9. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:05 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:05, 2 Rhagfyr 2020

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 02-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, naw yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-20: O blaid: 40, Yn erbyn: 1, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 2786 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-20

Ie: 40 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 2 Rhagfyr 2020

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar y sector bwyd, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei wrthod.

Dadl Plaid Cymru: y sector bwyd - cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2787 Dadl Plaid Cymru: Y sector bwyd - Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 12 ASau

Na: 36 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 2 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:07, 2 Rhagfyr 2020

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, ac os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 2788 Dadl Plaid Cymru - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans)

Ie: 29 ASau

Na: 21 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:08, 2 Rhagfyr 2020

Gwelliant 2—. Na, ddim gwelliant 2, felly. Mae gwelliant 2 wedi cwympo. Felly, rŷn ni'n pleidleisio ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

Cynnig NDM7495 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.

2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;

b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;

c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;

d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ailddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:08, 2 Rhagfyr 2020

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Dadl Plaid Cymru - cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 39, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 2789 Dadl Plaid Cymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd

Ie: 39 ASau

Na: 11 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:08, 2 Rhagfyr 2020

Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Bydd y ddadl fer yn dilyn nawr, mewn ychydig eiliadau.