Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch, Adam. Dwi wedi sefydlu bwrdd crwn ar yr economi a'r iaith y llynedd a dwi wedi sicrhau ein bod ni'n trafod fanna yr heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg a gwledig. Un o'r themâu ŷn ni'n edrych arnynt fanna yw allfudo pobl ifanc, ac mae rhaglen Arfor hefyd wedi peilota prosiectau sydd wedi’u targedu ar gyfer cefnogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau nhw.