10. Dadl Fer: Bywyd gwyllt eiconig Cymru: Trafferthion gwiwerod coch Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:15, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o ddweud bod ymdrechion cadwraeth a arweiniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru wedi gweld llwyddiant mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Drwy reoli coedwigoedd yn ofalus a thrwy ryddhau gwiwerod coch wedi'u bridio mewn caethiwed i'r ardal i gryfhau'r boblogaeth frodorol, rydym wedi gweld adferiad araf a chyson yn nifer y gwiwerod coch yn yr ardal. Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wedi helpu'r gwaith hwn, ac mae'n rhaid i mi ddatgan fy aelodaeth o'r ymddiriedolaeth honno. Mae wedi meithrin perthynas a phartneriaeth gref gyda CNC ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru er mwyn troi'r llanw ar ffawd yr anifeiliaid bendigedig hyn.

Y partneriaethau cryf hyn rhwng grwpiau cadwraeth, asiantaethau'r Llywodraeth a gwirfoddolwyr sydd wedi gosod glasbrint mor gadarn ar gyfer ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr niferus y cyfarfûm â hwy wrth ymweld â choedwig Clocaenog, gan gynnwys Chris Bamber, cadeirydd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Dave Wilson a Vic Paine. Mae eu hymdrechion cadwraeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Ac wrth gwrs, nid yw'r ymdrechion cadwraeth wedi'u cyfyngu i Ynys Môn nac i Sir Ddinbych. Maent hefyd ar y gweill yng nghoedwig Tywi yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 300 o wiwerod coch bellach yn galw'r goedwig yn gartref iddynt, diolch i ymdrechion prosiect Red Squirrels United—rhaglen gadwraeth dair blynedd a ariennir gan gronfa dreftadaeth y loteri. Mae cymaint o waith wedi'i wneud i warchod ein poblogaeth o wiwerod coch, ond wrth gwrs, rydym ymhell iawn o fod wedi gorffen. Mae gan ddyfodol cadwraeth gwiwerod coch botensial i fod yn feiddgar ac yn fywiog—fel gwiwer o fywiog yn wir.

Yng ngogledd Cymru, mae'r prosiect Mamaliaid Hudolus ar fin dechrau. Prosiect pum mlynedd yw hwn sy'n cael ei ddatblygu i ddod â CNC, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru at ei gilydd i ffurfio ymdrech gadwraeth flaenllaw yn fy etholaeth i ac o'i hamgylch. Ond nid yw'r ymdrechion cadwraeth hyn wedi'u cyfyngu i goedwigoedd yn unig; mae'r gwaith yn mynd rhagddo mewn mannau eraill hefyd. Fel hyrwyddwr y wiwer goch ac yn noddwr balch ac aelod oes o Sw Mynydd Cymru, rwy'n hynod falch o raglen fridio'r wiwer goch sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn. Yn 1989, dechreuodd y sw ei brosiect cadwraeth hiraf, sydd hyd heddiw yn ymrwymedig i warchod gwiwerod coch ar draws ynysoedd Prydain. A thrwy weithio ledled y DU, mae'r rhaglen fridio honno wedi arwain ymchwil hanfodol ar ailgyflwyno bywyd gwyllt ac effaith brech y wiwer. Chwaraeodd ein sw genedlaethol ran flaenllaw a chynnar yn y gwaith o ailgyflwyno rhan eiconig o fywyd gwyllt Cymru ar Ynys Môn ac yng Nghaeaenog, ac rwyf am achub ar y cyfle i dalu teyrnged i'r sw am yr holl waith cadwraeth y mae wedi'i wneud gyda gwiwerod coch, a rhywogaethau eraill yn wir, oherwydd nid oes amheuaeth, heb ein sw genedlaethol, byddai ein bywyd gwyllt yn llai amrywiol ac yn llai cyfoethog nag y mae.

