwneud ag economi bob dydd hefyd. Felly, y cwestiwn y mae gennyf ddiddordeb ynddo yw: sut mae integreiddio'r agenda hon i'r economi sylfaenol, sydd, yn rhy aml, wedi'i nodweddu fel un o sgiliau isel, cynhyrchiant isel, cyflog isel, ond nid oes angen iddyn nhw fod felly? Felly, sut mae cael yr agenda arloesi hon i'r gwasanaethau bob dydd? Mae cronfa her sylfaenol yr economi, er enghraifft, wedi ymgymryd â nifer o'r prosiectau hynny. Mae un prosiect yn Sir Ddinbych yn ceisio canfod sut y gallwn ni ddefnyddio awtomeiddio a roboteg i helpu pobl mewn gofal i addasu, mynd i'r afael ag unigrwydd, er enghraifft. Felly, credaf fod pob math o ffyrdd arbenigol cadarnhaol, i ddefnyddio'i derm, y gallwn ni ddefnyddio'r agenda hon i helpu problemau eraill sydd gennym.
Ac yn olaf, ynghylch ei bwynt cyntaf ynglŷn â sut yr ydym yn hyrwyddo'r ymgynghoriad, wel, byddwn yn ddiolchgar am gymorth pob Aelod i dynnu sylw pobl at y ffaith bod hwn yn fyw erbyn hyn. Byddwn yn ei drydar y prynhawn yma, ac yna'n gadael i'r dorf wneud ei gorau.
Fe wnaf i ddim cymryd llawer o amser. Mae yna lawer o bwyntiau pwysig iawn wedi cael eu gwneud yma yn barod, ond a hithau mor bwysig, dwi'n meddwl, i dynnu syniadau o ar draws y Senedd, eisiau tynnu sylw ydw i at y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol dwi yn ei sefydlu ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl bod yna gytundeb, onid does, ei bod hi mor bwysig cael y strategaethau yn gywir ar ddigidol, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael platfform ar gyfer dod â gwahanol bartneriaid at ei gilydd er mwyn ceisio dylanwadu ar Lywodraeth. Dwi'n meddwl bod y cyfle yma o'n blaenau ni i drafod yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddigidol yn golygu—wel, mae'n awgrymu i mi mai dyma'r amser iawn i wneud hyn. Felly, diolch yn fawr iawn i'r rheini sydd wedi dangos eu bod nhw am gefnogi hyn. Diolch i'r Gweinidog hefyd am ymateb yn bositif—neu'r Dirprwy Weinidog, ddylwn i ddweud—i hyn. Mae yna gymaint o newidiadau cymdeithasol a chyfleon economaidd yn ddeillio allan o ddigidol—yr M-SParc yn fan hyn a'r ganolfan DSP, Compound Semiconductor Applications Catapult yng Nghasnewydd, y ganolfan sbectrwm yn Aberystwyth. Mae yna gymaint eisiau ei drafod yn economaidd a chymdeithasol, ac rydw i'n gwahodd pawb i chwarae eu rhan yn y drafodaeth yna.
Diolch yn fawr am y sylwadau yna. Croesawaf naws a chynnwys y cyfraniad, ac rwyf innau hefyd yn cefnogi'r mentrau y mae M-Sparc yn eu cynnal yn Ynys Môn. Rwy'n credu eu bod yn arwain y ffordd o ran arloesedd, o brosiect o'u heiddo yr wyf yn ymwybodol ohono'n ddiweddar mewn hydroponeg wrth gynhyrchu bwyd, ond hefyd, rwy'n credu, rhywbeth arbennig o gyffrous yw eu defnydd o LoRaWAN, sef pyrth amledd isel y gellir eu haddasu i ddod â'r agenda 'rhyngrwyd pethau' yn fyw. Felly, maen nhw wedi gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth ar bethau syml fel gatiau fferm, i helpu ffermwyr gyda deallusrwydd amser real i'w helpu i reoli eu da byw a'u tir, a'r prosiect Patrwm mewn nifer o ganol trefi ar draws y gogledd, lle maen nhw'n gallu monitro mewn amser real nifer y bobl sy'n dod i ganol trefi. Mae hyn wedi deillio o brosiect a ddechreuodd yn Aberteifi, lle mae'r Cynghorydd Clive Davies, maer presennol Aberteifi, wedi gwneud gwaith rhagorol, gan weithio gyda masnachwyr lleol i ddefnyddio'r signalau band eang am ddim sydd wedi'u hariannu i gael data i helpu'r siopwyr i ddeall o ble mae pobl yn dod, pa adegau o'r dydd y maen nhw'n dod, a ydyn nhw yn ymateb i ddigwyddiadau. Credaf mai'r her yn awr yw defnyddio'r data hynny i ddylanwadu ar bolisïau. Felly, mae'n wych cael y data, ond nawr mae angen i ni ddeall beth y mae'r data'n ei ddweud wrthym ni sy'n arwain at arloesi a newid ymhellach. Rwy'n credu y bydd M-SParc i'w canmol yn fawr am yr arweinyddiaeth y maen nhw wedi'i dangos yn hyn o beth, ac mae llawer mwy y gallan nhw ei gyfrannu at brif ffrydio'r agenda hon ledled Cymru.
Diolch, Dirprwy Weinidog.