Siaradwyr Cymraeg Ifanc

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:05, 2 Rhagfyr 2020

Diolch. Dwi'n meddwl bod yna lot o bethau mae'n rhaid inni eu hystyried fan hyn, pan mae'n dod at dai a chadw pobl yn ein cymunedau ni. Mae'n broblem ddyrys ac mae'n gymhleth. Rydyn ni'n edrych ar bob sefyllfa ac rydyn ni'n gobeithio gweld beth mwy y gallwn ni ei wneud, achos rydyn ni wedi gwneud mwy yma yng Nghymru nag yn unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig. Un o'r pethau rydyn ni wedi ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod ni wedi adeiladu 20,000 o dai yn ystod y cyfnod yma—tai fforddiadwy, fydd yn helpu cadw pobl yn eu cymunedau nhw. A phan mae'n dod i gynllunio, mae angen i bobl ystyried yr effaith ar y Gymraeg. Un o'r problemau sydd wedi bod oedd bod y tŵl i wneud hynny, i fesur hynny, ddim yn ddigonol, a dyna pam mae fy adran i wedi sicrhau eu bod nhw wedi gwneud lot fwy i wella'r tŵl yna i sicrhau ein bod ni'n gallu mesur yr effaith yn well.