Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Dywedodd Jeremy Miles wrth un o bwyllgorau'r Senedd fod y Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad o effaith deuol COVID a Brexit ar y Gymraeg a chymunedau gwledig, a'ch bod chithau fel Llywodraeth ar sail yr asesiad hwnnw yn derbyn bod yna le i bryderu, yn arbennig oherwydd yr argyfwng tai a'r cynnydd mewn niferoedd o bobl sy'n prynu tai o'r tu allan i'r ardal. A wnewch chi gyhoeddi'r asesiad yna? Ydych chi'n gallu rhoi yr amserlen ar gyfer camau nesaf gwaith Simon Brooks ar ail gartrefi? Gan fod yr argyfwng tai yn digwydd nawr a bod Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, wedi amlinellu mesurau y gellir eu cymryd nawr, allwch chi ddweud beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud o ran cynllun brys yr ochr yma i'r etholiad?