10. Dadl Fer: Bywyd gwyllt eiconig Cymru: Trafferthion gwiwerod coch Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:21, 2 Rhagfyr 2020

Diolch yn fawr iawn i Darren Millar am gynnig y wiwer goch fel testun i'r ddadl yma. Fel rydyn ni wedi clywed, mae o'n anifail sy'n cael ei gysylltu'n agos iawn efo Ynys Môn. Mae o'n eicon yn Ynys Môn, ac mae'n werth i mi fod yn onest, dwi'n sensitif iawn ynglŷn â'r ffaith nad Aelod Ynys Môn gafodd ei ddewis i fod yn bencampwr y wiwer goch. Ond, yn digwydd bod, mae gennym ni sawl anifail eiconig yn Ynys Môn, felly dwi'n browd iawn o fod yn bencampwr y frân goesgoch, y chough. Felly edrych ar ôl y wiwer, Darren. 

Ond mae yna bwyntiau pwysig iawn wedi cael eu gwneud yn fan hyn. Nid ar ddamwain mae'r wiwer goch wedi cael ei achub. Mae wedi cael ei achub drwy waith caled. Dwi'n ddiolchgar i Craig Shuttleworth a'i dimau o gadwraethwyr, a dwi'n ddiolchgar i Menter Môn, ond mae angen gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol y wiwer hefyd, mewn deddfwriaeth lle mae hynny'n bosib, a drwy sicrhau cyllid ar gyfer gwaith parhaol mewn blynyddoedd i ddod. Ond diolch am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau, a dwi'n edrych ymlaen am sicrwydd o'r gefnogaeth yna i barhau gan y Gweinidog heddiw.