Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Rwy'n falch i glywed am y ford gron. Y cwestiwn hanfodol yw pam nad yw polisi economaidd Llywodraeth Cymru wedi arwain at swyddi â chyflog gwell mewn ardaloedd gwledig i helpu cadw pobl ifanc ac i'w helpu i fforddio tai. Ond o ran cadw twf y Gymraeg yn y gymuned, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o ddefnyddio'r gofyniad sylw dyledus ar awdurdodau cynllunio i ystyried effaith eu penderfyniadau ar yr iaith? Pa mor aml y defnyddir hynny i gefnogi twf, nid yn unig amddiffyn y sylfaen gyfredol? Er enghraifft, faint o awdurdodau sydd wedi defnyddio amodau deiliadaeth leol diffiniedig a arferai redeg ochr yn ochr â thargedau tai fforddiadwy neu weithiau a oedd yn gydgysylltiedig â nhw? A hefyd, wrth gwrs, mae yna syniad o Help to Buy ar gyfer tai gwag yn lle tai newydd.