2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
3. Pa effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru? OQ55961
Mae COVID-19 wedi bod yn amser anodd iawn i bobl awtistig yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, i gefnogi pobl awtistig drwy gydol y pandemig hwn. Byddwn yn parhau â'r gwaith ar y cyd i leihau effaith mwy hirdymor y feirws ar fywydau pobl awtistig.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod yn gwrando ar leisiau rhai o fy etholwyr, sy'n pryderu am broffil pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ac anableddau dysgu eraill drwy gydol y pandemig hwn. Yn ein dadleuon yn y Senedd, rydym yn gyfarwydd â chwestiynau am grwpiau sy'n agored i niwed ac fel y gwelir yn aml yn y cyfryngau, mae'r sylw'n troi'n syth at ein dinasyddion hŷn ac at gartrefi gofal. Ond mae grwpiau eraill angen ein sylw hefyd, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn llety preswyl a llety â chymorth. Mae angen i'w teuluoedd glywed ac yna gweld bod eu hanghenion yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth wrth i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau i ddarparu rhaglen frechu. Rwy'n clywed am bobl mewn lleoliadau gofal sydd wedi bod yn colli cysylltiad â theuluoedd, gan nad ydynt yn deall perthnasedd na budd technolegau fel Zoom yn llawn. Felly, a allwch chi fy sicrhau, Weinidog, fod pobl sy'n byw gydag awtistiaeth, ac anableddau dysgu eraill, a'u teuluoedd, yn cael ystyriaeth briodol yn eich cynlluniau?
Wel, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi, Dawn. Hoffwn ei gwneud yn glir, o ddechrau'r pandemig, pan oeddem yn gofyn i bobl beidio â gadael eu cartrefi, fe wnaethom, ar y dechrau un, roi eithriadau i bobl ag awtistiaeth oherwydd ein bod yn deall bod angen iddynt ddilyn patrymau penodol a bod angen iddynt fynd allan yn rheolaidd. Felly, o'r dechrau un, rydym wedi bod yn sensitif i'r anghenion hynny ac wrth gwrs, wrth i ni edrych ymlaen yn awr at gyflwyno'r brechlyn, mae honno'n enghraifft o faes y mae angen i ni feddwl amdano, o ran sut y mae pobl ag awtistiaeth yn debygol o ymateb. Mae canllawiau'n cael eu datblygu i baratoi ar gyfer cyflwyno'r brechlyn hwnnw, a bydd y wybodaeth honno ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru.
Y peth arall i fod yn glir yn ei gylch ar hyn yw ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yn cael y cymorth hwnnw, nid yn unig wrth gyflwyno'r brechlyn, ond hefyd o ran rhyngweithio mwy cyffredinol â'r GIG.
Mae'r adroddiad 'Left Stranded', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a phartneriaid, yn dangos bod pandemig y coronafeirws, yn ogystal â gwaethygu'r heriau hirsefydlog y mae pobl awtistig yn eu hwynebu yn sylweddol, wedi cael effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'r amseroedd aros am wasanaethau asesu a diagnosis a oedd eisoes yn hir yn waeth byth gyda dim ond un o bob pedwar plentyn a pherson ifanc yng ngogledd Cymru'n cael asesiad awtistiaeth gan dimau niwroddatblygiadol lleol o fewn chwe mis i gael eu hatgyfeirio, a nifer yn aros yn hwy o lawer.
Mae'r pandemig hefyd wedi amlygu'r diffyg dealltwriaeth o awtistiaeth yn ein system addysg, sydd hefyd yn effeithio'n ddifrifol ar iechyd meddwl disgyblion awtistig. Pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi felly i'r gwasanaethau hyn nawr i leihau'r amseroedd aros hir hyn, er mwyn rhoi'r cymorth y mae pobl ei angen cyn gynted â phosibl? Ac o ystyried ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob athro'n cael hyfforddiant gorfodol mewn awtistiaeth fel rhan o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, rhywbeth sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed, a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflawni hyn?
Diolch yn fawr iawn, Mark. Rwyf wedi darllen yr adroddiad 'Left Stranded', ac rwy'n credu ei fod yn ddiddorol iawn, a byddaf yn edrych ymlaen at drafod hwnnw gyda phrif weithredwr y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol pan fyddaf yn cyfarfod â hi yr wythnos nesaf.
O ran mynediad at wasanaethau yn ystod COVID-19, mae gwasanaethau'n dod at ei gilydd i gyfnewid arferion da ac mae cymorth yn cael ei gynnig yn rhithwir, wrth gwrs, lle bynnag y bo modd. Y peth arall rydym yn ei wneud yw sicrhau bod offeryn asesu ar-lein yn cael ei ddatblygu, a fydd yn bodloni canllawiau cydymffurfio'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cod ymarfer yn digwydd ar hyn o bryd—mae'n mynd rhagddo yn awr—ac rydym yn disgwyl i hwnnw ddod i ben ar 14 Rhagfyr.
Rydych hefyd yn siarad am yr hyfforddiant sydd ei angen mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y rhaglen hyfforddi newydd yn cynnwys ymdrech i sicrhau bod yna ddealltwriaeth o'r system anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hwnnw'n cael ei ailwampio'n llwyr, fel y gwyddoch, a'r gobaith yw y bydd y cod a'r rheoliadau mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Chwefror.