Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Ceisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau rhagorol a wnaeth Helen Mary, ond hoffwn eu hategu'n llawn. Byddwn yn dweud hyn, serch hynny, am y gwelliant yn y sylw a roddir i faterion datganoledig, fod Mark Drakeford wedi dod yn dipyn o ffigwr cwlt ledled y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddatganiad di-bolisi ar fy rhan i, ond mae wedi cael proffil, mae wedi cael ei broffilio hefyd ar Radio 4 gan Nick Robinson, a chlywsom i gyd am ei fagwraeth yn Sir Gaerfyrddin a'i gariad at Glwb Criced Sir Forgannwg a'i ymweliadau â Sain Helen, a aeth â mi'n ôl i fy arddegau innau hefyd, rhaid i mi ddweud. Credaf fod hynny'n bwysig iawn, oherwydd felly y dylai fod—dylai pobl sylweddoli ein bod bellach yn wladwriaeth ddatganoledig. Ac ar rai pethau mae'n hollbwysig. Er enghraifft, roedd y Financial Times ychydig fisoedd yn ôl yn cynnwys un neu ddwy o erthyglau diddorol ar brofi ac olrhain, ac roedd yn cymharu dull Cymru â'r dull o weithredu mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig Lloegr, a dywedodd mai'r cysylltiad rhwng iechyd y cyhoedd ac awdurdodau lleol yng Nghymru oedd y ffordd y dylid gwneud pethau. Nawr, mae'r dystiolaeth ar gael, ac mae'r FT wedi ffurfio ei farn ei hun, ond roeddwn yn meddwl bod hynny'n ddiddorol.
Gadewch i mi wneud dau bwynt penodol iawn. Yn gynharach yr hydref hwn, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Global Satisfaction with Democracy' gan Brifysgol Caergrawnt. Roedd iddo gyrhaeddiad rhyngwladol. Rwy'n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel yr ystyrir bod iddo gryn awdurdod. Rhybuddiai fod effaith y cyfryngau cymdeithasol yn gyrru pobl yn y gymdeithas i mewn i seilos, lle ceir dau lwyth sy'n gwrthwynebu ei gilydd, yn enwedig mewn gwledydd Eingl-Sacsonaidd, ac mae hyn yn adlewyrchu'r system ddwy blaid. Mae'n debyg y gallem ddweud yn fras ei fod yn dal i fodoli o ran dewis Llywodraeth ar lefel y DU, hyd yn oed os nad yw'n bodoli'n llwyr yn yr Alban ac yng Nghymru bellach. Ond rwy'n credu bod problem wirioneddol gyda phobl yn cael llawer o'u prif wybodaeth wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arf cyflenwol sy'n rhoi llais i gynifer o bobl, rwy'n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn wych, ond fel prif ffynhonnell mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn. A gan ein bod ar fin dechrau rhaglen frechu, a fydd yn agored i'r boblogaeth gyfan o fewn yr oddeutu chwe mis nesaf, mae'n ein hatgoffa o ba mor bwysig yw ffynonellau gwybodaeth ym maes iechyd y cyhoedd, oherwydd ceir llawer o newyddion ffug mewn perthynas â llawer o'r materion hyn.
Fy ail bwynt, af yn ôl i'r 1830au a'r damcaniaethwr mwyaf ar ddemocratiaeth mae'n debyg, Alexis de Tocqueville, y Ffrancwr a aeth i America ac a ysgrifennodd y llyfr enwog, Democracy in America. Credai fod un o'r pethau allweddol a oedd yn caniatáu democratiaeth, a rhywbeth yn agosáu at ddemocratiaeth dorfol, o ran y bleidlais i ddynion beth bynnag, yn digwydd am y tro cyntaf yn y byd—ni lwyddodd y Groegiaid hyd yn oed i fynd yn agos at hynny—yn America yn y 1830au, ac roedd yn credu mai'r hyn oedd ei angen oedd gwasg rydd, a chystadleuaeth mewn gwasg rydd. Ac os caf ddyfynnu un o'r pethau a ddywedodd Tocqueville:
Efallai y gellid edrych, gan hynny, ar sofraniaeth y bobl a rhyddid y wasg fel pethau sy'n perthyn i'w gilydd.
Mae angen y ddau arnoch, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw pwerus iawn.
Ac rwyf am orffen gyda'r darn hwn o dystiolaeth a gawsom; roeddwn yn meddwl mai dyma'r peth mwyaf pwerus a glywsom gan y newyddiadurwyr proffesiynol. Rydym yn colli newyddiadurwyr proffesiynol bob dydd ac mae'n crebachu ein democratiaeth. Ond pwysleisiwyd wrthym mai'r golled fwyaf yw nad yw'r newyddiadurwyr proffesiynol a arferai fyw yn y cymunedau lleol roeddent yn ysgrifennu amdanynt yno mwyach, ac mae hynny'n bryder mawr ac mae'n rhaid inni ddod o hyd i fodel busnes sy'n gallu mynd i'r afael â hynny.