Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Ond mae bod yn hyrwyddwr rhywogaethau yn rhywbeth rwyf wedi bod o ddifrif yn ei gylch, ac i mi o leiaf, mae wedi cynnau diddordeb gwirioneddol yn nhrafferthion bywyd gwyllt Cymru. Yn fyd-eang, statws cadwraeth gwiwerod coch Ewrasiaidd yw 'dan ddim bygythiad' ond wrth gwrs, nid yw hyn yn wir yma yng Nghymru, oherwydd mae'r wiwer goch yn ffynnu mewn mannau eraill ledled Ewrop—mewn gwirionedd, mor bell i'r gorllewin â Sbaen, a'r holl ffordd draw i Siberia yn y dwyrain—ond yma yng Nghymru mae'r wiwer goch wedi bod dan fygythiad ers dros ganrif.
Fel yr unig rywogaeth o wiwer frodorol yng Nghymru, mae'r wiwer goch yn symbol eiconig o fywyd gwyllt Cymru a'n treftadaeth naturiol. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, mae gwiwerod coch wedi poblogi'r mwyafrif llethol o ynysoedd Prydain. Mor ddiweddar â 1945, y wiwer goch oedd y rhywogaeth fwyaf ac amlycaf o wiwerod ym Mhrydain, gan gynnwys yma yng Nghymru, ac eto heddiw mae poblogaeth y wiwer wedi gostwng yn eithafol, ac mae dau brif reswm dros y dirywiad dychrynllyd hwn: colli cynefin a dyfodiad y wiwer lwyd i Brydain yn y 1800au. Ceir cofnodion ohonynt yn cael eu rhyddhau, gyda'r rhan fwyaf ohonynt o gasgliadau preifat neu anifeiliaid anwes, yn dyddio mor bell yn ôl â 1828, pan ryddhawyd un wiwer, mae'n debyg, ger Neuadd Llantysilio yn Sir Ddinbych. Mae cofnod hefyd o bum gwiwer o Woburn yn cael eu rhyddhau yn Wrecsam yn 1903, a nifer o Sw Llundain yn cael eu rhyddhau yn Aberdâr yn 1922. Ac o'r dechreuadau bach hyn, collodd gwiwerod coch dir yn gyflym i'w cefndryd Americanaidd mwy o faint a mwy ymosodol, gan na allent gystadlu am gynefin na bwyd. Ac ar ben hyn, daeth y gwiwerod llwyd â chlefyd—brech y wiwer. Profodd y clefyd cymharol ddiniwed hwn i wiwerod llwyd, a oedd wedi magu imiwnedd dros ddegau o filoedd o flynyddoedd, yn ddinistriol ac yn angheuol i'n gwiwerod coch brodorol, nad oes ganddynt imiwnedd naturiol i'r feirws, ac mae wedi lladd llawer.
Nid yw'n syndod, felly, fod y wiwer lwyd wedi cytrefu yng Nghymru i raddau helaeth erbyn y 1980au. Yn anhygoel, mae poblogaethau'r wiwer goch ym Mhrydain wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i boblogaeth gyfredol amcangyfrifedig o ddim ond 120,000. Wrth inni nesáu at ddiwedd y mileniwm, roedd yr unig wiwerod coch a oedd ar ôl yng Nghymru wedi'u cyfyngu i dri lle yn unig. Llwyddodd llai na 50 i oroesi ar Ynys Môn, roedd rhai cannoedd ar ôl yn Sir Ddinbych ac roedd rhai cannoedd wedi goroesi yn groes i'r disgwyl yng nghanolbarth Cymru hefyd. Erbyn diwedd y 1990au, bernid bod y canolfannau poblogaeth hyn mewn perygl sylweddol, a heb amheuaeth roedd dyfodol y wiwer goch yn llwm.
Ond mae rhywfaint o obaith. Yn 1998, dechreuodd y frwydr i'w chael yn ôl. Dechreuwyd yr ymdrechion cadwraeth cychwynnol ar Ynys Môn. Cawsant eu harwain gan Menter Môn gyda chyllid yr UE a grantiau treth tirlenwi yn ddiweddarach. Ac mae'n ddigon posibl mai Ynys Môn yw'r llwyddiant mwyaf calonogol i unrhyw gadwraethwr sy'n edrych ar droi'r llanw yn achos rhywogaethau sy'n dirywio. Pan ddechreuodd yr ymdrechion cadwraeth ar Ynys Môn, dim ond tua 40 o wiwerod oedd ar ôl ar yr ynys, ond oherwydd arweinyddiaeth Craig Shuttleworth ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, mae'r ymdrechion hyn wedi talu ar eu canfed. Gyda'i gilydd, heddiw, mae tua 800 o wiwerod coch ar yr ynys honno'n unig, ac mae'r boblogaeth mor fawr fel bod nifer o wiwerod coch wedi dianc o Ynys Môn hyd yn oed, gan groesi afon Menai, i ffurfio poblogaeth fechan yn ardal Bangor. Erbyn 2013, roedd yr holl wiwerod llwyd wedi cael eu symud o'r ynys, ac erbyn 2015 datganwyd ei fod yn barth di-wiwer lwyd. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw ymdrech gadwraeth, cafwyd rhai methiannau. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae saith gwiwer lwyd wedi'u dal ar yr ynys, a phe na bai'r gwiwerod hynny wedi'u dal gan y cadwraethwyr ymroddedig, byddai eu hymdrechion i amddiffyn ein cyfeillion blewog wedi cael eu difetha.
Rwy'n falch o allu dweud bod fy etholaeth i hefyd yn gartref i un o'r tair lloches ar gyfer gwiwerod coch yng Nghymru. Ar ddiwedd y 1990au, roedd coedwig Clocaenog yn Sir Ddinbych i'w gweld yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yn y wlad. Ond erbyn 2011, daeth yn eithaf clir fod y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i boblogaeth gynyddol o wiwerod llwyd yn yr ardal. Roedd yn amlwg fod y wiwer goch yng nghoedwig Clocaenog dan fygythiad a bod rhaid gwneud rhywbeth.