Yn ogystal â'r rhaglenni bridio sy'n digwydd mewn caethiwed, mae dulliau cadwraeth eraill hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Rhwng 2015 a 2017, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent dros 50 o feleod ger Pontarfynach yng Ngheredigion. Fel ysglyfaethwr naturiol i'r wiwer lwyd, mae cyflwyno'r beleod wedi helpu i gadw'r boblogaeth o wiwerod llwyd i lawr a than reolaeth. Mae angen inni fabwysiadu ymdrech gadwraethol gyfannol o'r fath os yw poblogaeth y wiwer goch ledled Cymru a gweddill y DU i wella ymhellach. Yn ogystal â bygythiad gwiwerod llwyd, mae cwympo coed hefyd yn fygythiad hirdymor sylweddol i'n ffrindiau blewog. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, diolch byth, mae nifer o amddiffyniadau cyfreithiol gan y wiwer goch. Mae'n anghyfreithlon i ladd neu achosi anaf i wiwer goch yn fwriadol, mae'n anghyfreithlon i aflonyddu ar neu rwystro nythod gwiwerod sy'n cael eu defnyddio, ac wrth gwrs, mae'n anghyfreithlon i darfu ar wiwer tra mae yn ei nyth. Ac er bod croeso mawr i'r amddiffyniadau hyn, nid ydynt yn ddigon, oherwydd er bod y gyfraith yn diogelu coed unigol sy'n gartref i wiwerod rhag cael eu cwympo, nid yw'n diogelu'r cynefin cyfagos, sydd, wrth gwrs, yr un mor bwysig ar gyfer goroesiad hirdymor y rhywogaeth. Mae angen i reolwyr cynefinoedd coedwigoedd fod wrth wraidd yr ymdrech gadwraeth hon, ac er cymaint y mae CNC eisiau diogelu ein bywyd gwyllt, mae arnaf ofn nad oes ganddynt ddigon o bwerau ar hyn o bryd i allu gwneud hynny.

Fel y mae pethau, yr unig reswm y gall CNC wrthod trwydded cwympo coed yw am resymau'n ymwneud ag arferion rheoli coedwigoedd gwael. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i CNC wrthod trwydded, hyd yn oed os gwyddys y bydd y drwydded honno'n achosi niwed sylweddol i gynefin naturiol gwiwerod coch. A gwn, Weinidog, fod hyn yn rhywbeth rydym wedi gohebu arno yn y gorffennol mewn perthynas â'r trefniadau presennol hyn. Rwy'n eu hystyried yn anghywir, ac nid wyf yn credu eu bod yn adlewyrchu'r gwerth y mae pobl ledled Cymru yn ei roi ar ein bywyd gwyllt, ac ar y wiwer goch yn arbennig. Felly, rwy'n eich annog chi, a'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru, i gyflwyno model trwyddedu gwahanol a fyddai'n caniatáu i CNC allu gwrthod trwyddedau cwympo coed sy'n cael effaith andwyol annerbyniol ar gynefin bywyd gwyllt. Mae hyn yn digwydd eisoes yn yr Alban, a chredaf fod hwnnw'n fodel y dylem ei fabwysiadu. 

Ddirprwy Lywydd, mae trafferthion y wiwer goch, a rhywogaethau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, wedi mynd o dan y radar yn rhy hir. Heb y camau priodol i ddiogelu ein bywyd gwyllt yma yng Nghymru, mae perygl inni achosi niwed na ellir ei unioni i'n treftadaeth naturiol. Yma yng Nghymru, rydym wedi cael ein bendithio â chefn gwlad bendigedig a bywyd gwyllt gwych, a'n dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol yw pasio'r cyfoeth toreithiog hwnnw a etifeddwyd gennym mewn gwell cyflwr nag y'i cawsom. Yng ngeiriau'r Prif Weinidog gwych, Margaret Thatcher,

Nid oes gan yr un genhedlaeth rydd-ddaliad ar y ddaear hon. Y cyfan sydd gennym yw tenantiaeth oes—gyda les atgyweirio lawn.

Ac rwyf am annog holl Aelodau'r Senedd, a Llywodraeth Cymru, i anrhydeddu'r denantiaeth oes honno. Ein dyletswydd yw diogelu ein hamgylchedd a chefnogi'r wiwer goch a bywyd gwyllt eiconig arall yng Nghymru. Diolch.