Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gymerwyd tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, felly rwyf wedi mwynhau darllen y gwaith a thrafod yn anffurfiol gyda chyd-Aelodau, ac mae'n sicr yn ddarn trawiadol o waith, sy'n herio Llywodraeth Cymru lle mae angen ei herio, ond yn ei chefnogi hefyd lle roedd y pwyllgor yn teimlo ei bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.
Nid wyf am ailadrodd y sylwadau y mae eraill wedi'u gwneud, Ddirprwy Lywydd, dim ond tynnu sylw at un neu ddau o faterion. Hoffwn ddychwelyd at y pwyntiau y soniwyd amdanynt eisoes yn fyr am bwyntiau gwefru cerbydau trydan. Nawr, gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn dweud—neu rwy'n dychmygu y bydd yn dweud, a byddai'n llygad ei le—fod angen inni sicrhau newid moddol wrth gwrs. Nid ydym am gael gwared ar fflyd gyfan o geir diesel a phetrol gyda phobl yn dal i ddefnyddio ceir trydan i'r un graddau. Ond bob amser bydd amgylchiadau unigol pobl, neu gymunedau lle bydd rhedeg trafnidiaeth gyhoeddus ar raddfa fawr—wyddoch chi, llawer o ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru rwy'n ei chynrychioli, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddichonadwy. Ac rwyf braidd yn rhwystredig ynglŷn â pha mor araf rydym wedi cyflwyno'r pwyntiau gwefru trydan. Gwn am lawer o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli a fyddai wrth eu bodd yn gallu ystyried cerbyd trydan ac ni allant wneud hynny, oherwydd nid oes unman o fewn y teithiau y maent yn eu gwneud lle gallant ei wefru ar wahân i gartref.
Felly, mae gennym lawer o waith i'w wneud yno, a chredaf ei bod yn bwysig nad yw hynny ar draul buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi mewn newid moddol, ond mae'n dal yn rhan bwysig o'r agenda ddatgarboneiddio. Oherwydd, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud unwaith neu ddwy yn y Siambr yn ddiweddar, efallai ein bod yn y gorffennol wedi tanamcangyfrif pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth, a byddwn yn sicr yn cytuno ag ef yno nad dyma'r peth cyntaf y bydd rhywun yn meddwl amdano o reidrwydd pan fyddant yn meddwl am yr agenda werdd, ond wrth gwrs, mae'n eithriadol o bwysig.
Hoffwn roi sylwadau byr ar yr agenda integreiddio. Mae Nick Ramsay yn iawn pan ddywed ein bod wedi bod yn siarad am hyn ers blynyddoedd, ond byddwn hefyd yn dweud wrtho mai'r strwythur deddfwriaethol ar gyfer bysiau a rheilffyrdd a'u cadwodd yn y sector preifat sydd wedi gwneud peth o'r integreiddio hwnnw'n anodd iawn ei gyflawni. A bydd rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag sy'n ei ffurfio, roi ystyriaeth ddifrifol i fynd yn ôl at y ddeddfwriaeth fysiau a mynd ymhellach o bosibl—yn amlwg, ni allai'r ddeddfwriaeth honno fynd rhagddi oherwydd COVID, ond mynd yn ôl at y ddeddfwriaeth honno, a mabwysiadu ymagwedd hyd yn oed yn gliriach o bosibl. Oherwydd mae'r Llywodraeth ar hyn o bryd yn edrych ar ddefnyddio contractio gyda chwmnïau preifat i hyrwyddo integreiddio, ond yn y pen draw, mae risg barhaus os nad ydynt yn gwneud digon o elw y byddant yn troi eu cefnau ar hyn. Ac os edrychwn ar systemau integredig llwyddiannus, yn enwedig ar gyfandir Ewrop, rhai sector cyhoeddus yw'r rheini fel arfer. Felly, rhaid inni gydnabod nad bai Llywodraethau olynol yng Nghymru yn unig yw'r diffyg cynnydd o ran integreiddio, ond bai'r fframwaith y maent yn gweithio ynddo.
Hoffwn ddychwelyd at bwynt y cyfeiriodd Russell George ato'n fyr, sef peth o waith cynllun 10 pwynt comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd a oedd yn sôn sut y dylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys yr agenda ddatgarboneiddio. Mae'n argymell yn gryf, a byddwn yn cytuno, fod gwir angen inni allu gweld—. Er mwyn gallu craffu'n llwyddiannus ar Lywodraeth Cymru gyda'r agenda hon, mae angen inni allu gweld sut y mae'r arian yn cael ei wario. Os yw datgarboneiddio'n flaenoriaeth, sut y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru, yn enwedig y gyllideb—sut y mae hynny'n dilyn yr agenda honno?
Nawr, ni fyddwn yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog fod yn gyfrifol am gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru, oherwydd ni fyddai hynny'n deg, ond hoffwn ofyn iddo heddiw, o fewn cyllideb yr economi a thrafnidiaeth, i ba raddau y gall y Llywodraeth, ar y cam hwn, olrhain eu gwariant yn erbyn yr agenda werdd a'r agenda ddatgarboneiddio yn ehangach. A oes unrhyw beth pellach y mae angen ei wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd? A oes cyngor pellach y mae angen iddo ofyn amdano?
Oherwydd rydym—. Ddirprwy Lywydd, yn Gymraeg mae gennym ddywediad, 'Diwedd y gân yw'r geiniog'—ac rydym yn dweud, 'Dilynwch yr arian', onid ydym? Gallwn siarad am yr hyn sy'n bwysig yn ein barn ni, ond o ran gwariant cyhoeddus a lle mae'r arian yn mynd mewn gwirionedd, credaf ei bod yn bwysig iawn i bwyllgor olynol i'r pwyllgor economi a thrafnidiaeth allu gweld, pan fydd yn edrych ar y gyllideb, sut y mae'r cyllidebu'n cyfateb i uchelgeisiau'r Llywodraeth, ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth fel yn y drafodaeth heddiw, ond yn fwy cyffredinol mewn perthynas â'r agenda werdd.
Felly, hoffwn ddiolch, unwaith eto, i aelodau'r pwyllgor a gasglodd y dystiolaeth ac i'r Cadeirydd a'r holl staff—gwaith pwysig iawn ac edrychaf ymlaen at y cyfraniadau eraill i'r ddadl, ac yn enwedig at glywed yr hyn sydd gan y Dirprwy Weinidog i'w ddweud.