Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod yn gwrando ar leisiau rhai o fy etholwyr, sy'n pryderu am broffil pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ac anableddau dysgu eraill drwy gydol y pandemig hwn. Yn ein dadleuon yn y Senedd, rydym yn gyfarwydd â chwestiynau am grwpiau sy'n agored i niwed ac fel y gwelir yn aml yn y cyfryngau, mae'r sylw'n troi'n syth at ein dinasyddion hŷn ac at gartrefi gofal. Ond mae grwpiau eraill angen ein sylw hefyd, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn llety preswyl a llety â chymorth. Mae angen i'w teuluoedd glywed ac yna gweld bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth wrth i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau i ddarparu rhaglen frechu. Rwy'n clywed am bobl mewn lleoliadau gofal sydd wedi bod yn colli cysylltiad â theuluoedd, gan nad ydynt yn deall perthnasedd na budd technolegau fel Zoom yn llawn. Felly, a allwch chi fy sicrhau, Weinidog, fod pobl sy'n byw gydag awtistiaeth, ac anableddau dysgu eraill, a'u teuluoedd, yn cael ystyriaeth briodol yn eich cynlluniau?